04/01/07
Mae un o’n cefnogwyr wedi canmol y gwasanaeth derbynwyd oddi wrth Bodlon.com ganddi yn ddiweddar, felly dyma rhannu hynny gyda chi gyd.
Mae www.Bodlon.com yn gwmni sy’n arbenigo mewn ‘rhoddion unigryw o fwyd a diod wedi’u pecynnu’n gyffrous i gwmnïau ac unigolion’, ac mae eu gwefan nhw yn gwbl ddwyieithog ac yn chwaethus iawn.
Mae eu hamperi yn edrych yn hynod ddifyr, hefyd – beth am brynu un ar gyfer Diwrnod Santes Dwynwen? Bydd eich cariad yn sicr o’i werthfawrogi’n fawr…:-)
01/12/06
Rydym wedi derbyn cais yr wythnos hon gan Wynne ab Iorwerth i ganmol busnes bach ym Mhwllheli y mae o wedi cael gwasanaeth da iawn ganddo. Cofiwch, os ydach chi’n gwybod am fusnes bach lleol Cymraeg sydd yn haeddu ei ganmol, e-bostiwch ni a byddwn ni’n ei gynnwys yn fan hyn.
Dyma geiriau Wynne:
‘Yn dilyn y canmoliant cafodd gwesty Y Beuno yn ein cylchlythyr, hoffwn tynnu sylw at y wasanaeth penigamp y cefais gan siop hen bethau Mr Rodney Adams, Pwllheli yn ddiweddar.
Prynais bwrdd gan Mr Adams ac wrth trefnu’r danfoniad cymerodd Mr Adams yr ofal i fy nghyfarch ac hefyd fy ffarwelio trwy gyfrwng y Gymraeg ar y ffôn.
Cefais wasanaeth llwyr Gymraeg gan aelodau eraill o deulu Mr Adams.
Pob tro fyddai’n defnyddio’r bwrdd cofiaf am y pleser yr oedd i drafod busnes gyda’r cwmni hollol ddwyieithog yma.’
Cewch ffonio Siop Hen Bethau ar 01758-613173, neu ymweld â fo yn Stryd Penlan, Pwllheli.
19/10/06
Rydym yn parhau i roi rhai o’r busnesau rydym wedi’u hyrwyddo eisoes i fewn i’r sustem newydd yma, felly dyma ail-gyflwyno gwaith Kathy Gittins i chi…:-)
Mae Kathy yn dod o Drefaldwyn ond bellach wedi ymgartrefi ym Mhwllheli – penderfyniad cafodd ei ysbrydoli gan ei hawydd i glywed y Gymraeg o’i chwmpas trwy’r amser, a phenderfyniad sydd wedi mynd â Phwllheli cam yn nesaf at fod yn brifddinas celf Cymru…;-)
Cewch weld gwaith Kathy ar www.kathygittins.com – ac os byddwch yn prynu un o’i lluniau bendigedig, cofiwch roi gwybod mai yn fan hyn cawsoch glywed am ei gwefan!
12/10/06
Rydym wedi sôn wrth ddarllenwyr ein cylchlythyr am GwinGar.co.uk eisoes – masnachwyr gwin o safon ar gyfer Gorllewin Cymru, cwmni lleol Cymraeg – ond roedd awydd gynnon ni rhoi sylw iddyn nhw eto fel eu bod yn rhan o’r sustem newydd arlein yma, sydd yn cadw manylion ar gael i’r dyfodol.
Mae ganddyn nhw gysylltiadau teuleuol gyda Ffrainc, angerdd amlwg at win, ac yn llawn haeddu eich sylw: cliciwch yma.
05/10/06
Rydym wedi derbyn cais gan un o’n cefnogwyr i dynnu sylw at Far Tapas/Coffi o’r enw ‘Clonc’ ar 169 Cowbridge Road East, Treganna, Caerdydd.
Mae ganddynt fwydlen dwyieithog, ac mae ein gohebydd yn dweud wrthym bod ‘ganddynt gacennau arbennig a choffi safonol iawn’!
Os byddwch yn yr ardal, galwch i fewn i roi cais arnyn nhw – a chofiwch ddweud wrthynt i chi glywed amdanynt oherwydd iddynt fod â bwydlen dwyieithog!
Cofiwch, os ydych chi’n gwybod am fusnes lleol Cymraeg, neu gydag agwedd hynod iach at yr iaith, gadewch i ni wybod fel bod modd i ni eu hyrwyddo yn fan hyn…:-)