Tystiolaeth i Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol
Tystiolaeth gan 71 o unigolion led-led Cymru
Ann Thomas
7 Rhes Bodegroes
Efailnewydd
Pwllheli
Gwynedd
Yr wyf yn byw yn Efailnewydd (rhyw filltir a hanner o Bwllheli) er 1986 mewn teras o ddeg ty (bythynnod bychain). Pan ddois yma gynta roedd 2 o’r bythynnod yn dai haf a’r gweddill yn deuluoedd Cymraeg i gyd. Rwan dim ond tri teulu Cymraeg sydd yma – mae 7 o’r tai yn dai haf. Trwy’r gwyliau haf a’r penwythnosau dim ond y Saesneg sydd i’w chlywed.
Mae yna faes carafanau ar gyrion y pentref, a pan fyddaf adref ar y penwythnosau, ac yn eistedd yn y ty yn ymlacio, byddaf yn gweld a chlywed pobl yn pasio’r ty ac ym mynd i’r siop i nôl eu papurau dyddiol ac ati, a dim ond yr iaith Saesneg fydd i’w chlywed eto.
Run peth pan af i siopa ym Mhwllheli – mae hi fel petawn i yng nghanol Manceinion..
Roedd ffrind i mi yn siop Spar leol yn Abersoch, yn disgwyl i dalu am ei neges ac yn siarad Cymraeg gyda’i ffrind oedd hefyd yn disgwyl, a dyma na Saesnes yn troi atynt ac yn dweud “Do you mind not speaking that stupid language in front of me”.
Rwyf i a’r gwr wedi dechrau hel achau y teulu, ac wrth fynd yn ôl mewn amser (Pen Llyn) rydym wedi ffeindio tai ein hen deidiau ac maent i gyd yn dai haf erbyn rwan.
David Alun Thomas
7 Bodegroes
Efailnewydd
Pwllheli
Gwynedd
1. Rwyf yn byw mewn ty teras o 10 o fythynnod traddodiadol sydd yma ers cyn cof, ac allan o’r 10 dim ond 3 teulu Cymraeg sydd yma – mae’r 7 ty arall yn dai haf, ac yn wag yn amlach na pheidio.
2. Rwyf yn gweithio fel peintiwr ac addurnwr (hunan gyflogedig) ac yn y tair wythnos dwytha bum yn gweithio yn Llithfaen, Llangian a Llangwnadl – yn gwneud gwaith allanol – ac ym mhob un o’r pentrefi yma doedd dim ond lleisiau di-Gymraeg i’w clywed trwy’r dydd – prin dim un gair Cymraeg. Mae tyddynod bach Pen Llyn wedi mynd i gyd, dim ond y ffermwyr sydd ar ôl.
3. Byddaf yn gweld pobl ifanc Cymraeg yn siarad Saesneg gyda’i plant – dwi’n gweld hynna’n gywilyddus achos mi wneith y plant siarad Saesneg efo pawb wedyn.
4. Mae fy mab newydd raddio mewn prifysgol eleni, does dim llawer o obaith iddo gael gwaith ffordd yma.
5. Rwyf wedi clywed fod caniatâd cynllunio a roddwyd yn y 70au i adeiladu tai yn Abersoch yn dal i fodoli.
6. Mae’r ferch yn byw yn Abersoch ac mae yn gas gennyf fynd yno i’w gweld achos rwyf yn teimlo dan fygythiad. Maent yn edrych yn ddigon rhyfedd arnaf achos mae gennyf enw Cymraeg ar y fan, a’r ddraig goch hefyd.
Edrychaf ymlaen i weld Deddfau Newydd yn dod i rym i reoli’r mewnlifiad sydd yn bodoli ym Mhen Llyn, ac i gadw’r iaith yn fyw hefyd.
Dewi Prysor
57 Maesheli
Penparcau
Aberystwyth
Ceredigion
Pwy ddwedodd rhywbryd “pan fydd farw’r Gymraeg yn y Rhondda a Thrawsfynydd y bydd farw drwy Gymru?”
Gadewais Ysgol Bro Hedd Wyn, Trawsfynydd yn 1979. Roedd 128 o blant yn yr ysgol bryd hynny (ysgol gynradd) a dim ond dau ohonynt, brawd a chwaer, oedd yn gorfod cael gwersi arbennig i loywi eu Cymraeg, a hynny am eu bod wedi symud o’r pentref ym more oes i Hong Kong gyda gwaith eu tad, cyn dychwelyd.
Bellach yn ôl arolwg diweddar gan ‘Trawsnewid’ – yr asiantaeth adfywio yn y pentref, dim ond 75% o drigolion y pentref sy’n siarad Cymraeg. Ugain mlynedd, mwy neu lai; beth am y deng mlynedd nesaf?
Mae Trawsfynydd yn enghraifft diddorol. Pan fu’r Atomfa’n cael ei hadeiladu, bu i weithwyr fudo i’r ardal o bob cwr o Brydain. Setlodd rhai yno ac yn Stiniog. Ond ni effeithiodd hyn ddim ar iaith yr ardal. Mewnfudo naturiol i gymuned iach nad oedd yn fregus dan bwysau ydoedd. Wrth briodi’n lleol, Saesneg fyddai’r iaith rhwng y rhieni yn y cartrefi, ond er hyn, oherwydd cryfder sefyllfa naturiol ar y pryd,
Cymraeg rhugl oedd iaith y plant. Fel mae’r sefyllfa nawr gyda’r farchnad dai a’r hinsawdd druenus yn economi cefn gwlad, mae’r ton ar ôl ton o fewnfudo newydd yn fath gwahanol, hollol annaturiol o fewnfudo. Mewnfudo gyda llond ty o blant, mewnfudo ar gyfer ymddeol ac ati. Mewnfudo er mwyn mewnfudo. Mewnfudo eu diwylliant gyda nhw. Heb anghofio mai amddifadu Cymry o gartref mae’r math
yma o fewnfudo heddiw, nid magu llond ty o Gymry balch fel y byddai’r mewnfudo ‘naturiol’ erstalwm.
20 mlynedd – 25%. Dyna Trawsfynydd. A chyda’r cynnydd presennol yng ngraddfa’r mewnlifiad, mae’n edrych yn ddrwg am 10 mlynedd o nawr.
Credaf bod enghraifft Trawsfynydd yn dangos nad bod yn wrth-ymfudwyr (fel mudo naturiol ers talwm) a bod yn erbyn amrywiaeth a.y.y.b yw sefyll yn erbyn y don gyfoes o fewnfudo bygythiol.
Cymru, Gwyddelod, Albanwyr, Saeson. Roeddent i gyd yn tyrru i Stiniog a Thraws yn ystod adeiladu Pwerdai Traws a Thanygrisiau, ac yn wir, i’r chwareli. Cymry Cymraeg yw eu plant i gyd, diolch i gryfder y diwylliant a’r economi leol ar y pryd. Ond nawr mae cymaint o bobl ddi-Gymraeg yn ein cymunedau (a dwyieithrwydd hefyd) nid oes rhaid i’r mewnfudwyr bigo gair o Gymraeg i fyny. Creir cymuned newydd ochr yn ochr â’r gymuned Gymraeg frodorol. Cymuned Saesneg ei hiaith. Prin iawn yw’r gyfathrach wirioneddol rhwng y ddwy gymuned yma, ac o’r ychydig rai o’r naill gymuned sydd yn cymysgu gyda’r llall, Saesneg yw cyfrwng y cyfathrach hynny.
Oherwydd dwyieithrwydd y gymuned Gymraeg, mae hyn yn naturiol. Ond mae’n dangos bod y Gymraeg a’r diwylliant brodorol o dan anfantais o’r cychwyn cyntaf, hyn yn oed heb y raddfa arswydus o fewnlifiad presennol. Mae hefyd o dan anfantais
naturiol oherwydd cryfder naturiol yr iaith a diwylliant Saesneg.
Felly mae sawl ffactor anfanteisiol yn wynebu cymunedau Cymraeg eu hiaith, hyd yn oed pan mae cyfathrach rhwng mewnfudwyr a thrigolion brodorol. Mae sawl ardal yn cwyno bod iaith pasiantau Nadolig yr ysgol a’r ysgolion Sul, ynghyd â iaith pwyllgorau athrawon/rhieni, rheolwyr ysgol a chynghorau plwy, yn troi yn Saesneg oherwydd mewnfudwyr sydd yn aelodau. Os na all ysgolion lwyddo i gymhathu plant i Gymraeg, mae ar ben ar yr iaith i’r dyfodol. Ac os na ellir darparu gwersi, nosweithiau ‘croeso Cymraeg’, dosbarthiadau diwylliant, offer cyfieithu ac ati i’r mewnfudwyr hynny sydd eisiau cymryd rhan yng ngweithgaredd y gymuned, yna mae angen edrych o ddifrif ar hygrededd ein gwleidyddion.
Meleri Wyn Williams
29 Nottingham Street
Canton
Caerdydd
Cefais fy magu ar fferm yng Nghwm Prysor ger Trawsfynydd a chael fy addysg yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, a Choleg Meirion Dwyfor, Dolgellau. Mi dyfais i fyny mewn cymuned glos Gymreigaidd, gan fod yn aelod brwd o’r Aelwyd a Chlwb Ffermwyr Ifanc Traws. Erbyn hyn does yna ddim Aelwyd yn Traws ac mae aelodaeth y Clwb Ffermwyr Ifanc yn gostwng bob blwyddyn.
Dwi wedi gadael yr ardal ers 5 mlynedd bellach a mae mynd yn ôl adref yn brofiad trist weithiau. Dwi ddim yn siwr o’r ystadegau ond mae yna fwy o Saesneg yn y pentref erbyn hyn a mae na nifer o deuluoedd dwad o ddinasoedd mawr Lloegr wedi landio a diflannu o’r pentref dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r un peth yn wir yn y Blaenau lle nad yw mentrau fel Tai Eryri hyd yn oed yn gallu stopio’r mewnlifiad. Mae diweithdra yn broblem mawr adra’. A minnau yn un o’r bradwrs hynny sydd wedi symud i lawr i Gaerdydd, mae’n gwestiwn gen i os fyswn ni’n gallu dilyn fy ngyrfa yn ôl yn y Gogledd.
Mae’r chwareli’n trengi, yr atomfa wedi cau, Ffatri Plastics yn talu ceiniogau, byd twristiaeth yn dymhorol ac mae’r clwy traed a genau’n hoelen arall yn arch y ffermwyr. Mae’n rhaid i’r economi ffynnu law yn llaw ag unrhyw adfywiad cymunedol. Cyfleoedd a gwaith sy’n mynd i stopio’r all-lifiad. Mae’n rhaid i hyn newid.
Enid F Williams
Onfa
Heol yr Orsaf
Llan Ffestiniog
1. Ar hyn o bryd mae 75 o ddisgyblion yn Ysgol Bro Cynfal (Ysgol Gynradd Llan
Ffestiniog) – 10 o’r rhain yn ddi-Gymraeg. Yr arferiad yw i blant di-Gymraeg fynd i
Ysgol Cefn Coch ym Mhenrhyndeudraeth am dymor i gael eu trwytho yn yr iaith; mae
hyn yn gweithio’n dda. Bydd 5 di-Gymraeg eto’n dod i’r ysgol ym mis Medi – y mwyaf gyda’i gilydd eto, meddai’r prifathro.
2. Cymraeg yw iaith Cyngor Tref Ffestiniog (sydd yn cynnwys y Blaenau a’r Llan),
gyda’r agenda a’r cofnodion yn ddwyieithog.
3. Rhai di-Gymraeg sydd yn rhedeg y ddwy dafarn yn y pentref. Bachgen Cymraeg, yn
enedigol o’r pentref, sy’n cadw’r unig siop sydd gennym, bellach. Cwpwl di-Gymraeg
yn cadw’r Swyddfa Bost, ond mae’r wraig yn dysgu’r iaith – yn dda iawn hefyd.
Cymro yn cadw’r garej.
4. Adeiladwyd stad fechan o dai newydd, ac un neu ddau o dai unigol, yn ystod y
blynyddoedd diwethaf; Cymry sydd ynddynt i gyd.
5. Mae amryw o dai ar werth yma ar hyn o bryd (heb eu cyfrif!). Maent yn amrywio o
un bach iawn a’i bris wedi gostwng i £25,500, i rai o £30,000 + i £40,000. Gwerthwyd dau yn ddiweddar am £80,000+ i deuluoedd di-Gymraeg (plant y rhain ymysg y 5 sy’n dod i’r ysgol ym mis Medi). Mae un am £129,000 (hên dy eithaf maint) – mae’n bosib mai cwpwl, un ohonynt yn Gymraeg, a’r llall yn ddi-Gymraeg sydd am brynu’r ty hwn.
6. Mae 627 ar y rhestr Etholwyr Cyffredinol. O’r rhain mae 164 yn fewnfudwyr di-
Gymraeg, ac o’r 164 hyn mae 12 (i mi fod yn gwybod) yn ceisio dysgu’r iaith – rhai yn
well na’i gilydd. Os oes rhai o’r gweddill yn dysgu, maent yn cadw’r peth yn ddistaw
iawn! Yn rhyfedd iawn, mae’r canran o fewnfudwyr ar y rhestr (26%) yn is nag a fu yn
y gorffennol – rwyf wedi bod yn eu cyfrif o’r blaen, ac yn cael canran o gwmpas 33%.
Esyllt Mair Dafydd
11 Maes Afallen
Bow Street
Aberystwyth
Ceredigion
Gyferbyn â’r Ysgol Gynradd ym Mow Street, adeiladwyd stâd o dai ychydig flynyddoedd yn ôl. Danfonwyd yr holl blant oddi yno i’r ysgol gyferbyn, ac ers hynny mae cynnydd mawr mewn Seisnigrwydd yn y pentref. Ychydig ymhellach i lawr y pentref mae yna gae gyferbyn â’m stâd i, sydd yn cael ei lygadu gan nifer sydd eisiau ei brynu i adeiladu stâd arall!
Pan adewais Ysgol Gyfun Penweddig ddwy flynedd yn ôl roedd newid mawr wedi bod ers 1992. Mwy o bethau’n cael eu gwneud yn ddwyieithog a llai o Gymraeg yn cael ei siarad. Mae nifer o’m ffrindiau yn bwriadu symud i Gaerdydd i chwilio am waith.
Megan Bevan,
Y Blewyn Glas,
Porth-y-rhyd,
Caerfyrddin
Cefais fy ngeni a’m magu yn Sir Gaerfyrddin. Roedd fy rhieni yn Gymry Cymraeg a Chymaeg oedd iaith yr aelwyd. Dewisais fyw mewn cymuned Gymraeg. Cafodd fy nau blentyn addysg Gymraeg, gan gynnwys cwrs prifysgol yn achos un ohonynt; yn achos y llall, mynychodd Brifysgol Morgannwg nad oedd yn cynnig ei gwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
Iaith gwaith
Er dewis byw yn ‘y fro Gymraeg’, anaml iawn y clywir yr iaith ar strydoedd Caerfyrddin erbyn hyn. Mae’n wir y gellir ymuno ag amryfal fudiadau sy’n gweithredu yn gyfan gwbl yn y Gymraeg ond mae rhaid gwneud ymdrech fwriadol i barhau i fyw bywyd Cymraeg yn y sir hon. Nid Cymraeg yw iaith naturiol y stryd erbyn hyn.
Gwaethygodd y sefyllfa yn ddifrifol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mewn siopau
cadwyn, megis Currys, Gilesport ac ati, ni ddeuthum ar draws unrhyw weithiwr a all siarad Cymraeg, er imi wneud pwynt bob tro o ofyn am siaradwr Cymraeg, fel y gwnaf bob amser. Ai cyd-ddigwyddiad yw hyn ynteu polisi? Mae cyfleoedd cyfartal yn bwysig ym mhob agwedd o fywyd y diwrnodau hyn, ond nid o ran iaith i ni Gymry. Mae angen diwygio’r Ddeddf Cyfleoedd Cyfartal er mwyn i siaradwyr Cymraeg
mewn ardaloedd Cymraeg gael yr un hawliau â mewnfudwyr Saesneg eu hiaith. Dylai cyflogwyr orfod sicrhau bod canran y gweithwyr sy’n siarad Cymraeg yn adlewyrchu canran y siaradwyr Cymraeg yn y gymdeithas leol. Dyw hyn ddim yn ormod i’w ofyn, dybiaf i. Da darllen yn rhifyn cyfredol Golwg fod darpar Brif Weithredwr y sir yn credu y dylai staff y Cyngor adlewyrchu’r 55% o siaradwyr Cymraeg yn y sir.
Cefais gyfweliad am swydd mewn sefydliad sy’n berchen ar bolisi iaith Gymraeg grymus. Gwn fod hynny yn wir am mai fi a’i cyfieithodd. Brawddeg agoriadol y cadeirydd oedd, ‘You don’t mind this interview being conducted in English, do you, Megan’. Cefais fy llorio yn llwyr. Teimlwn i mi a’m hiaith gael ein sarhau. Ysgrifennais i gwyno wedyn a derbyn llythyr yn dweud y câi pawb ddewis iaith cyfweliad o hyn
ymlaen.
Daw hyn â mi at bwynt arall. Gwn am nifer fawr o achosion lle y dywedwyd mewn cyfweliad fod rhywun yn medru’r iaith, ond wedi’r penodiad diflannodd y gallu i siarad ac ysgrifennu’r iaith. A chodi hen grachen fyddai cyfeirio at y rhai a addawodd ddysgu’r iaith cyn cael eu penodi ond a fu’n rhy brysur wedyn i gadw’r addewid.
Euthum i siop Leekes un diwrnod. Methais â chael neb o’r staff i siarad Cymraeg â mi yn yr adran lle y dymunwn brynu y diwrnod hwnnw. Mae yno Gymry Cymraeg ond mae eu nifer yn mynd yn llai a chaf yr argraff mai swyddi glanhau yn hytrach na swyddi gwerthu a roddir iddynt. Gan fod y ferch oedd yn fy nghynorthwyo yn cael trafferth i ysgrifennu fy nghyfeiriad, cynigiais wneud hynny yn ei lle. Cafodd bwl
o chwerthin pan welodd fy nghyfeiriad. Doedd hi ddim erioed wedi gweld yr enw Caerfyrddin yn y Gymraeg, meddai hi. A hithau’n byw yn Dre-fach, ryw ddeng milltir o Gaerfyrddin!
Tai
Codwyd stad fechan o ddwsin o dai yn y pentref hwn yn ddiweddar. Un teulu Cymraeg yn unig sy’n byw yno. Pa obaith sydd i’r plentyn Cymraeg ei iaith gadw’r iaith pan fo môr o Seisnigrwydd o’i gwmpas. Pam codi tai os nad oes eu hangen ar bobl leol? Pobl wedi ymddeol yw llawer iawn o’r newydd-ddyfodiaid.
Dymuna fy merch a’i chymar brynu ty yng Nghanolbarth Cymru. Cododd prisiau tai yn y dref honno 110% yn ystod y llynedd; ni welais gyfeiriad at hyn yn unman. Ceisiodd y ddau brynu fferm ond er codi’r pris a gynigient yn uwch na gwerth y fferm, dywedodd y perchen y byddai’n well ganddo hysbysebu’r fferm yn Llundain. Dyn dwad i Gymru, does dim angen dweud.
I grynhoi:
1. Mae angen diwygio’r Ddeddf Cyfleoedd Cyfartal i gynnwys hawliau ieithyddol cyfartal i Gymry Cymraeg.
2. Mae angen i gyflogwyr orfod sicrhau bod canran y gweithwyr sy’n siarad Cymraeg yn adlewyrchu canran y siaradwyr Cymraeg yn y gymdeithas leol.
3. Mae angen addysgu mewnfudwyr i’w helpu i ymgartrefu mewn pentrefi Cymraeg trefnu cyrsiau ar eu cyfer i’w helpu i ddysgu’r iaith ac i ddeall fod gennym ein diwylliant ein hunain.
4. Mae angen sicrhau bod tai ar gael i bobl leol am bris y gallant ei fforddio.
5. Mae angen cael gwasanaethau o’r un safon yn nwy iaith ein gwlad.
6. Dylai fod modd i gyflogwr wirio gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith.
Gwen Jones
Cwyn y Gwynt
Ffordd Penlon
Castell Newydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
Y Gymraeg yn dirywio yn y dref, yn yr ysgolion a’r siopau. Pobl yn dilorni’r iaith heb geisio’i dysgu na’i deall.
Gwenno Fflur Roberts
4 Caeau Gleision
Rhiwlas
Bangor
Gan nad oes siop na thafarn yn Rhiwlas, ac mai rhai o’r hen bobl yn unig sy’n mynychu’r ddau gapel (mae un arall ohonynt newydd gau – y plot a’r adeilad wedi eu gwerthu’n rhad) does na’m cymuned tu allan i’r ysgol gynradd yma. Anaml y clywir y Gymraeg gan y plant bach ar y strydoedd – er ella mai’r lleiafrif ohonynt sy’n ddi-Gymraeg? dwi ddim yn siwr. Mae’r mwyafrif o bobl fy oed i (22) wedi gadael
y pentref.
Gwyn Hughes
19 Padeswood Road
Bwcle
Sir Fflint
Yn y 50au Cymraeg oedd iaith fy mhentref (sef Gwernmynydd). Yna fe adeiladwyd stâd fawr o dai yn 1971 ac fe Saesnigeiddiwyd y pentref gan fewnfudwyr o Lerpwl, fe gawsom ’run fath yn Mynydd Isa, Brychdyn, Shotton, Cei Connah. Byddwch yn ofalus, Wynedd, fe ddaw yr un newid i chi, os na fyddwch yn graff.
Hafina Pritchard
Tyddyn Cae
Boduan
Pwllheli
Mae gennyf 3 o blant rhwng 6 a 3 oed ac ers geni yr hynaf wedi gorfod swnian am Ymwelydd Iechyd Cymraeg bob tro mae angen asesu’r plant. Ers sefydlu yr Unedau Meithrin yn yr Ysgolion Cynradd teimlaf fod 7 oed yn rhy hen i’r Saeson fynd i’r unedau iaith – mae angen dod ag athrawon bro i gael gafael ar y plant yma’n 3 oed.
Heledd Bowers
Min y Don
Ffordd Caerdydd
Pwllheli
Gwynedd
Wedi cael ymwelydd iechyd uniaith Saesneg yng nglinic Pwllheli i roi asesiad 8 mis oed i fy merch.
Heledd Jones
Y Glyn
Dolanog
Trallwm
Powys
Ers i wr Saesneg ddod yn berchennog ar y Swyddfa Bost mae iaith sgwrsio a hel clecs yn y ganolfan bwysig honno yn y pentref wedi troi i fod yn Saesneg. Ar un adeg, 15 mlynedd yn ôl, dim ond dau deulu Saesneg allan o saith oedd yn byw yn y tai cyngor – erbyn heddiw, dim ond un teulu Cymraeg sydd yn byw yno. Arferai cyrddau’r sefydliad Cymdeithas y Merched fod yn uniaith Gymraeg, tan saith mlynedd yn ôl oherwydd cynifer y bobl di-Gymraeg sy’n mynychu, maent wedi troi i fod yn ddwyieithog.
Helen Roberts
59 Cae Du
Abersoch
Pwllheli
Gwynedd
Merch o Ben Llyn ydw i, gyda chenhedlaeth o deulu yma. Rydw i’n coelio yn gryf iawn yn yr iaith Gymraeg, ac i bobl leol gael cartrefi eu hunain. Rydw i’n byw yn Abersoch ar Stad Cae Du, lle mae’r sefyllfa dai yn ddifrifol – tai ar werth gyda phrisiau sydd allan o ddwylo’r bobl leol, tai yn wag am gyfnodau mawr, ac ar ben hyn, mwy o dai yn cael eu hadeiladu. Trwy’r gaeaf mae’r stad fel petai yn cysgu, cyn gynted â bod gwyliau haf y plant mi fuasech yn credu bod y Nadolig wedi cyrraedd yn fuan – goleuadau ym mhob ffenestr i’w gweld gyda’r nos, pobl ym mhob man. Tai ar gyfer pobl leol ddylai’r rhain fod, dim ail gartrefi i’r ymwelwyr.
Mae’r mab yn Ysgol Gymraeg Abersoch sydd â chyfartaledd o 25 o blant. Allan o’r cyfanswm dim ond 4 o deuluoedd sydd yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf adref. Mae rhan fwyaf o’r gwersi yn cael eu treulio yn dysgu’r iaith Gymraeg i’r mwyafrif o’r plant newydd sydd wedi ymuno. Pob parch i’r brifathrawes sydd yn cadw’r iaith yn gryf yn yr ysgol – mae ei gwaith yn mynd yn galetach bob blwyddyn.
Y siopau. Pwynt bach am y siopau, yn ystod yr haf maent yn codi eu prisiau yn y Farchnad Fwyta, hyd at pan ddaw yr ymwelwyr i lawr; pa help yw hyn i’r bobl leol? Rhaid iddynt fynd i Bwllheli i brynu yr un pethau yn llawn rhatach. Yn anffodus ni fedraf ond cyfri llond llaw o siopau sydd â staff Cymraeg. Mae dwy siop newydd yn gwerthu dillad wedi agor yn ystod y ddau fis diwethaf i ymuno â’r naw arall sydd
yma’n barod, sydd yn pwysleisio i chi beidio mynd i mewn heb llai na papur £50. Pa gysur yw hyn i ni ar gyflog yr ardal yma? Nid siopau ar ein cyfer ni yw rhain.
Tafarn Leol. Dim lwc yma. Chlywais i erioed ganu Cymraeg yn dod o’r “Juke Box” neu fand lleol yn canu yma. Pwy sydd eisiau bod ynghanol criw sydd yn syllu arnaf fel petawn mewn gwlad dramor? Mae’n well gen i fynd i rywle arall i gael siarad fy iaith â rhywun lleol. Be sydd yn fy ngwylltio yn fwy na dim ydi’r tai gwag sydd yn cael eu defnyddio fel ail gartrefi, eu hagwedd atom, fel pe baent yn sbio i lawr arnom a chrychu eu trwynau. Geiriau mwya poeth yr ymwelwyr ar y foment ydy “We own this house and property” sydd yn mynd yn fwy poblogaidd bob diwrnod yn eu mysg. Y geiriau fuasai yn fêl i’r glust fyddai “Fi yw perchennog y ty yma”.
Mae’n rhaid gwneud rhywbeth i’r llif o ymwelwyr a ddaw yma i brynu tai fel ail gartrefi, ac i gadw’r gymuned Gymraeg.
Ieuan Evans
Refail
Llanbedrog
Pwllheli
Gwynedd
Bu Llanbedrog hyd y chwedegau yn bentref llawn bwrlwm a gweithgaredd ond erbyn heddiw nid oes yr un gymdeithas Gymraeg yn bodoli heblaw am ryw hanner dwsin o aelodau yn y tri capel. Mae dwy ran o dair o’r pentref yn dai haf neu yn dai i fewnfudwyr o Loegr, ac mae prisiau’r tai hyn dros £100,000 am dy dwy lofft. Adeiladwyd yn y 70au a’r 80au nifer fawr o dai ar gyfer pobl ddwad ac mae’r
tai ymhell tu draw i allu unrhyw berson lleol i’w prynu. Roedd ein cynghorwyr lleol wrth roi caniatâd adeiladu yn hollol ddall i’r broblem ac hyd yn ddiweddar iawn ddim yn barod i wneud dim ynglyn â’r broblem. Nid oes gwaith ar gael yma ac felly mae’r ieuenctid lleol yn ymadael am Gaerdydd a’r de i chwilio am waith. Os na wneir rhywbeth ynglyn â’r sefyllfa yn y ddwy flynedd nesaf, yna pentref hollol farw fydd
Llanbedrog am 8 mis o’r flwyddyn.
Lari Parc
2 Bro Arfon
Y Fron
Caernarfon
Nifer o bobl newydd heb awydd siarad Cymraeg yn symud i fewn i’r tai rhad. Agweddau treisgar, golygau ymosodol ar y stryd wrth imi gyfarch yn y Gymraeg. Y stress tragwyddol o orfod gweld difrod diwylliannol bob dydd heb falio dim. Y ffrwst o wybod bod prif bleidiau’r Cynulliad wedi cytuno peidio â siarad am y llofruddiaeth
ddiwylliannol sydd yn digwydd dan eu trwynau. Help!
Llio Meirion
Ysgubor Plas
Llwyndyrus
Pwllheli
Gwynedd
1. Arferai Neuadd Bentref y Ffôr, Pwllheli gynnal Gwasanaeth Carolau Cymdeithasol
Cymraeg bob Dolig tan 3 blynedd yn ôl. Mae bellach yn wasanaeth hollol ddwyieithog.
2. Roedd siambr fasnach Pwllheli yn uniaith Gymraeg tan 18 mis yn ôl. Mae bellach
yn uniaith Saesneg gyda’r holl swyddogion yn Saeson.
3. Mae 5 swyddfa bost bentrefol wedi cau ym Mhenrhyn Llyn yn ystod y 2 flynedd
ddiwethaf – mae’n ddarlun o’r dirywiad yn yr economi leol sy’n golygu bod ymfudo
oddi yma.
Myrddin ap Dafydd
Ysgubor y Plas
Llwyndyrus
Pwllheli
Gwynedd
Rwy’n teithio o gwmpas ysgolion uwchradd a chynradd yn cynnal gweithdai barddoniaeth ers 8 mlynedd. Mae gallu plant i drin geiriau yn allweddol i allu cymryd rhan mewn dosbarthiadau o’r fath. Bellach, rwy’n ailymweld â rhai ysgolion yn Llyn, Môn, Dyffryn Conwy a Cheredigion – ysgolion a oedd yn arfer bod yn ysgolion naturiol Cymraeg. Mae’r dirywiad yn safon y Gymraeg ar dafodau plant yr ardaloedd
hyn yn echrydus mewn cyfnod byr. Nid yw’r dirywiad yn cael ei adlewyrchu yn ystadegau TASAU.
Roedd cyngherdd Nadolig Ysgol Capel Garmon yn uniaith Gymraeg ddeng mlynedd yn ôl. Mae nifer o rieni di-Gymraeg yn y pentref bellach, ac mae cyfran o’r gyngerdd wedi troi i fod yn Saesneg. Mae cyfarfod blynyddol Rhieni a Llywodraethwyr yr un ysgol bellach yn ddwyieithog a’r Cymry’n tueddu i siarad Saesneg gan nad oes gwasanaeth cyfieithu ar gael.
Mae gwasanaeth Swyddfa’r Post yn Llanrwst yn uniaith Saesneg y tu ôl i’r ddesg ers 3 blynedd, ers pan gafodd ei breifateiddio a cholli’r staff dwyieithog oedd yn arfer wynebu’r cyhoedd.
Meredydd Evans
Afallon,
Cwmystwyth,
Aberystwyth,
Ceredigion
Dyma adroddiad byr ar gyflwr yr iaith yma yn y Cwm, a rhai sylwadau cyffredinol am y mewnlifiad. Ddiwedd pumdegau’r ganrif ddiwetha doedd dim ond dau neu dri ty yma gyda’r Saesneg yn iaith yr aelwyd ynddynt. Yn y chwedegau dechreuodd y dorau agor ac erbyn dechrau’r wythdegau roedd yr aelwydydd Cymraeg yn lleiafrif. Ers hynny ni fu llawer o newid yn y sefyllfa. Ychydig yn rhagor o ddirywiad.
Ar hyn o bryd (a defnyddiais y rhestr etholwyr ar gyfer enwau’r tai) dyma fel y saif pethau:
Tai gyda’r Saeseg yn iaith yr aelwyd: 30
Tai Haf (1 yn unig yn perthyn i Gymry Cymraeg): 20/1
Tai gyda’r Gymraeg yn iaith yr aelwyd: 13.
Ac o’r trydydd dosbarth mae chwech ohonynt yn deuluoedd fferm (1 fferm yn unig sy’n y dosbarth cyntaf) a thri arall yn deuluoedd cysylltiedig ag amaethyddiaeth. Oni bai am ffermio byddai Cwmystwyth yn bentref Seisnig. Nid oes ffigurau gennyf ar gyfer Pontrhydygroes, Ysbyty Ystwyth, Pontarfynach, Trisant a Phonterwyd ond o’r hyn a glywaf nid oes fawr ddim gwahaniaeth o ran canrannau yno.
Ac yrwan tri sylw cyffredinol byr ar y mewnlifiad – gair sy’n ddychryn i bleidiau gwleidyddol, gwaetha’r modd:
1. Y mewnlifiad sy’n lladd yr iaith. Mae’r ffactorau economaidd anffafriol a’r
allfudiad yn hen stori. Bu fawr y traethu am hyn ymysg gwleidyddwyr gydol y ganrif
ddiwethaf a phytiog ac annigonol a fu’r ymdrechion i wella’r sefyllfa. Does dim lle i
feddwl y bydd pethau’n wahanol y tro hwn. Ar y llaw arall gall y mewnlifiad ladd
cymuned Gymraeg o fewn ugain mlynedd, neu lai. Yn rhifyn Awst 7fed o’r Western
Mail priodolir y geiriau hyn i Cynog Dafis: “It is largely a problem of economic
weakness and economic out-migation.” Anghywir.
2. Mewn mannau megis Cwmystwyth mae’n bur afreal i siarad am reoli’r farchnad
dai. Prin fod rhagor na dau neu dri o dai yma sy’n llai eu pris ar y farchnad bresennol
na £100,000. Mae’r cyfan ymhell bell tu hwnt i ganran cyflog arferol gweithwyr y
cylch. O safbwynt yr iaith rhaid gosod y pwyslais yma, ac mewn mannau cyffelyb, ar
yr angen am sefydlu cyfundrefn addysg oedolion ffurfiol a fyddai’n anelu at ddarparu
dau fath ar gwrs sef ‘Welsh Studies’ (yn rhoi gwybodaeth gyffredinol am Gymru) a
chyrsiau hyfforddiant yn y Gymraeg. Dylid eu canoli mewn Ysgol Gymuned a
fyddai’n gwasanaethu clymaid o bentrefi (yma, er enghraifft Pontarfynach ar gyfer
Trisant, Pontrhydygroes, Ysbyty Ystwyth, Cwmystwyth a Phonterwyd) gyda Thiwtor,
a Chynorthwy-ydd yn aelodau o staff yr Ysgol Gymuned. Gweithredid ar sail
wirfoddol wrth gwrs a byddai disgwyl i’r myfyrwyr dalu rhywfaint at y ddarpariaeth.
Galwai hyn am ddiffinio “ardaloedd adfer”, am gyllid sylweddol o Ewrop a’r
Cynulliad Cenedlaethol ac am Gyrsiau Hyfforddiant mewn colegau ar gyfer
Tiwtoriaid.
3. Mae’r sefyllfa yn wahanol mewn cymunedau lle mae’r Gymraeg dan fygythiad ond yn dal yn rym ym mywyd y bobl. Yma mae galw am greu gwaith, rheoli’r farchnad dai a ffafrio pobl leol mewn gwaith a thrigiant. Dyma her i greadigrwydd y gwleidyddwyr a’r holl arbenigwyr sydd at eu galwad. Ac y mae brys arbennig ar reoli’r mewnlifiad yma. Fel canlyniad i hynny, i reolaeth ar drigiant y dylid rhoi’r flaenoriaeth; sicrhau amodau a fydd yn galluogi’r bobl leol i brynu tai.
Mae i hyn oblygiadau cyllidol llawer mwy sylweddol nag yn achos (2) ond dyna ffaith y mae’n rhaid mynd i’r afael â hi os yw llywodraeth gwlad am amddiffyn a chryfhau Cymunedau Cymraeg.
Pa bris ymwrthod â hil-laddiad?
Nesta Evans
Awelon
Ffestiniog
Gwynedd
Saith ty wedi eu gwerthu iddynt a thri drws nesaf i’w gilydd. Mewn pwyllgorau mae un Sais yn gallu newid iaith y cynhelir y pwyllgor ynddi.
Sian Harris
Tyddyn Andrew Uchaf
Bethel
Caernarfon
Gwynedd
Teulu Cymraeg ym Methel wedi cyfnewid ty cyngor â theulu uniaith Saesneg o Fanceinion. Rhain wedyn wedi denu teulu a ffrindiau atynt a rheini’n aros. Mae’n anghredadwy fod Cyngor Gwynedd yn caniatau y math yma o gyfnewid.
Helga Martin
Hafan
Ysbyty Ifan
Betws y Coed
Sir Conwy
[Cymraes ail-law fel petai, wedi fy ngeni yn y Swistir, fy magu yn yr Almaen ac wedi byw yn Lloegr am ddeng mlynedd ar hugain, yna yma ers 1984.]
Yma, yn Ysbyty Ifan, rydym yn lwcus hyd yn hyn fod popeth yn Gymraeg a Chymreig. Ond am ba hyd, ni wn. Mae’r siop wedi cau ers 31.7.1999, nid y mewnlifiad ond yr archfarchnadoedd a’i lladdodd. I leddfu’r broblem, h.y. bod heb siop ac oherwydd heb le addas i gael sgwrs wrth gyfarfod bob dydd, agorodd merch leol sy’n berchen ar siop wnio dillad, swyddfa bost am bedair awr yr wythnos. Mae hyn
yn fendith wir. Hyd yn ddiweddar, ni chafodd mewnfudwyr o Loegr fawr o ddylanwad ar naws y gymuned. Ond daeth ychwaneg y llynedd, ac erbyn hyn maent yn ‘gelio’ yn fwyfwy. Bydd dwy gymdeithas cyn bo hir os bydd pethau’n symud i’r cyfeiriad yna ac mae’r ofn o hyn yn dechrau cydio yn y bobl leol. Mae canran y tai sydd â Saeson yn byw ynddynt neu sy’n cael eu defnyddio fel tai haf wedi cynyddu ers y llynedd. Hyd yn hyn dim ond un o’r perchnogion tai haf sydd wedi dangos diddordeb gonest mewn cydio yn yr iaith Gymraeg. Cefais gryn sioc wrth iddo fy nghyfarch a ‘bore da, bore braf!’ wedi dysgu rhywfaint o dapiau yn Lloegr.
Sarah Marion Jones
Llwydiarth
Cae Capel
Pwllheli,
Gwynedd
Rwyf newydd raddio, ond nid oes gwaith / cyflogau i gyfateb a fy nghymwysterau yn fy ardal. Mae’n edrych yn debyg y bydd rhaid i mi symud i ardal arall i gael swydd. Teimlaf fod pawb o fy nghyfoedion yn gadael ac yn symud i Gaerdydd a dinasoedd eraill. Nid oes ganddom ddewis i aros yn ein hardaloedd.
Enw a chyfeiriad ar gael
Yr ydwyf yn gweithio i gwmni sydd yn un o brif gyflogwyr y dref ers 26 mlynedd, yn ddiweddar cafodd y cwmni arian gan Awdurdod Datblygu Cymru i symud i adeilad newydd. Yr ydym wedi symud nawr ers deuddeg mis. Yn yr amser hynny, mae llawer swydd newydd wedi eu gosod yn y cwmni, ond mae’r rhan helaeth ohonynt wedi mynd i Saeson uniaith, rhai sydd wedi cael help gan y cwmni i ailgartrefu. Mae un
neu ddau ohonynt wedi ymddeol i’r ardal neu eu partneriaid wedi ymddeol yma.
Pur anaml y mae yna ddyrchafiad o fewn y cwmni, a does yna ddim un Cymro mewn swydd rheolwr yn y swyddfa; yn lle hynny yr ydym ni sydd wedi rhoi blynyddoedd gorau ein bywydau i’r cwmni yn cael ein gwthio i waelod yr ysgol.
Fel person sengl sydd yn byw mewn ty cyngor nid oes gobaith byth i mi fedru fforddio tþ fy hun. Mae ty bach tair ystafell wely mewn rhes yn y pentref newydd fynd ar werth am £75,000 ac ar y cyflog yr ydwyf fi yn ei ennill fuaswn i byth yn cael morgais amdano. Mi fuaswn wrth fy modd yn symud oddi yma, oherwydd mae’r stâd wedi dirywio yn ofnadwy yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae rhent tai preifat hefyd yn costio rhwng £50 a £60 yr wythnos, sydd allan o’r cwestiwn. Ychydig o fisoedd yn ôl aeth ty lleol yn wag ac fe’i osodwyd gan Gyngor Gwynedd i gwpwl sydd wedi symud yma o ganolbarth Lloegr ac yn rhedeg cartref i’r henoed yn Abersoch. Ble, gofynnaf, gafodd y rhain ddigon o bwyntiau i gael ty cyngor?
Credaf ei bod yn hen bryd i rywbeth gael ei wneud yn fuan iawn cyn y bydd yn rhy hwyr, a bydd y ‘Cheshire Set’ wedi cymryd drosodd a bydd yr ardal yn lle iddynt ddianc am ben-wythnos neu am byth.
John Glyn
Garmon
2, Stad Ty Hen
Waunfawr,
Gwynedd
Credaf fod yr arfer o leoli teuluoedd di-Gymraeg mewn pentrefi Cymraeg gan y Cymdeithasau Tai yn rhywbeth y dylid edrych arno ar frys. (Er enghraifft, Cymdeithas Tai Eryri ym mhentref Trefor yng Ngwynedd).
Mae’n siwr mai gofyniadau statudol sydd y tu ôl i hyn ond ag ystyried pa mor fregus bellach yw Cymreictod ein pentrefi does bosibl nad oes modd newid y rheolau, neu eu hatal o dan yr amgylchiadau arbennig hyn i warchod yr hyn sy’n weddill o’n hetifeddiaeth.
Helen Gwyn
Dwylan
Ffordd Bangor
Caernarfon
Hyd yma mae tref Caernarfon yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg (o bob safon!) a glywir yn naturiol ar y stryd, yn y siopa ac yn y tafarnau. Rwy’n Gynghorydd Tref ac fe gynhelir y cyfarfodydd yn uniaith Gymraeg ac mae’r cofnodion yn ddwyieithog. Mae hyn yn welliant ar y gorffennol ar un wedd, ond mae rhai o’r Cynghorwyr yn dal i
ystyried y Gymraeg a’i pharhad fel rhywbeth amherthnasol iddyn nhw.
Mae Tai Eryri yn cael eu beio am y tai a adeiladwyd ar Stad Maesincla (Cae Llwybr) a’r tenantiaid i gyd yn dod o’r tu allan i’r ardal. Mae hyn wedi creu drwgdeimlad garw.
Diffyg gwaith, siopau gwag, tor-cyfraith a’r streic yn hen ffatri Ferodo yw’r problemau cyfredol. Ar y funud mae’r pynciau hyn yn cael eu trafod ar y stryd trwy gyfrwng y Gymraeg. Rhaid wrth waith i gadw’r Cymry ifanc yn y dref a chodi eu safon byw.
Mary Hughes
Llwynpiod
Y Groeslon
Gwynedd
Cymharol ychydig o adeiladu tai newydd. Mae’r ardal yn dal yn dda – amryw o gyfarfodydd llewyrchus yn ystod y gaeaf ac ati (WEA, Merched y Wawr, Cymdeithas Lenyddol, Gwyl Ddrama, Urdd).
Prinder pobl ifanc i afael yn yr awennau pan fydd ein cenhedlaeth ni (50+) yn blino. Gormod o dai yn cael eu gosod i denantiaid dros dro (6 mis ac ati). Dim ymlyniad i’r gymdeithas leol.
Amryw o bentrefi cyfagos yn waeth allan o beth wmbredd – Bron-y-foel, Nebo, Cwm y Glo, yn enghreifftiau o ddieithrio cymdeithasol.
Meryl Davies
Nyffryn
Dinas
Pwllheli
Pob ty sydd yn mynd ar werth yn yr ardal yn cael ei brynu gan Saeson. Adnoddau’r gwasanaethau cymdeithasol a’r awdurdod iechyd yn cael eu defnyddio’n drwm iawn gan henoed sydd wedi ymddeol i’r ardal. Dim siop, nac ysgol, o fewn tair milltir. Teuluoedd lleol yn methu cael grantiau adnewyddu na chaniatâd i godi ty yn eu hardaloedd eu hunain.
Helen Wynne Jones
Ty’n Lon Fawr
Y Rhiw
Pwllheli
Gwynedd
LL53 8 AH
Mae prisiau tai yn ddifrifol o uchel yn yr ardal yma, ac yn ei gwneud yn gwbl amhosibl i bobl ieuanc lleol eu prynu. Pam na wnaiff y Cyngor Sir brynu rhai o’r tai hyn a’u gosod i deuluoedd lleol? Pam nad oes grantiau i allugoi pobl ifanc i’w prynu? Pam na all y Cynulliad Cenedlaethol wneud rhywbeth ar frys?
Emyr Hywel
Cnwc yr Onnen
Blaenporth
Aberteifi
Ceredigion
SA43 2BD
- Ysgol leol, tua 80% o’r plant o gartrefi Saesneg neu gymysg eu hiaith.
- Cyngor Cymuned Aberporth, prif iaith yw Saesneg, cofnodion yn Saesneg.
- Saeson yn rhedeg y dafarn leol. Saeson sy’n rhedeg y mwyafrif helaeth o fusnesau yn
Aberporth.
- Tai newydd yn britho pob pentref yn y cylch – Blaenporth, Aberporth, Tan-y-groes, Beulah, Blaenannerch, Penparc, Brynhoffnant. Saeson sy’n byw yn y mwyafrif helaeth o’r tai hyn.
- Yn awr mae Cyngor Ceredigion yn sôn am helaethu’r pentrefi hyn eto – yn ychwanegol at y cynnydd a ragwelir yn y Cynllun Unedol Lleol oherwydd y bwriad i ddatblygu maes awyr Aberporth. Datblygiad, a honnir yn gelwyddog, a fyddai’n datrys diweithdra’r ardal. Ond cynyddu mewnlifiad yw’r bwriad, a throsglwyddo ein grantiau (megis Amcan 1) i ddwylo estron.
Siôn Amlyn
Angorfa
Trefor
Caernarfon
Gwynedd
Oherwydd natur y pentref (tai chwarelwyr 2 lofft ar y mwyaf) nid yw pobl leol yn prynu’r tai gweigion oherwydd eu bod yn (i) rhy fach, (ii) mae gormod o waith a chostau ‘diwygio’ arnyn nhw; er enghraifft, gosod ty bach, bath yn y ty yn hytrach nag un tu allan.
Felly mae Cymdeithasau Tai yn eu prynu (fe wyddwn am 6 ty allan o stryd o 9) ac yn eu hatgywerio ac yna eu rhentu i bobl a phroblemau cymdeithasol yr ardal a thu hwnt. Yr effaith ydi fod y stryd honno’n dirywio’n syth gan orfodi’r bobl sy’n byw o bobtu symud. Felly yn sydyn iawn mae stryd a fu’n fwrlwm o Gymraeg yn troi i fod yn fwrlwm o acenion Lerpwl a Swydd Gaer.
Jên Rowlands
Angorfa
Waunfawr
Caernarfon
LL55 4 BJ
Cartrefi hynafol fy nheulu (lle magwyd fy modryb, nain, taid a.y.y.b.) ym Mhen Llyn i gyd wedi’u gwerthu i bobl ddi-Gymraeg am grocbris erbyn hyn. Fy merch 4 ý oed wedi dod gartref o’r ysgol un diwrnod (rhyw ddeufis yn ôl) yn dweud nad ydi hi’n deall
y plant eraill yn yr ysgol – maen nhw’n siarad Saesneg. Roedd hi wedi cael ei gwneud i deimlo’n estron yn ei phentref ei hun.
Wendy Maglonia Lloyd Jones
Ceiriad
Cilian
Pwllheli
Gwynedd
Mae 16 o dai ar hyd y lôn (Lôn Groes – ‘cil-ffordd’ yng ngeirfa’r Cyngor Sir). Ein teulu ni yw’r unig deulu o Gymru sy’n byw yn barhaol yma bellach. Mae 5 teulu o Saeson yn byw yn barhaol yma. Mae 7 ty yn dai haf sy’n perthyn i Saeson. Mae tri sy’n perthyn i Gymry – cartrefi lle mae’r genhedlaeth hyn wedi marw a’r genhedlaeth iau wedi etifeddu, a’r tai hyn yn cael eu gosod i ymwelwyr yn yr haf. Ein teulu ni
yw un o’r rhain. Mae’r siop leol (ym Mwlchtocyn) oedd hefyd yn Swyddfa’r Post, bellach wedi ei gwerthu gan y Saeson oedd yn ei rhedeg.
Wyn ac Olwen Jones
Ty’nybraich
Dinas Mawddwy
(Mae Teulu Wyn yma ers bron i 1,000 o flynyddoedd yn ffermio.)
Mae cadarnleoedd Cwmwd Mawddwy yn ei chymoedd. Pentref Dinas wedi tawelu, gyda llawer o Saeson yn prynu tai. Y siop wedi cau, Swyddfa Menter Cymad yno ’rwan. Swyddfa Bost yn y Neuadd Bentref, diolch fod y Pwyllgor wedi bod ddigon effro cyn i Gownteri’r Swyddfa Bost gael cyfle i’w chau’n gyfan gwbwl. Aelodau’r capel wedi dirywio oherwydd marwolaethau y rhai hynaf, dim llawer o bobl iau yn mynychu. Dros ddeng mlynedd yn ôl daeth teulu o fewnfudwyr i fyw yma, a daeth llawer i’w dilyn a’u problemau gyda nhw. Llawer o’r bobl yma heb geisio dysgu’r iaith na chesio ymdoddi i’r bywyd yma. Problemau cyffuruiau hefyd wedi cychwyn yr amser yma. Ffermwyr yn bodoli drwy arall-gyfeirio i dwristiaeth a.y.y.b. ond mae pen draw ar hynny. Mae’n anodd i feibion ddilyn oherwydd nad oes incwm byw i gael yn aml o’r fferm i’r rhieni, heb sôn am y meibion a’r merched. Mewnfudwyr yn gallu fforddio prynu ein tai, a newid o hynny i fyw arno, ac yn adeiladu ac altro adeiladau ac wedyn yn anfon am ganiatâd cynllunio i’r Parc Cenedlaethol! Gwae i ni Gymry wneud hynny, fe gawsom ein cosbi!
Di-enw
Dyma i chi beth ffeithiau am fy nyfodol i yn y fro Gymraeg. Rhaid pwysleisio nad yw’r amgylchiadau y byddaf yn eu disgrifio yn berthnasol i bawb, ond mi fyddan nhw i nifer. Sut ma’ cychwyn, ‘wy ddim yn siwr, ond gobeithio y gallwch chi wneud sens o hyn.
1. Rwyf wedi graddio ers dwy flynedd bellach o’r Brifysgol. Cyfartaledd cyflog unigolyn sydd newydd raddio am y blynyddoedd cyntaf yw £16,000, yn ôl ymchwil a wnaed gan UCM (NUS). Rhaid cofio fod y ffigwr yma mwy na thebyg yn chwyddedig, gan ei fod yn cymryd i mewn i gyfartaledd y nifer helaeth o raddedigion sydd yn chwilio am, ac yn cael, swyddi yn y brifddinas (Caerdydd), dinasoedd Lloegr, a de-ddwyrain Lloegr. Yn sicr felly nid yw’r ffigwr yma fel y saif yn berthnasol i Geredigion na Chymru. Mae’n bosib fod Ceredigion yn gorwedd yn agosach at £13,500, ond ni ellir cadarnhau hyn.
2. Yr wyf i yn dra ffodus i fod wedi ffeindio gwaith yng Ngheredigion sydd yn talu £16,000 y flwyddyn. Mae hyn yn fwy felly na beth y tybiaf yw cyfartaledd Ceredigion.
3. Mae cynghorydd morgais wedi fy nghynghori y gallwn, fel unigolyn graddedig sydd â chyfrif yn HSBC, gael morgais i’r swm o bron i 4 gwaith fy nghyflog, sef £64,000. Swnio’n hael iawn ac yn dipyn o arian.
4. Yr unig dai y gallaf i eu cael yn Aberystwyth o fewn y pris hwn, (hynny yw tai sydd ar gael gyda Morgan Jones a Evans Bros) yw fflatiau neu dai bach iawn, iawn. Pe buaswn yn briod ac am gael morgais ar y cyd, gallwn gael ty gwerth uchafswm o tua £80,000, heddiw. Unwaith eto mae’n swnio’n dda, ond does yna ddim tai teuluol ar gael o fewn y pris yma. Mae yna dai teuluol (3 ystafell wely) yng Nghwmann, ger Llambed, am £125,000, byddai’n rhaid i’r teulu cael incwm o £50,000 er mwyn cael morgais ar dy o’r fath. Yn syml, ‘dyw incwm o’r fath ddim ar gael i’r rhelyw o’r teuluoedd yng Ngheredigion, a minnau yn ei plith. Mae’r banciau yma yn
cynnig swm o’r fath gan dybio fod gyrfa’r unigolyn am roi gwell cyflog blynyddol iddo/i, ond nid yw hyn yn wir yma yng Ngheredigion. Does dim llawer o agoriadau ar gael yma i gael gyrfa o’r fath, heblaw fod rhywun yn gweithio fel athro/athrawes neu yn y cyngor, ac nid yw athrawon cyffredin yn debygol o gael fawr mwy na tua £23,000 y flwyddyn.
5. Ychydig iawn o agoriadau eraill sydd ar gael. Ystyriwn un o dudalennau we Y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol. Nid oes gyfeiriad ar y ddalen a welais i at Geredigion, ond, mae yna am Sir Gâr. Cyfartaledd Gross Annual Earnings Sir Gâr yw £18,730, (o’i gymharu â Milton Keynes sydd yn £25,376 – nid Milton Keynes yw’r mwyaf llewyrchus o bell ffordd!). Mae hwn yn ystadegyn sydd yn ystyried pobl broffesiynol sydd wedi bod yn gweithio am flynyddoedd i gyrraedd uchelfannau eu swydd. Rhydd y G.A.E. yma yn Sir Gâr forgais potensial o £56,217. Ni all Sir Gâr ddim fod mor wahanol â hynny i Geredigion, os rhywbeth mae’n siwr ei fod yn waeth
yng Ngheredigion (yn wir, awgryma llythyr yn y ‘Teifi-Side’ heddiw fod cyfartaledd cyflog yn ne y sir yn £10k!). Unwaith eto, digon i brynu fflat bach yn Aberystwyth.
6. Beth am y rhai hynny sydd heb gael addysg brifysgol, ac felly ddim yn cael y pleser o’r banc yn cynnig morgais gwerth pedair gwaith eu cyflog? Beth os ydyw’r rhain yn deulu ifanc. Ystyriwn hyn mewn modd hael. Gwr ifanc yn cael incwm o £15,000 (cyflog hael i’r Sir). Gwraig ifanc yn ceisio magu plentyn cyntaf y teulu, ond yn gweithio’n rhan-amser. Ychwaneger tua £7,000 felly at incwm y teulu (hynny yw, yr incwm y maent am gael eu morgais wedi ei asesu arni). Swm o £22,000. Morgais dywedwn yn dair gwaith hyn ar y mwyaf = £66,000 yn cynnwys costau
cyfreithwyr. A hyn fel gyda pob morgais a theulu arall, ar ben gorfod rhedeg y car a bwydo’r teulu. Does yna ddim tai teuluol ar gael yng Ngheredigion am £66,500. O roi byrdwn arall ar y teulu ifanc, mae costau rhent ar y foment dipyn uwch na’r morgais, hynny yw, mae’n rhatach yn y pendraw prynu ty a chael morgais na gorfod talu rent ar hyn o bryd. Sut felly y mae disgwyl i’r teulu ifanc yma roi blaendal sylweddol ar y ty o’u dewis os oes cyfran helaeth o’u hincwm yn gorfod mynd i dalu rhent chwyddedig? Mae’n amhosib.
Llanddeusant, Ynys Môn
Cafwyd enw a chyfeiriad
Mewnlifiad- Tua hanner disgyblion yr ysgol ddim yn gallu siarad Cymraeg. Pan roeddwn i’n ddisgybl yno (1988-1994) roedd pawb yn gallu siarad Cymraeg rhugl yn yr ysgol.
All-lifiad- Pobl Cymraeg eu hiaith yn symud i’r trefi i chwilio am waith. Nifer y Cymry Cymraeg yn lleihau bob blwyddyn.
Llangwnadl, Gwynedd
Simon Jones
Mewn lle gwledig felma, lle does na ddim pentref agos, ‘mond tai ar wasgar, mae effaith y mewnfudwyr di-Gymraeg yn ofnadwy. Mewnlifiad- Mae pobol o ffwrdd yn symud i’r ardal gyda digon o bres i setio busnes i fyny a phrynu ty. Maen nhw yn cael pob cymorth mewn grantiau a.y.y.b. gan y cyngor sir, ‘Business Connect’, ELWa a.y.y.b. am osod busnes newydd i fyny. Fel arfer does yna ddim ystyriaeth o fusnesau cynhenid lleol. Mae nifer y cwsmeriaid yn aros yr un fath, ond mae’r ‘gacen’ yn cael ei rhannu allan i mwy o bobol. Mae gen i dystiolaeth o hyn ym maes argraffu yn Llyn. Mae yna dri o argraffwyr yn gweithio yn Llyn (gwaith teuluol neu hunan gyflogedig) tydyn nhw ddim wedi tyfu mewn nifer o weithwyr ers 10 mlynedd. Yn y
cyfnod yna, mae tri argraffwr gwahanol o dros Glawdd Offa wedi ‘setlo yma’, wedi mynd trwy’r grants i gyd, wedi gwneud niwed i’r busnesau lleol a wedi symud o ’ma ar ôl methu gwneud bywoliaeth. Tydi hyn ‘mond yn dwyn adnoddau a niweidio yr economi lleol. All-lifiad- nid yw pobol busnes lleol yn gallu cyflogi pobol ifanc newydd, am y rheswm uchod. Mae rhai yn sôn ein bod ni angen mewnlifiad o bres a phobol, a syniadau, ond ddim ar lefel yma yr economi. Mi ddylsa ‘tele-working’ a.y.y.b. neud o’n haws i bobol weithio yng nghefn gwlad, ond o brofiad rhedeg
safleoedd cymunedol i Llyn; mae pobol yn symud i mewn i Llyn gyda gwaith, ond ddim yn cyffwrdd â’r gymuned lleol.
Rhian Glyn,
Coed Anna,
Nanhoron,
Gwynedd.
Ardal Garnfadryn
21 o dai yn eiddo i Gymry
2 yn wag
27 yn eiddo i Saeson
6 o dai wedi eu gwerthu yn y pum mlynedd diwethaf i gyd i Saeson.
Nid oes yma neuadd, felly gweithgareddau yn troi o gwmpas y capel – y rhain ar hyn o bryd i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Y rhan fwyaf o’r tai dros £80,000 – tyddynnod bychan bellach hefo ceisiadau yn y cyngor i gael pwll nofio!! Dim tai newydd yn cael eu codi. Dwi’n 40oed a phan o’n i tua 10 dwi’n cofio dwy siop yma (dim un rwan) a Chymry yn byw mewn 39 o’r tai yma a rhyw 10 yn dai haf neu furddunod.
Llinos H Jones,
6 Nant Ffynnon,
Nant Peris,
Caernarfon,
Gwynedd.
Dw i’n byw mewn pentref bychan iawn sydd wedi profi sawl dirywiad economaidd a chymunedol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r mwyafrif o dai yn wag drwy’r flwyddyn, neu’n dai haf, neu’n hosteli dringo – tai braf a fyddai’n gwneud cartrefi delfrydol i deuluoedd lleol. Ond eto, mae prisiau’r tai sydd ar y farchnad yn anobeithiol o uchel ac mae sawl teulu ifanc wedi gorfod gadael y pentref er mwyn prynu cartref.
Ychydig iawn o Gymry Cymraeg sy’n byw yma heddiw o’i gymharu â degawd yn ôl dyweder. Does yr unlle i’r Cymry gyfarfod heblaw am y dafarn leol sy’n llawn o dwristiaid/dringwyr/gwersyllwyr am y mwyafrif o’r flwyddyn. Caewyd siop y pentref (sy’n rhan o dy mawr 8 ystafell wely) am fod y perchnogion (Saesneg) wedi penderfynu byw yn Affrica! Mae’r adeilad yn wag am 50 wythnos y flwyddyn. Mae nifer o blant Cymraeg yn y pentref ond tueddent i siarad Saesneg os oes un plentyn
Saesneg yn eu cwmni! Hoffwn i brynu ty yma ond mae’r prisiau y tu hwnt i’m gallu i – a chymaint o dai gwag yma, mae’r peth yn warthus.
Mae 85 ty yn y pentref. Mae:
36 ohonynt gyda pherchnogion Cymraeg, a rhai sydd â phlant wedi dysgu’r iaith.
13 yn gartrefi Seisnigaidd; mewnfudwyr o Loegr.
23 yn dai haf sy’n wag am y rhan fwyaf o’r flwyddyn, gan gynnwys yr hen siop.
7 yn hosteli i glybiau cerdded / dringo o Loegr. Deuant yma’n ystod y
gwyliau fel arfer. Mae un hostel wrth yr Eglwys wedi derbyn grant
sylweddol gan y loteri er mwyn adnewyddu’r adeilad!
2 yn ail gartref i bobl ‘leol’
2 yn adfeilion
2 yn wag drwy’r flwyddyn.
* Mae un ty wedi cael ei brynu gan wasanaethau cymdeithasol Manceinion, er mwyn cartrefu pobl ifanc a
chanddynt broblemau ymddygiad – maent bellach yn creu helynt yn y pentref byth a beunydd.
Eirian Jones,
9 Brif Heol,
Blaenau Ffestiniog,
Gwynedd.
Fel rydych yn gweld rydw i yn byw ym Mlaenau Ffestiniog, rydw i wedi byw yma erioed. Buaswn i yn dweud mai yn y deng mlynedd diwethaf mae pethau wedi dechrau newid yma. Pobl Saesneg yn dod yma, hyd yn oed pobl ifanc gyda phroblemau. Mae’r tai yma yn rhad iawn i’w prynu, o gwmpas £14,000 – £30,000.
Rydw i a fy ffrindiau wedi aros yn ein cynefin ar ôl gadael ysgol a dychwelyd o’r Coleg. Rydym i gyd gyda swyddi lleol, diolch byth, ac yn siarad Cymraeg. Ond mae yna un peth sydd yn fy mhoeni i yn fawr iawn, pan mae rhai sydd yn byw yn y cynefin, yn rhentu llwyth o dai i bobl Saesneg; pan fydd bobl lleol Cymraeg yn cael eu gwrthod. Mae hyn angen cael ein sylw ag mae angen ei stopio. Rwan! Dydio ddim yn
deg.
Gwynne Wheldon,
Llanerch,
42 Maes Gerddi,
Porthmadog,
Gwynedd.
Er fy mod i’n byw yn nhref Porthmadog rydw i’n aelod a blaenor yn Eglwys Ebeneser, Borth y Gest, nid nepell o’r dref hon. ‘Does dim cynnydd o gwbl yn aelodaeth Ebeneser am nad oes Cymry Cymraeg yn symud i mewn i’r pentref. Mae nifer helaeth o dai haf / pen wythnos, ym Mhorth y Gest, a’r rheiny yn eiddo i Saeson uniaith nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn na chrefydd na ddiwylliant trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n wir bod rhai Saeson sydd wedi symud yno yn dysgu’r iaith, neu wedi dysgu’r iaith, ond
lleiafrif ydyn nhw. Diolch am athrawon ysgol gynradd y pentref sy’n gwneud gwaith glew yn dysgu’r Gymraeg fel ail-iaith i’r plant.
John J Jones,
8 Maesceinion,
Waunfawr,
Aberystwyth
Ceredigion.
Fel athro cyflenwi sy’n teithio ac yn dysgu yn rhai o ysgolion gwledig traddodiadol Cymraeg pentrefi Ceredigion, sylwaf yn gynyddol fwyfwy erbyn hyn ar yr effaith a’r dylanwad mae plant newyddddyfodiaid, a rhai sydd erbyn hyn wedi dysgu’r iaith, ond nid yn ei dewis fel cyfrwng naturiol, yn ei gael ar Gymreictod y cymunedau. Yr effaith mwyaf trist yw fod y plant hyn yn dylanwaadu mor gryf ar y Cymry Cymraeg, fel bo’r Cymry cynhenid erbyn hyn yn siarad Saesneg â’i gilydd!
Siân Rhun Griffiths,
Bryn Salem,
Penmachno,
Conwy.
Mae fferm y teulu wedi ei lleoli mewn ardal arbennig. Golygfeydd gwych yng nghanol y wlad, a thaith fer o tua thri chwarter awr at y dref fawr, Llandudno. Yn ddelfrydol ar y ffarm fyswn i wrth fy modd byw, ond mae un broblem. Mae’r ardal mor boblogaidd, mae o’n denu pobl gyfoethog Saesneg i fyw yno. Yn yr ysgol gynradd leol yr unig blant sydd yn siarad Cymraeg yw fy nwy gyfnither. Felly nid af i i fyw yno oherwydd dwi ddim isio fy mhlant i dyfu fyny mewn cymuned Saesneg.
Amanwy,
13 Golwg Tywi,
Llangynnwr,
Caerfyrddin,
Sir Gâr.
Er fy mod i o deulu Cymraeg, es i i ysgol uwchradd Saesneg oherwydd ei fod gyferbyn â fy nhy. Roedd llawer o’r athrawon yn siarad Cymraeg, a llawer o’r disgyblion hefyd. Digon o gyfle i siarad Cymraeg gyda’r athrawon; ond oedd y disgyblion Cymraeg ddim, fel arfer, oherwydd bod y ffrindiau eraill i gyd yn Saesneg. Mae fy stryd i yn stryd newydd gyda 7 teulu yn Gymraeg, a 2 yn Saesneg. Mae tai newydd sydd
yn cael eu hadeiladu, yr un peth â’r tai dwi’n byw ynddynt, tua £100,000 +, (4/5 ystafell).
Cwm Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin
Rhys Padarn Jones,
168 Neuadd Pantycelyn,
Ffordd Penglais,
Aberystwyth,
Ceredigion.
Rwy’n byw yng Nghwm Gwendraeth. Bûm yn ysgol Maesyryrfa, ond mae’r disgyblion yn siarad llawer mwy o Saesneg heddiw nag o’r blaen – boed hyn o ganlyniad i fewnlifiad, nid wyf yn siwr. Mae llawer mwy o Saeson yn dod i fyw yn y cwm erbyn heddiw hefyd – o ganlyniad, mae naws Gymreig yr ardal yn cael ei cholli. Ychydig flynyddoedd yn ôl roeddech yn medru cerdded lawr y stryd gan glywed Cymraeg
yn cael ei siarad o’ch hamgylch – erbyn heddiw, mae Saesneg yn prysur ddod yn iaith gyntaf pobl. Trist iawn yw hyn, yn enwedig, gan fod y sefyllfa’n bresenol yn un o ardaloedd mwyaf Cymraeg Cymru – Cwm Gwendraeth.
Caernarfon, Gwynedd
Eirlys Wyn Thomas,
Plough,
Mill Street,
Aberystwyth,
Ceredigion.
Rydwyf wedi byw yn ardal Caernarfon ar hyd fy oes cyn mynd i’r coleg, ac wir mae’r iaith Gymraeg yn fyw yn y dref ei hun ac yn y pentrefi cyfagos, ond yn anffodus i fyny yn y mynyddoedd mae’n dirywio. Mae llawer o Saeson wedi dod i fyw yno i ‘fwynhau’r olygfa’ heb geisio dysgu’r iaith, ac mae gan eu plant hwythau yr un agwedd.
Robert J H Griffiths,
Cilfach y Bardd,
Cae’r Delyn,
Bodffordd,
Gwynedd.
Gwyddom bellach fod y mewnlifiad i Gymru wedi cael effaith eithriadol ar safon iaith ein cymunedau. Aeth ein iaith yn ail iaith mewn llawer man. Rhaid atal datblygiad fel un a arfaethir yma ym Modffordd. Maent gyda’r bwriad i adeiladu 22 o dai i bobl leol. Diffiniad o ‘leol’; rhai sydd wedi byw neu weithio ar yr ynys yn ystod y 3 mlynedd ddiwethaf. Gwelwch y perygl yma o gael rhai sy’n cymudo i’n sir o leoedd Saesneg ar arfordir y gogledd, a thros y ffin (rhai) o Loegr. Rhaid trin hen dai sydd gennym yn barod a chael grantiau teilwng i’w gwneud yn bosibl i fyw ynddynt. Clywir mwy a mwy o Saesneg ar y stryd yn Llangefni a mannau eraill ym Môn.
Eirlys Morgan,
Bryn Aere Isaf,
Llanbrynmair,
Powys.
Ar ôl bod ar werth am flynyddoedd lawer, prynwyd y siop leol gan deulu di-Gymraeg.
Dim ond un garej sy’ ar agor. (Roedd yna bedair 10 mlynedd yn ôl.) Bellach nid oes garej yn gwerthu petrol (a.y.y.b.) o fewn 12 milltir i Lanbrynmair i bob cyfeiriad.
Mae’r mwyafrif mawr o blant yr ysgol gynradd yn dod o gartrefi di-Gymraeg / Saesneg. Mae’r Saeson hyn yn gefnogol iawn i’r iaith ac i’r ysgol. Hebddynt, byddai yna berygl i’r ysgol gau.
Mae ysgol Llanbrynmair yn ysgol Gymraeg yn swyddogol h.y. dim ond y Gymraeg a
ddefnyddir yn y blynyddoedd cynnar nes bod y plentyn yn 7oed.]
Mae yna nifer o deuluoedd yn yr ardal yn mynd â’u plant i Lanidloes (a.y.y.b.) er mwyn osgoi addysg Gymraeg/ddwyieithog yn Llanbrynmair ac Ysgol Bro Ddyfi.
Heblaw am Laura Ashley ac amaethyddiaeth, byddai’n rhaid mynd ymhell oddi yma i gael gwaith.
Osian H Williams,
Swn y Môr,
Pistyll,
Pwllheli,
Gwynedd.
Hoffwn dynnu eich sylw at y materion pwysig yn ein hardal ni.
Plant Ysgol: Am wyth bydd y plant yn aros am y bws i’r ysgol uwchradd – dim gair o Gymraeg. Hanner awr yn ddiweddarach, plant yr ysgol gynradd, a’r un yw’r stori – Saesneg! Sylwaf mai 2 aelwyd Cymraeg sy’n y stâd o dai Cyngor.
Yn y rhes dai: 7 o aelwydydd Cymraeg (allan o 15). Mae’r sefyllfa yn debyg y tu allan i’r pentref – y mwyafrif o’r bythynnod ( yn arbennig y rhai gyda ychydig o dir) yn eiddo i Saeson. Gwelir yn aml yr arwydd ‘Private Property’ er fod llawer llwybr cyhoeddus yno!
Aled Eynon,
Penbontfaen,
Cwm-Miles,
Login,
Hendygwyn-ar-Dâf,
Sir Gaerfyrddin.
Rwyf yn byw mewn ardal wledig ac yn poeni am ddirywiad yr iaith Gymraeg a’r gymdeithas, sydd yn brysur droi i fod yn un ddieithr i mi’n bersonol. Dim ond Saeson sydd yn prynu unrhyw dþ lleol sydd yn cael ei roi i werthu yn fy ardal, ac mae fy ffrindiau yn lleol wedi gorfod symud i’r dinasoedd yn y dwyrain i gael gwaith. Canlyniad hyn yn y diwedd fydd cymdeithas o ‘old fogies’ Saesneg. Dim y math o le y
byddai’n mwynhau byw ynddi cymaint ag rwyf wedi yn y gorffennol.
Rhydian Mason,
Cwmisaf,
Cwmsymlog,
Aberystwyth,
Ceredigion.
Magwyd fi ym mro Trefeurig, ger pentre Cwmsymlog. Pymtheng mlynedd yn ôl, un neu ddau aelwyd ‘Seisnig’ oedd yno. Erbyn heddiw does yna’r un aelwyd Gymreig yng Nghwmsymlog. Mi hoffwn pe bawn i’n medru symud i Gwmsymlog, ond mae prisiau’r tai’n ‘uffernol’ o uchel, a does yna ddim gwaith i gael yn lleol i mi.
Mae pentre Cwmsymlog wedi marw o ran Cymreictod, ac mae pentrefi cyfagos, Penbontrhyd-y-beddau, Banc-y-darren, a Penrhyncoch yn mynd lawr yr un lôn. Ni fyddwn yn fodlon rhoi lan â hyn llawer mwy. Mae cymunedau cefn gwlad, a’r hen ffordd o amaethu yn marw.
Hefin Wyn Jones,
Garreg Lwyd,
Trawsfynydd,
Meirionydd.
1999 – 2000: Yn ystod yr adeg yma, roedd tua deg ty ar werth. Gwerthwyd wyth ty i estroniaid, a dau i bobl lleol. Adeiladwyd un ty newydd gan estroniaid.
2001: Y flwyddyn hon, sylwais fod tua deunaw ty ar werth. Gwerthwyd unarddeg ty i estroniaid, a thri i bobl lleol. Mae pedwar ty ar werth ar hyn o bryd. Gwerthwyd mwyafrif y tai yn yr haf. Dyfynnir perchenog newydd un o’r tai yn dweud, ‘it’s a pittance’ am bris ei dy – £42,500.
Tua pum mlynedd yn ôl, roedd mwyafrif tai y pentref yn cael eu prynu gan gyplau ifanc lleol, gyda prisiau y tai rhyw saith i ddeg mil o bunnoedd yn rhatach. Ond yn awr, mae’n anodd i bobl lleol gystadlu yn y farchnad, gyda chyflogau lleol mor isel. Nid yw’r Cynulliad, y Senedd, yr aelod Seneddol nac aelod y Cynulliad i weld yn gwneud dim i adfer y sefyllfa, maent i gyd yn ddistaw.
Ugain mlynedd yn ôl, roedd deuddeg yn fy nosbarth yn yr ysgol gynradd, mae eu hanner wedi gadael yr ardal. Mae dwy dafarn lleol, un yn eiddo i fragdy, ac yn cael ei redeg gan Sais. Ac un yn eiddo i bobl lleol, ond sydd eisiau gwerthu.
Mae unarddeg o fusnesau lleol (e.e. Pôst, Modurdy), a dim ond un yn cael ei redeg gan Saeson. Yn y Banc, mae’r gweithwyr yn lleol. Mae mwyafrif disgyblion yr ysgol gynradd leol yn hanu o deuluoedd Cymraeg eu hiaith, tua 80%. Mae holl gyfarfodydd gwahanol gymdeithasau lleol yn cael eu cynnal yn yr iaith Gymraeg, heblaw am yr
Eglwys, sy’n cynnal cyfarfodydd dwyieithog. Mae’r rhan fwyaf o’r newydd ddyfodiaid yn bobl hyn.
Wynne ap Iorwerth,
Glanrafon Bach,
Mynydd Llandegai,
Bangor,
Gwynedd.
Ym Mis Mehefin ymddeolais o’r lluoedd arfog ar ôl 25 mlynedd o wasanaeth. Fy mwriad oedd i ddychwelyd i Gymru er mwyn cael byw bywyd Cymraeg. Siom aruthrol a gefais o ganfod pa mor anodd yw hynny. Mae mewnlifwyr wedi symud i mewn i bron pob bro mewn rhifoedd mawr. Symudais i Landegfan i gychwyn a chefais fy nghyfarch gan un gwr bonheddig gyda’r geiriau “Oh you’re Welsh, we don’t get many of them moving in here”! Yn fy mhlentyndod, Cymraeg oedd y bro hwnnw ond heddiw
Saesneg yw’r drefn yna.
Tra bum yn chwilio am le i fyw mynychais swyddfeydd gwerthwyr tai yn ddirfawr trwy holl ardaloedd Gwynedd. Canfyddais nad cystadlu yn erbyn Cymry eraill am eiddo yr oeddwn, ond yn anochel yn erbyn Saeson. Mwy na hyn, pan oeddwn yn galw i gael golwg ar eiddo, canfyddais bod y tai da gyda golygfeydd hardd mewn ardaloedd moethus yn nwylo’r Sais ym mhob man. Ar hyd Afon Fenai yn Ynys Môn ac yn Eryri, gan fewnlifwyr mae’r tai gorau a’r Cymro’n gorfod byw ar stadau’r cyngor neu mewn
ardaloedd tlawd mewn amgylchiadau anfanteisiol. Cywilydd yw bod yr amgylchiadau hyn wedi codi.
Mae San Steffan wedi gwneud cam mawr â’n gwlad.
Symudais i Fynydd Llandegai flwyddyn yn ôl gan obeithio cael byw bywyd Cymraeg, gan fod y pentref yn eistedd mewn man hollol wledig tua 900 troedfedd i fyny yn Eryri. Di-Gymraeg yw’r rhan fwyaf o’r trigolion yma ac mawr oedd y gorfoledd gan y broydd traddodiadol i ddarganfod mae Cymro oeddwn.
Roeddent yn gwbl sicr mai un di-Gymraeg oedd am brynu’r ‘Ty Mawr’. Amgylchiadau trist sydd yn perthyn yn y pentre hwn oherwydd y mewnlifiad. Bythynnod bach yw’r rhan fwyaf o’r tai yma ac mewn dwylo mewnlifwyr mae’r mwyafrif. Y canlyniad yw
na all y bobl ifanc fforddio prynu tai eu cyn-dadau! Maent yn newid dwylo am bron i £85,000 ac mae un ar werth nawr gyda phris gofyn o £106,000! Mae’r bywyd Cymraeg a’r Iaith Gymraeg bron wedi cael eu lladd yma gan fewnlifwyr.
Rhoddais anerchiad bach yn neuadd y pentre blwyddyn diwethaf ar destun fy mhrofiadau ar y môr, pan dorrodd un o’r mewnlifwyr ar fy nhraws i ofyn i mi roi’r anerchiad yn Saesneg. Gwrthodais! Ac o ganlyniad ‘rwyf wedi cael fy llongyfarch lawer gwaith gan y bobl Gymraeg. Mae’n rhaid cael ‘strategi’ i ail greu broydd Cymraeg trwy Gymru gyfan.
O siarad gyda’m cymdogion mae’r mewnlifiad o rai di-Gymraeg i’r fro hon wedi creu llawer o densiynau. Mae’r mewnlifwyr yn hoff iawn o bwysleisio eu hawliau fel y maent hwy yn eu gweled. Un o’u triciau yw i drio cau llwybrau cyhoeddus neu draddodiadol sydd yn croesi eu tir. Cytunodd cyfaill i mi i brynu ty yn ddiweddar ond i ganfod pan symudodd i fewn bod mewnlifwyr sy’n byw drws nesaf wedi cau lle giat i
wahardd llwybr troed rhag croesi eu tir nhw. Yn ogystal mae’r un rhai yn awr wedi dechrau creu llwybr dros tir fy nghyfaill er mwyn cael creu llwybr llygad iddynt eu hunain.
Mewn man arall clywais bod mewnlifwyr wedi datgan na all y cyhoedd ddefnyddio un llwybr heb ofyn caniatâd o flaen llaw iddynt hwy. Mae pysgotwyr yr afonydd yma yn pryderu hefyd am bod mewnlifwyr o Maenceinion a Lerpwl yn talu arian mawr am bysgodfannau ar lannau ein afonydd ac wedyn yn atal y Cymry rhag eu defnyddio. Clywais yn ddiweddar hefyd am glwb dringo o Loegr sydd yn ceisio atal y bobl leol rhag pori tir mynydd, gan frolio bod eu llywydd hwy yn fargyfreithiwr a’i fod yn barod i ymladd yn erbyn unrhyw Gymro sy’n barod i’w wrthwynebu.
Ardal hollol Gymraeg oedd hon pan oeddwn yn blentyn. Pobl dlawd oedd yn byw yma ond llwyddo oedd y diwylliant. Oherwydd y mewnlifiad ychydig iawn o’r iaith Gymraeg sydd i’w chlywed ar y strydoedd yn awr. Saesneg yw iaith y maes chwarae, busnes, yr ysgol, yr eglwys a.y.y.b.
Nid yw’r mewnlifwyr yn gwneud yr ymdrech leiaf i ddysgu’r Gymraeg, ond mae gan bron pob un ohonynt plentyn sydd yn gallu siarad Cymraeg, ac oherwydd hynny maent yn credu eu bod wedi gwneud eu dyletswydd tuag at yr iaith.
Mair Heulyn,
Crud yr Awel,
Synod,
Llandysul,
Ceredigion.
Dyma hysbyseb yn y Cambrian News ddydd Iau, Medi 27, 2001. Wedi ei werthu ar y rhyngrwyd ddydd Gwener, Medi 28, 2001 fel ty haf i bobl o Gaergrawnt. Arwydd ar werth i fod yn yr ardd ar y Nos Wener!
Gwerthwyd am y pris a ofynnwyd, £89,950.
Bethan Roberts,
Bryn Pin,
Tudweiliog,
Pwllheli,
LL53 8NB.
Mae pethau’n gwaethygu ym Mhwllheli. Teimlaf bod y bobl di-Gymraeg yn cael gwasanaeth mewn siopau a.y.y.b. yn eu hiaith eu hunain, a hynny heb orfod gofyn amdano. Dydi’r Cymry ddim yn cael hyn! Dyma dri enghraifft ohonaf i ddim yn cael dewis ym Mhwllheli – mewn un wythnos. (Dim ond at y bobl yma es i – es i ddim i’r un siop arall.)
1) Mi es i Woolworth – Americanes oedd wrth y til. Dim dewis i mi.
2) Mi es i H.S.B.C. Roedd na Gymraes ddi-Gymraeg yno. Bob tro y bydd hi yno, mi
fyddai’n gofyn am rywun Cymraeg, ac yn cael rhywun fel arfer. Y tro yma, mi
ofynnais eto, ond doedd na neb. Roedd y person oedd i fod hefo hi wrth y dderbynfa.
Unwaith eto ches i ddim dewis. Roeddwn eisiau gofyn cwestiynau am fy nghyfrif, ond
doeddwn i ddim am wneud hynny mewn iaith arall. Felly ches i ddim y gwasanaeth yr
oeddwn ei eisiau. Pam fod rhaid cael rhywun di-Gymraeg ar ei phen ei hun, mae’n
digwydd yn aml. Beth am wersi Cymraeg?
3) Mi ges i diced parcio, ac es i at y ddau plismon a roddodd o i mi, a siarad Cymraeg
hefo nhw. Roedd y ddau yn ddi-Gymraeg. Dim dewis i mi eto.
Mi fydda i’n mynd i siop ‘Savers’ yn eitha aml ac mae’r staff yn siarad Saesneg â’i gilydd. Mae pobl diniwed a di-hyder yn mynd i fynd atynt a meddwl nad ydynt yn deall Cymraeg, ac yn siarad Saesneg gyda hwy.
Meddygfa Nefyn: Mae’r meddygon i gyd yn Gymraeg – da iawn. Yn anffodus, mae un nyrs yno sydd yn ddi-Gymraeg, ac yn gweithio ddydd Iau a dydd Gwener. Unwaith eto dydi’r pobl yma ddim yn cael dewis. Maent yn gorfod siarad Saesneg. Beth am wersi Cymraeg?
Tydw i ddim yn disgwyl i bawb sy’n gweithio ym mhob siop i fod yn gallu siarad Cymraeg, a hynny gan mai Saeson sydd biau llawer o’r siopau. Ond, mewn siopau fel Kwik Save, Spar, Woolworths, Savers, (siopau cadwyn) mi ddylai bawb wneud. Un peth pwysig iawn eto — rhaid cofio fod pawb sydd wedi cael addysg ym Mhen Llyn yn ddiweddar yn deall Cymraeg. Mi ddylai pawb siarad Cymraeg efo’r pobl ddi-Gymraeg yma. Petai pawb Cymraeg yn gwneud hyn, byddai’n dod yn beth mwy naturiol i’w glywed. Mi fydda i’n gwneud hyn, ond yn teimlo’n annifyr gan fod neb arall yn ei wneud.
Delyth ac Eleri Evans,
Nant Dwr Oer,
Nantmor,
Gwynedd.
Beddgelert a’r Cylch. (Nantgwynant a Nantmor)
Yr Ysgol: Pan oeddwn yn yr ysgol ym Meddgelert yn y 70au roedd 3/4 yn siarad Cymraeg fel mamiaith. Rwyf yn gweithio yno fel cymhorthydd cynnal dysgu, ac yn teimlo’n ddigalon oherwydd bod cynifer o’r plant yn siarad Saesneg adref. O 39 o blant, 12 sy’n siarad Cymraeg gartref. Er bod y rhan fwyaf o blant 7-11 oed yn troi i Saesneg â’i gilydd, mae’r plant o 4-7oed yn llawer gwell am siarad Cymraeg â’i gilydd.
Mae mwy o blant o gartrefi Cymraeg na Saesneg i ddod yn y dyfodol. Prin yw’r rhieni sydd yn dysgu Cymraeg.
Siopau: Chwech siop sydd yn y pentref ac un sydd yn cael ei rhedeg gan Gymraes. Mae gwr y post yn dysgu Cymraeg.
Gwestai:O’r gwestai a thai ymwelwyr yn y pentref, un sydd yn cael ei reoli gan siaradwr Cymraeg.
Capeli: Mae capel yr Annibynnwyr a’r Methodistiaid ym Meddgelert a Nantgwynant wedi cau. Mae capel yr Annibynwyr yn rhanol yn ganolfan ymwelwyr, canolfan dechnoleg a chanolfan dreftadaeth. Ar hyn o bryd mae grwp o Gymry lleol wedi ffurfio cwmni er mwyn defnyddio Capel Bethania, Nantgwynant at aml bwrpasau gan y Gymuned. Daeth y Gymdeithas Lenyddol a fu mewn bri am dros ddeugain mlynedd i
ben, felly hefyd yr Eisteddfod leol. Yr unig weithgareddau uniaith Gymraeg yw Merched y Wawr, lle mae 3 aelod sy’n ddysgwyr da; a’r Cyngor Cymuned. Cynhelir y gymdeithas hanes a phwyllgor y Neuadd Gymunedol yn Saesneg, gan fod y mwyafrif yn aelodau di-Gymraeg.
Tai: Dros yr ugain mlynedd diwethaf mae’r mewnlifiad wedi effeithio’n drwm ar yr ardal, a’r gymdeithas Gymraeg wedi gwanhau’n drychinebus. Eithriad yw gweld teulu Cymraeg yn symud i fyw i’r ardal. Mae prisiau tai yn uchel iawn, y rhai rhataf, sy’n dai cymharol fychan mewn rhes, yn £55-60,000. Ar hyn o bryd mae ty mewn bloc o chwech ar werth am tua £120,000. Codwyd y bloc hwn o dai ychydig o
flynyddoedd yn ôl ar safle modurdy’r pentref. Prynwyd hwn a’i ddymchwel gan Sais, a lwyddodd i gael caniatâd i godi’r tai di-angen hyn. Mae tri ohonynt yn dai haf. Mae bloc arall o dai newydd gael eu cwblhau gan Sais sy’n byw yma ers blynyddoedd bellach – un ty iddo’i hun a phedwar i’w gosod fel tai gwyliau. Er gwaethaf gwrthwynebiad lleol, cawsant eu codi oherwydd hen ganiatâd cynllunio!
Llanwddyn, Powys
Enw a chyfeiriad ar gael
Mae ysgol gynradd y pentref yn ysgol Gymraeg gyda 38 o ddisgyblion ar hyn o bryd. Mae 15 yn dod o gartrefi Cymraeg eu hiaith. Mae’r broblem yn codi pan mae’n rhaid iddynt ddewis mynd i ddosbarth Cymraeg neu Saesneg yn Ysgol Uwchradd Llanfyllin (ysgol ddwyieithog). Mae rhai plant o deuluoedd Saesneg eu hiaith yn mynd i’r dosbarth Cymraeg ond dydy’r rhan fwyaf ddim, er eu bod wedi cael eu holl addysg hyd yma trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond y peth gwaethaf yw pan mae plant o gartrefi Cymraeg yn mynd i’r dosbarth Saesneg.
Pum mlynedd yn ôl roedd un dosbarth Cymraeg a 4 Saesneg yn yr ysgol uwchradd, ond erbyn hyn mae un dosbarth Cymraeg a 6 Saesneg, er mwyn ymdopi â’r holl ddisgyblion sy’n trafeilio dros y ffin bob diwrnod. Erbyn hyn dwi’n teimlo fod popeth yn Saesneg oni bai eich bod yn gofyn amdano yn y Gymraeg. Mae’r arwydd newydd uwchben y drws yn crynhoi’r cyfan i mi -Ysgol Uwchradd LLANFYLLIN HIGH SCHOOL.
Mae’r Cyngor Cymuned yn cyfarfod yn Saesneg. Mae rhai o’r aelodau yn gallu siarad Cymraeg ond nid y Cadeirydd, a’r sefyllfa wedi bod fel hyn ers blynyddoedd lawer.
Does dim tai newydd wedi eu codi’n ddiweddar. Does dim tai ar werth yn y pentref. Mae’r merched ifanc yn tueddu i weithio fel athrawes neu nyrsys, a’r dynion yn ffermwyr neu yn gweithio yn y ffatri yn Llanfyllin. Does dim llawer o gyfle am waith arall, oni bai am waith yn y gwesty.
Cyril Jones,
Trem Eryri,
Mynytho,
Pwllheli
Credaf mai 280 o dai sydd yn yr ardal. Mewn tua 109 o’r cartrefi y mae teuluoedd Cymraeg eu hiaith yn byw erbyn hyn. Dau berson oedd yma heb fod yn siarad Cymraeg hanner can mlynedd yn ôl. Mae nifer y bobl ifanc sy’n byw yn yr ardal yn fychan iawn, iawn. Dim ond 42 o blant sy’n mynychu’r ysgol leol gan gynnwys y 12 sy’n yr ysgol feithrin. Mae ychydig o blant yr ysgol wedi treulio amser ar gwrs yn ysgol Llangybi lle dysgir Gymraeg i blant uniaith Saesneg pan yn saith oed. Saesneg ydi iaith eu chwarae yn yr ysgol er hynny. Mae’r bywyd cymdeithasol yn dal i fynd ymlaen er bod aelodau’r gwahanol gymdeithasau yn penwynnu a phrinhau. Cyn belled ac y gwn, dim ond y Clwb Cinio Pensiynwyr sy’n tueddu i droi i iaith ‘Our English Friends’. Mewnfudwyr ydi perchnogion y mwyafrif llethol o’r tai a
godwyd yn ystod y 25 mlynedd diwethaf. Gwn am gwpwl 25 – 30 oed sy’n awyddus i brynu ty, ond mae prisiau’r tai sydd ar werth ymhell o’u cyrraedd.
Owen Jones,
Mur Poeth,
Pencaerau,
Rhiw,
Pwllheli
Engreifftiau o dai ar werth yn yr ardal yma ar hyn o bryd :
Bwthyn 2/3 llofft yn y Rhiw ac 1 acer o dir £160,000
Byngalo æ llofft yn Aberdaron £145,000
Bwthyn 2/3 llofft a æ acer yn Rhoshirwaun £79,500
Ty 3 lloft yn Llangwnadl £97,500
Ty 3 llofft yn Rhoshirwaun â mymryn bach o dir £130,000
Mae’r prisiau yn wirion bost ac allan o gyrraedd pobol leol. Dim ond Saeson all eu prynu, ac mae angen gwario i’w gwella wedyn.
Gareth Parry,
Gwyndy,
Ffestiniog,
Gwynedd
Tai yn rhy ddrud i bobl leol sydd ar gyflogau isel, neu yn ddi-waith. ‘Tai Stryd’ o £45,000 i fyny, a tai o gwmpas y pentref hyd at £100,000 a throsodd! Bron pob ty gwag yn cael ei werthu i estroniaid a’r mwyafrif llethol o’r rhain ac agwedd sarhaus tuag at ein iaith, hanes a’n diwylliant. Un cwpwl yn ceisio mynnu nad oedd Cymraeg i’w siarad yn y feddygfa leol. Mae fy merched fy hun wedi dioddef pethau fel;
“Stop speaking that ridiculous language”, “Don’t be so Bloody Rude, I don’t speak THAT” a “Say it in English for God’s Sake.” Pwy sydd yn hiliol? Mae pob math o siamplau o’r math yma o beth gan y Cymry lleol i gyd.
Dylan Evans,
Parc,
Garnfadryn,
Pwllheli,
Gwynedd
Rwyf yn byw mewn pentref bychan iawn, ac er bod pentrefi fel Abersoch a Llanbedrog wedi Seisnigeiddio tua 10 i 15 mlynedd yn ôl, yn y pum mlynedd diwethaf y gwelwyd yr effaith fwyaf ar Garnfadryn. Yn y 2 – 5 mlynedd diwethaf mae’r pentref wedi marw ar ei draed, o ran y Gymraeg a theimlad cymunedol. Yn y flwyddyn 2000 yn unig daeth pedwar ty ar y farchnad lle roedd pobl Cymraeg oedrannus wedi bod yn byw hyd eu marwolaeth, does dim syndod i’r tai fynd i Saeson a oedd wedi ymddeol. Mae’r siop eisoes wedi cau a mae sôn fod y Capel yn mynd run ffordd. Rwyf yn teimlo mai beth sydd wedi digwydd yn ddiweddar yw bod y tai yn Abersoch, Mynytho, a Llanbedrog wedi eu llenwi â Saeson, a bod pobl yn dechrau darganfod tai eraill mewn llefydd megis Rhiw, Garnfadryn, Bryncroes a Tudweiliog. Does gan Penrhos bron ddim bai am fod mor hardd, ond rwy’n teimlo y bydd hi yn marw fel Cymdeithas Gymraeg os na fydd tai ar gael i’r ifanc. Mae rhywun sydd wedi cerdded drwy Aberdaron ar ddiwrnod o aeaf yn gwybod fod y sefyllfa yn un dorcalonnus.
Ffion Wyn,
Pwllcoch Uchaf,
Rhosybol,
Ger Amlwch,
Ynys Môn
Wedi bod yn ddisgybl mewn ysgol uwchradd am 7 mlynedd, ble welais ddirywiad sylweddol yn y defnydd a wnaed o’r Gymraeg, ac yn y pendraw gweld y Saesneg yn dilorni’r Gymraeg yn gyfan gwbwl. Enghreifftiau penodol o gael fy ngalw’n ‘hiliol’ am fynnu gweld perfformiadau Cymraeg yn Eisteddfod yr Ysgol. Y siop tsips leol hyd at yn ddiweddar yn atal staff rhag siarad Cymraeg â chwsmeriaid.
Mynychu cyfarfodydd ‘Llais Ifanc’ yn y Cynulliad yn uniaith Saesneg.
Llanfechell, Ynys Môn
Cafwyd enw a chyfeiriad
Rhai stadau yn y pentref gyda tua 90% o Saeson yn byw ynddynt. Saeson yn cadw’r siop leol, iaith y sgwrs yn newid. Rhan fwyaf o ddisgyblion yr ysgol gynradd yn ddi-Gymraeg – Saesneg yw iaith yr iard. Cymry yn yr ysgol uwchradd yr ardal yn dioddef hiliaeth oherwydd ein bod ni’n Gymry. Mae croeso i unrhyw A.C. neu bapur newydd (fel y Daily Post) ddod i’n hysgol i gael gweld beth yw hiliaeth go iawn. Mae cyngherddau ysgolion Sul erbyn hyn yn ddwyieithog. Neb yn nabod neb, ers talwm roedd pawb yn nabod ei gilydd – mae’r gymuned wledig wedi hen ddiflannu. Tai di-angen yn cael eu hadeiladu. Mae ty yn agos i ble rwyf yn byw wedi ei adeiladu heb angen. Does neb erioed wedi byw ynddo. Mae’r ty ar y farchnad rwan am £175,000 (llawer rhy ddrud i bobl leol.) Cwmni lleol sy’n cyflogi degau o bobl yr ardal
yn ceisio cael caniatâd cynllunio am swyddfeydd newydd – Cyngor Sir yn eu gwrthod. Mae angen enfawr am waith yma, ond eto mae’r Cyngor yn gwrthod caniatâd cynllunio a allai greu ychydig o waith angenrheidiol. Mae pob ty sydd ar werth yma yn cael ei werthu i Saeson.
Elinor Mair Davies,
Ty Nant,
Penybontfawr,
Croesoswallt,
Powys
Er fod yna lawer o gartrefi Saesneg, mae’r ysgol yn ddwyieithog, ac mae’r plant yn derbyn addysg Gymraeg yn unig hyd at 7 oed. Mae’r Cyngor Cymuned yn cyfarfod yng Nghymraeg ynghyd â phwyllgorau Sioe Gwn, Sioe Flodau, Neuadd, a.y.y.b. Mae llawer o fewnfudo yn yr ardal, ond mae’r Cymry yn dal eu tir er mor agos yr ydym i’r ffin. Saeson sy’n rhedeg y dafarn leol ond mae’r siop leol yn cael ei rhedeg gan Gymry Cymraeg (fy rhieni), ffermwyr sydd yn arallgyfeirio. Mae llawer o arallgyfeirio
yn digwydd yn yr ardal, ond yn ddiweddar sylwn mai ffermwyr Cymraeg sy’n prynu busnesau lleol er engraifft, y siop ac ambell dafarn leol. Mae tua ugain o dai newydd wedi eu codi’n ddiweddar. Pobl ifanc sydd bennaf yn byw ynddynt, mae’r galw am dai yn uchel.
Nantmor, Gwynedd
Fe’m ganed yn Nantmor, gan adael i fynd i’r coleg, ac yna gweithio i ffwrdd. Felly dyma gymhariaeth rhwng y dyddiau hynny a heddiw.
1940 2001
Ffermydd 19 8
Cymry ar y ffermydd 19 3
Ffermdai aeth yn wag 0 11
Cymry yn byw ynddynt 3 0
Saeson yn byw ynddynt 3 11
Cymry yn nhai y pentref 25 8
Nifer y tai newydd ers 1940 12
Tai haf yn y pentref 12
Tai â Saeson drwy’r flwyddyn 16
Tai Preifat yn yr ardal 13
Plasau yn yr ardal 3
(7 ty haf, 5 â Saeson ynddynt, 2 â Chymry ynddynt.)
Y Plasau i gyd yn berchen i Saeson.
Dyma felly amlinelliad o’r dirywiad aruthrol yn ardal Nantmor oedd yn ardal dra ddiwylliedig, gyda dau gapel â 150 o aelodau, ac heddiw un Capel â 14 o aelodau. Roedd hefyd ddosbarthiadau nos, ac eisteddfodau, a chymdogaeth dda.
Emlyn R Roberts,
Brondanw Arms,
Llanfrothen,
Gwynedd
Pryderu a wnes i pan cafwyd hawl cynllunio yn fy mhentre tua 4 blynedd yn ôl. Roedd y tai yn cael eu gwerthu cyn cael eu hadeiladu, ac dim hyd yn oed arwydd lleol i ddweud eu bod ar werth. Mewn hir a hwyr roedd mwy a mwy o bobl mewn oed 65 i 75 o amgylch y pentref. Dim plant, dim iaith, ond eu cymuned bach nhw eu hunain, fel ‘Brookside’ i’r henoed mewn pentref bach yng Ngogledd Cymru.
Mae’n werth dod i’r dafarn ar nos Fawrth i gael clywed yr iaith fain.
Lari Parc, Christine Jones, Elan Thomas,
2 Bro Arfon,
Y Fron,
Caernarfon,
Gwynedd
Arolwg Tai – Y Fron
Gwnaethpwyd yr arolwg yn ystod mis Hydref, 2001, gan Christine ac Elan. Wrth hysbysebu cwrs Cymraeg, fe ymwelwyd â phob ty yn Y Fron ac fe ofynnwyd os oes angen cwrs, a chynnig un. Wrth gwrs mae iaith yr ateb yn dynodi iaith y preswylwyr, os ydych yn gweithio ar y ffaith fod person sy’n uniaith yr iaith fain yn troi’r aelwyd i’w hiaith nhw.
Canlyniadau
Ateb Cymraeg 41
Ateb Saesneg 63
Dysgwyr 3
Tai gwag 2
Cymry di-Gymraeg 2
Cyfanswm 111
Gwynne Morris Jones,
Cae Iocyn,
Llaneilian,
Ynys Môn
Oes angen tai?
Ar hyn o bryd, mae yna oddeutu 1700 o dai ar werth ar Ynys Môn. Yn ychwanegol, mae caniatâd a roddwyd am adeiladu tai dros bum mlynedd yn ôl wedi ei ddiogelu (gyda gwaith mwyaf dibwys wedi ei wneud ar y safle) ond heb ei orffen yn gwneud cyfanswm o oddeutu 1000. Hefyd, allan o’r pum mlynedd diwethaf, mae yna oddeutu 350 o dai gyda chaniatâd ond heb eu gorffen.
I grynhoi:
1700 o dai ar werth.
1350 o dai gyda chaniatâd, ond heb eu gorffen.
Mae’r Cynllun Datblygu Undebol yn rhagweld y nifer tai a teuluoedd yn aros yn sefydlog o 2001 hyd at 2016, gyda’r boblogaeth yn gostwng 6,180. Felly nid oes angen adeiladu unrhyw dy ychwanegol o’r newydd dros gyfnod y cynllun unedol. Gwell fuasai addasu’r stoc presennol ac, efallai, trosi rhai o’r hen adeiladau fferm i greu aneddau newydd. Ar y llaw arall, os bydd twf economaidd yn ymddangos ar yr
ynys ac angen rhagor o dai i’r gweithwyr, fe ddylai’r Cynllun Unedol gynnwys elfen o hyblygrwydd i ganiatáu ychydig o dai newydd mewn ymateb i’r twf.
Achos Mewnlifiad
Gan fod yna nifer o dai gwag yn Ynys Môn ar hyn o bryd – un ai ar werth neu i’w llogi, mae hyn yn denu pobl i’r ynys, yn enwedig o Loegr.Mae yna ddau fath o fewnlifwyr:
1. Pobl sydd yn ymddeol, yn medru gwerthu eu cartrefi yn Lloegr am swm sylweddol ac yn prynu ty cyfartal am bron hanner y pris ym Môn, gyda’r pris yna hyd yn oed allan o gyrraedd ariannol pobl leol.
2. Mae gwybodaeth wedi ei dderbyn bod swyddfeydd yn y dinasoedd Lerpwl, Manceinion a Birmingham yn annog rhai o’u cleientiaid – y di-waith, i symud i Ogledd Cymru, lle mae yna ddigon o lefydd i’w rhentu ac yn rhatach nag yn y dinasoedd. Mae cannoedd, os nad miloedd, wedi symud i’r ardaloedd yma ond heb unrhyw obaith o gael gwaith – dim ond brafiach lle i fod yn segur ynddo.
Heb y stoc gormodol o dai gwag, ni fuasai’r mewnlifiad yn digwydd i’r un graddau.
Effaith Mewnlifiad
1. Gostyngiad yn nhwf y boblogaeth oherwydd y nifer uchel o bobl mewn oed sydd yn cynnwys y mewnlifwyr, wedi ymddeol yma. Ni fydd y rhain yn cynhyrchu plant!
2. Mae nifer y rhai Cymreig / Cymraeg sydd yn byw yn ardal Llaneilian wedi gostwng yn y deng mlynedd diwethaf o tua 20%.
3. Mae’r siop a’r post lleol wedi cau.
4. Yn yr ardal yma o’r plwyf, mae yna 30 o dai newydd eu adeiladu i ychwanegu at y stoc gwreiddiol o 60. O’r 30, mae 18 o deuluoedd o du allan i Gymru yn byw ynddynt.
5. Dim ond 3 o bobl ifanc lleol sydd wedi aros yma i weithio.
6. Mae yna 6 o dai ar werth. Prisiau o £70,000 i £230,000.
7. Mae fy mhlant i, (4) i gyd yn gweithio / byw yn Lloegr neu dramor.
8. Yn yr ardal yma, mae oddeutu 50 yn siarad Cymraeg, a 110 ddim.
Gwendid Cyngor Sir Ynys Môn
Fy marn personol yw y dylai Ynys Môn, Dyffryn Conwy a Gwynedd ail-uno i greu un Cyngor Sir er mwyn cydweithio i ddatblygu’r ardal mewn ffordd fwy effeithiol o lawer, na sydd yn bodoli ar hyn o bryd. Nid yw safon y cynghorwyr na’r swyddogion yn Ynys Môn yn ddigon da fel y dangoswyd dros y 5 mlynedd diwethaf. Trwy ail-greu sir gryfach, ceir defnydd mwy effeithiol o’r adnoddau cyllidol a sustem datblygu Gyrfaoedd mwy atyniadol i ddenu staff o well safon i mewn. Gyda un llais cryfach o’r ardal Gymraeg yma a phawb yn cydweithio i gyfeiriad cadwraeth o’n hiaith a’n diwylliant, bydd gobaith cryfach i’r iaith barhau ymhell i’r dyfodol. Hefyd, ceir gwell trefn ar ddatblygu economaidd gyda phawb yng Ngwynedd yn cydweithio i greu gwaith yn yr ardal. Ar hyn o bryd, mae Ynys Môn a Gwynedd yn cystadlu â’i gilydd i ddenu gwaith.
Comins Coch, Ceredigion
Cyhoeddwyd yr wythnos diwethaf am fwriad Cyngor Sir Dai Lloyd Evans (Cyngor Sir Ceredigion gynt) i fwrw ymlaen ag adeiladu 6,500 o dai newydd yng Ngheredigion. Mae Comins Coch yn ardal Seisnig, pam? Oherwydd y stadau sydd wedi cael eu hadeiladu yn y pentref. Mae Comins Coch yn feicrocosm o’r sefyllfa drwy Gymru. 50 mlynedd yn ôl yng Nghomins mae’n go debygol mai dim ond tua 5 fferm oedd
yng nghyffiniau’r pentref, ond nawr mae dau stâd wedi cael eu hadeiladu ac mae’r gymuned Gymraeg wedi diflannu. Mae sawl cwpwl ddi-gymraeg wedi symud i’r pentref, mae’n anhebygol bydd y cyplau yma yn dysgu’r Gymraeg mae angen deddf eiddo i sicrhau na cheiff pentrefi fel Comins ei trin fel Butlins i’r henoed (o Loegr) o hyn allan!
Anna Wyn Jones,
Cefn Y Maen,
Llanystumdwy,
Gwynedd
Gyda gobaith mawr, rwy’n anfon hyn o druth gan geisio rhoi darlun o sut y mae hi yma yn y gornel fach hon o Eifionydd. Diolch i chi gyd am ein hybu yma i geisio gwneud rhywbeth. Mae’r darlun yn un trist ond o’i wynebu mae’n bosib dechrau gweithredu. Gobeithio y bydd rywfaint o gymorth i gael y darlun llawn.
Cricieth.
1517 o Etholwyr (Chwefror 2001)
Cymdeithasau.
Merched y Wawr C
Sefydliad y Merched S
Clwb y Mamau S
Clwb Bowlio C a S
Clwb Pwytho C
Clwb Garddio S
Clwb Cinio C
Cymdeithas Hanes S
Cymdeithas Bysgota C ond trafodaethau Saesneg oherwydd 2 di-gymraeg!
Busnesau.
Busnesau / Siopau Perchennog. Gwerthwyr
Gigydd S 2 C
Becws C 3 C
Becws C 5 C
Ffrwythau / Pysgod C 5 C
Ffrwythau / Pysgod C 1 C
Fferyllfa C 1 C
Teganau C 1 C
Trydan S 1 S
Swyddfa Post C 1 C, 1 S
Hen Gelfi C 2 C
Esgidiau C 1 C, 1 S
Siop bob dim C 1 C, 1 Dysgwr
Siop Fwyd C 3 C, 1 S
Dillad C, Gwyddeles 2 C
Anifeiliaid Anwes C C
Spar S C, S cymysg
Flodau C C
Efengylaidd S S
Crefftau C C, S cymysg
Carpedi C S
Capel/ llyfrau/ dogfennau S S
Sglodion S 1 C, 1 S
Hufen Iâ C 2 C
Hufen Iâ S 4 C
Fframio lluniau S 1 C
Bwyd a manion C yn siarad saesneg S
Barbwr C C
Papur C 3 C
Papur S 1 C, 1 S
Swyddfa Tai Cymru C C
Swyddfa Yswiriant C C
Banc H.S.B.C. C C
Deintydd S C
Meddygfa 2 C, 1 S
Canolfan Dydd C C
Trin Gwallt 2 C 5 C
Trin Gwallt 2 S 2 C, 1S
Plymars 2 C
Trydanwr 2 C
Adeiladwyr 2 C
Trefnwyr Angladdau 2 C 3 C
Peintwyr 5 C
Canolfan Blanhigion 1 S
Meysydd Carafanau 3 C, 1 S
Pysgota Llyn 2 C
Twrnai 1 C 1 C, 1 S
Tacsi 1 S C
Tacsi 1 C C
Tai Bwyta 1 S 2 S
Tai Bwyta 1 C, 1 Ffrancwr C
Tai Bwyta 1 C o ganada C
Tai Bwyta 1 C C
Caffi C C
Caffi C C
Caffi S Cymysgedd
Caffi S Cymysgedd
Tai Tafarn S C
Tai Tafarn C Cymysgedd
Tai Tafarn C C
Gwestai C di-gymraeg Cymysgedd
Gwestai S Cymysgedd
Gwestai C, S C
Gwestai S S
Trwsio Car C C
Gwerthu Ceir C Cymysgedd
Llyfrgell C
Bad Achub C C
Cartref Henoed C C
Cartref Henoed S Cymysgedd
Cartref Henoed S Cymysgedd
Tennis / Sboncen S
Clwb Golff Cymry fwyaf
Does dim Cae Pêl-droed ers tua 30 mlynedd. Dim clwb ieuenctid eleni.
Siom fawr i mi oedd canlyniad fy ymchwiliad i’r rhestr etholwyr 2001, a’i weld ar ddu a gwyn. Roeddwn dan yr argraff fod pethau’n llawer iachach gan fy mod yn gallu byw heb siarad Saesneg drwy gymdeithasu a gwneud fy neges ar y stryd, fel y gwelwch o’r uchod mae sefyllfa’r siopau yn gadarnhaol iawn. Poen mawr i mi yw sut y medrwn yma yng Nghricieth gael llawer o bobl sy’n siarad Cymraeg i gyfathrebu yn y Gymraeg. Maent yn mynnu siarad Saesneg gyda’u ffrindiau a chydnabod. Mae tua 150 o bobl ifainc a pobl hyn yn euog o hyn yng Nghricieth.
Mae’n siom fawr hefyd cyn lleied o ieuenctid sy’n gwneud eu neges yn y siopau lleol. Dwn i ddim sut mae siopau bach yn dal eu pennau uwch y dwr. Mae’n well gan y rhelyw deithio i Gaernarfon a Bangor i wneud eu neges. Wrth fynd drwy’r rhestr etholiad, daw rhyw fath o batrwm ieithyddol ynghlwm â’r tai.
Mae’r rhan fwyaf o’r tai cyngor yn gartrefi i Gymry, felly hefyd y tai rhes. Mae’r tai un-llawr mawr, a thai unigol, yn gymysgedd o Saeson a Chymry. Does yma yng Nghricieth ddim tai o gwbwl i rhai sy’n dechrau byw yn enwedig gyda’r gyflogau a dderbynnir yma. Ni cheir yma dai dan £65,000, a beth bynnag sydd ar y farchnad mae’n mynd o fewn y mis.
Mae amaethyddiaeth wedi bod ar hyd y canrifoedd yn gadarnle ac yn feithrinfa i’r iaith Gymraeg. Cymry yn priodi Cymry – plant yn Gymry. Ac felly’n cadw’r ganran o blant Cymraeg yn yr ysgolion i fyny; ond ddim mwyach. Fedrwn ni ddim dibynnu arnynt os yw sefyllfa amaethyddiaeth yn mynd ar ei waered. Mae pob dim ynghlwm wrth waith. A thra mod i wrthi, os yw y cynghorau lleol ac sirol yn rhoi caniatâd
cynllunio i godi archfarnadoedd ym mhob tref, ni fydd yna siopau na affliw o ddim ar ôl mewn cymunedau a beth wnawn ni wedyn? Mi fydd yn rhy hwyr.
Diolch am wrando.