Tystiolaeth i’r Pwyllgor Diwylliant
Cyflwyniad Cymuned i’r Pwyllgor Diwylliant
7 Tachwedd 2001
Cefndir
0.1 Sefydlwyd Cymuned i hyrwyddo cymunedau Cymraeg eu hiaith.
Bydd yr arolwg wedi derbyn tystiolaeth o sawl ffynhonnell arall am
ddirywiad yn nifer a dwysedd y cymunedau hyn. Nid oes diben
atgynhyrchu’r ffeithiau adnabyddus hyn yn y fan hon; digon yw dweud
fod y duedd hanesyddol hon yn brawychu Cymuned, fod y broses ar
hyn o bryd yn cyflymu, nid yn sefydlogi, a bod Cymru bellach yn
wynebu’r posibiliad real na fydd ganddi ymhen ychydig flynyddoedd
unrhyw gymunedau Cymraeg gwledig neu bentrefol o gwbl, ac un
gymuned Gymraeg drefol yn unig, sef Caernarfon.
Cred Cymuned y dylid cynllunio ar frys, gan ryddhau adnoddau
sylweddol, er mwyn atal y duedd hon.
0.2 Seiliwyd y ddogfen hon ar drafodaethau mewn cynhadledd bolisi a
gynhaliwyd yn Aberystwyth, 29-30 Medi, a fynychwyd gan dros 100 o bobl,
ar 20 o bapurau polisi a gyflwynwyd yn y gynhadledd honno, y mae rhai
ohonynt i’w gweld ar ein gwefan (www.cymuned.org), ac ar drafodaethau a
gynhaliwyd oddi mewn ac oddi allan i’r mudiad ers hynny.
0.3 Ers rhai misoedd bellach, mae Cymuned wedi bod yn casglu tystiolaeth
am yr iaith Gymraeg mewn cymunedau Cymraeg penodol. Mae’r dystiolaeth
wedi bod yn dra gwerthfawr inni a bydd yn cael ei chyflwyno i’r Cynulliad yn
fuan.
Yr Hawl i Fodoli
Cred Cymuned fod hawl cymunedau ieithyddol cynhenid i fodoli yn hawl
ddiymwad y mae’r cymunedau Cymraeg yn ei rhannu â chymunedau cynhenid
lleiafrifol eraill ar hyd a lled y byd.
1.2 Geilw Cymuned ar y Cynulliad i ddatgan mai’r iaith Gymraeg yw priod iaith
Cymru. Fel priod iaith Cymru, golygwn ei bod yn iaith sydd yn neilltuol, ac yn
arbennig, i Gymru.
1. Geilw Cymuned ar y Cynulliad i wneud datganiad diamwys y bydd yn cyflawni ei
ddyletswyddau yn unol â chyfreitheg ryngwladol i warchod buddiannau y lleiafrif
Cymraeg ei iaith, yn enwedig felly Penderfyniad 47/135 y Cenhedloedd Unedig,
sef ei ‘Ddatganiad ar Hawliau Pobloedd sy’n perthyn i Leiafrifoedd Cenedlaethol,
Ethnig, Crefyddol neu Ieithyddol.’
2. Mae Erthygl cyntaf y Datganiad yn datgan:
- States shall protect the existence and the national or ethnic, cultural,
religious and linguistic identity of minorities within their respective territories
and shall encourage conditions for the promotion of that identity.
- States shall adopt appropriate legislative and other measures to achieve
those ends.
Mae Cymuned yn cyd-synio â Fernand de Varennesin yn ei bapur a luniwyd i
Is-Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar hawliau lleiafrifoedd fod:
At the very least Article 1 suggests that it is no longer sufficient for a
state to claim it has no obligation in respect of linguistic minorities
except non-interference in their affairs. Even if the identity of a
linguistic minority is not endangered directly because of a state-led
policy or some other state conduct, Article 1 gives states a role to play
in creating an environment of safety and respect. The minority
language must be protected from outside menaces, and the state
must encourage conditions for its promotion instead of permitting
negative conditions to dominate and pressure a minority. To do
otherwise would be contrary to the very essence of human rights: the
recognition of the inherent worth and dignity of all human beings, as
well as to their diversity.
1.4 Geilw Cymuned ar y Cynulliad Cenedlaethol i wneud datganiad diamwys fod
gan gymunedau Cymraeg yr hawl foesol i fodoli.
1.5 Geilw Cymuned ar y Cynulliad Cenedlaethol i ddatgan y bydd yng
Nghymru gymunedau Cymraeg eu hiaith.
Nodau Strategol y Cynulliad
2.1 Mae Cymuned yn cefnogi nod strategol y Cynulliad Cenedlaethol o greu
Cymru ddwyieithog. Mae’r nod honno’n ddibynnol i raddau helaeth ar
adnodd ieithyddol y cymunedau Cymraeg eu hiaith. Unigolion a fagwyd yn y
cymunedau Cymraeg i raddau helaeth sy’n staffio’n hysgolion Cymraeg yn
yr ardaloedd llai dwys eu Cymraeg, ac sy’n weision sifil Cymraeg eu hiaith
yn ein Cynulliad a’n cyrff cenedlaethol.
Eto, nid oes yr un enghraifft yn Ewrop o iaith yn cael ei hadfer ar ôl iddi ddarfod
fel iaith bywyd beunyddiol pob cymuned ar ei thiriogaeth ieithyddol hanesyddol.
Gan hynny, rydym yn gofyn i’r Pwyllgor roi ei brif bwyslais, pan fydd yn llunio ei
adroddiad, ar sicrhau dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol.
2.2 Nid yw hyn yn golygu nad ydym yn cefnogi twf y Gymraeg y tu allan i’r
ardaloedd Cymraeg. Rydym yn llwyr gefnogol i’r ymdrechion hynny. Bydd eisiau
i’r Pwyllgor, wrth lunio ei strategaeth ar gyfer hyrwyddo’r iaith y tu allan i’r
ardaloedd Cymraeg, gofio pwyslais cynllunwyr iaith fod yn rhaid cynyddu’r
niferoedd sy’n trosglwyddo’r Gymraeg i’w plant fel mamiaith, yn hytrach na
dibynnu ar ysgolion i ddysgu’r Gymraeg fel ail iaith yn unig. Bydd eisiau sefydlu’r
Gymraeg ar lefel y gymdogaeth yn yr ardaloedd hyn, a rhaid peidio â chael ein
bodloni gan dwf y Gymraeg yn y system addysg, a meddwl nad oes angen
gwneud rhagor. Un darn yn unig o glytwaith ieithyddol ydyw. Ni fydd ysgolion yn
unig byth yn achub unrhyw iaith.
At hynny, dylid cefnogi’r Mentrau Iaith sydd wedi esblygu’n ddiweddar. Dylid hefyd
sefydlu rhwydwaith o ganolfannau iaith lleol. Mae hyn wedi digwydd ar lefel eang
iawn mewn gwledydd eraill; gyda sefydlu dros 200 o ganolfannau iaith yng
Ngwlad y Basg, a’r kohanga reos (nythod iaith) ymhlith y Maori yn Seland
Newydd.
2.3 Efallai y dylai’r Cynulliad ganolbwyntio ar yr ardaloedd hynny y tu allan i’r
ardaloedd Cymraeg lle mae canran uchel o blant yn mynychu ysgolion Cymraeg.
Dylid ymestyn cynllun trosglwyddiad iaith Bwrdd yr Iaith Gymraeg trwy Gymru,
gan ganolbwyntio ar gyn-ddisgyblion ysgolion Cymraeg a ddysgodd y Gymraeg fel
ail iaith ac sydd ar fin cael plant eu hunain.
Os yw’r Gymraeg i fyw y tu allan i’r ardaloedd Cymraeg, mae’n rhaid cynorthwyo
pobl a ddysgodd y Gymraeg fel ail iaith i drosglwyddo’r Gymraeg fel mamiaith i’w
plant.
Y Broblem sy’n Wynebu’r Gymraeg
3.1 Cred Cymuned mai’r ffordd orau o gyflawni’r amcanion strategol uchod
yw wrth sefydlogi’r iaith Gymraeg fel prif iaith y cymunedau Cymraeg hynny
sy’n bodoli ar hyn o bryd. Nid oes gwrthdrawiad rhwng y gred honno a
chydnabyddiaeth mai Saesneg yw prif iaith cymunedau eraill yng Nghymru,
fod y Cymry di-Gymraeg yn Gymry lawn cymaint â’r Cymry Cymraeg, fod y
Gymraeg yn iaith a siaredir y tu allan i’r ardaloedd Cymraeg, nag ychwaith
fod Cymru yn wlad aml-ieithyddol.
3.2 Er hynny i gyd, rhaid sylweddoli fod sefydlogi cymunedau Cymraeg eu hiaith
yn gwbl greiddiol i ddyfodol yr iaith Gymraeg. Yn Reversing Language Shift, a
ystyrir fel y prif waith ym maes adfer ieithoedd lleiafrifol, honna Joshua Fishman
fod rhaid cadw iaith yn hyfyw yn gymunedol:
Instead of being the language of linguistically isolated families
(however numerous and large these may come to be), Xish (h.y. yr
iaith leiafrifol) must also become the language of interfamily
interaction, of interaction with playmates, neighbors, friends and
acquaintances. Via demographic concentration, those who […] are
organized only on an individual family basis strive to attain an even
higher form of social organization: beginning with family they attain
community. Most languages of the world are rather limited, both
numerically and sociofunctionally, but are self-perpetuating on this
very basis and it is truly foundational if further, higher order Reversing
Language Shift efforts are to be successfully pursued.
Mae Cymuned yn cyd-synio â’r pwyslais hwn ar y Gymraeg fel iaith ymwneud pobl
â’i gilydd. Cytunwn â Fishman mai’r hyn sy’n bwysig am gymunedau Cymraeg yw
eu bod yn cynnig i’r Gymraeg ‘the informal daily life of a speech community’.
3.3 Honna Fishman yr adferir iaith leiafrifol trwy sefydlogi cymunedau
ieithyddol; gan eu diffinio fel y cwlwm rhwng aelwyd, teulu a chymdogaeth.
Oherwydd bod hyn yn dasg anodd, ceir tuedd weithiau gan ymgyrchwyr iaith
i bwyso am fuddugoliaethau sy’n haws eu cyrraedd megis darpariaeth yn yr
iaith leiafrifol mewn llywodraeth, y cyfryngau ac ym maes statws cyhoeddus.
Pwysleisia Fishman na allai’r rhain fyth gymryd lle y gymuned ieithyddol naturiol.
3.4 O gymhwyso dadansoddiad Fishman i Gymru, gellir gweld mai hanes y
mudiad iaith fu pwyso am fuddugoliaethau corfforaethol neu ‘symbolaidd’
megis arwyddion ffyrdd dwyieithog, S4C a Deddf Iaith Newydd yn hytrach
na gwarchod ac amddiffyn sail tiriogaethol cymunedau naturiol Cymraeg.
O hyn ymlaen, bydd eisiau gwneud gwarchod y cymunedau naturiol Cymraeg sy’n
weddill yn brif nod ein hymdrechion i adfer y Gymraeg os yw’r iaith i fyw.
Y Cymunedau Cymraeg
4.1 Wrth graffu ar y rhesymau am y dirywiad yn nifer a dwysedd cymunedau
Cymraeg eu hiaith, gellir gweld fod dwy ffactor sosio-ieithyddol ar waith:
1. Newid demograffig
Anallu cymunedau Cymraeg i reoli sgil-effeithiau ieithyddol y newid demograffig
hwnnw yn effeithiol
2. Mae’r newid demograffig yn ffrwyth symudiad poblogaeth i ddau gyfeiriad.
4.2 Mewnfudo. A hithau’n wlad eithriadol o hardd, mae Cymru’n gyrchfan naturiol i
bobl sy’n dymuno ymgartrefu yng nghefn gwlad. Mae mewnfudo i gefn gwlad yn
ffenomen gyffredin yn y byd gorllewinol, ond fe ddwg newidiadau ieithyddol
pellgyrhaeddol yn ei sgil. Cred Cymuned fod rhaid i lywodraeth Cymru gydnabod
ffenomen mewnfudo a chynllunio ar ei chyfer, yn union fel y gwneir mewn
gwladwriaethau Ewropeaidd eraill, ac fel y cydnabuwyd eisoes gan adroddiad a
gomisiynwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd.
4.3 Allfudo. Mae’r ardaloedd Cymraeg eu hiaith ar hyn o bryd yn wynebu
argyfwng economaidd. Mae diffyg swyddi yn golygu fod pobl, yn enwedig pobl
ifanc, yn gorfod ymadael. Fe ellid dadlau fod diboblogi wedi bod yn nodwedd ar yr
ardaloedd hyn ers canrif a mwy bellach, ond cyflymwyd y broses yn ddiweddar
gan fethiannau mewn tri sector cyflogaeth hollbwysig.
i Mae’r dirywiad tymor hir yn y nifer a gyflogid gan y diwydiant
amaethyddol wedi cyflymu’n aruthrol yn y pum mlynedd diwethaf. Bu
amaethyddiaeth yn asgwrn cefn i’r Gymraeg erioed.
ii Nid yw’r ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn cynnig ond ychydig
gyfleoedd i ddatblygu gyrfaoedd proffesiynol. Ar yr un pryd, mae
Caerdydd wedi datblygu ystod eang o swyddi proffesiynol y mae’r
Gymraeg yn hanfodol ar eu cyfer. Canlyniad hyn yw bod ieuenctid yr
ardaloedd Cymraeg wedi mudo i Gaerdydd en masse gan wanhau’r
Gymraeg fel iaith gymunedol yn ddifrifol.
iii Mae’r ardaloedd Cymraeg mwyaf poblog (Cwm Gwendraeth,
Dyffryn Aman, Blaenau Ffestiniog, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen] yn
ôl-ddiwydiannol, ac yn dioddef o broblemau dybryd o ran diffyg
cyflogaeth.
4.4 Gellir gweld felly fod y cymunedau Cymraeg yn wynebu dwy duedd
ddemograffig ar yr un pryd. Mae siaradwyr Cymraeg yn gadael, ac mae hyn yn
arbennig o wir am siaradwyr Cymraeg sydd yn oedran magu plant, sef yr oedran
pwysicaf oll o ran trosglwyddo’r iaith o genhedlaeth i genhedlaeth yn
llwyddiannus. Ar yr un pryd, mae siaradwyr Saesneg yn dod i mewn, ond
oherwydd natur ddi-rym y gymuned Gymraeg frodorol, mae’n anodd eu
cymhathu’n ieithyddol.
4.5 Yn y cyd-destun yma, y mae’n angenrheidiol i gyflwyno mesurau ieithyddol
cryf fel y gall ymfudwyr Saesneg eu hiaith ddysgu’r Gymraeg a dod yn rhan
naturiol o’u cymunedau newydd.
4.6 Mae Cymuned yn credu y dylid gweithredu cynllun triphlyg i fynd i’r afael â’r
argyfwng hwn os yw’r Gymraeg i oroesi fel iaith gymunedol; sef ym meysydd tai a
chynllunio, datblygu economaidd a chynllunio ieithyddol.
4.7 Rydym wedi dosrannu’r categorïau hyn o dan y penawdau Tai, Gwaith ac
Iaith.
4.8 Nid oes oblygiadau cyllidol i rai o’r argymhellion isod. Mae eraill gyda
goblygiadau cyllidol sylweddol. Ni fydd modd cyflawni’r amcanion hyn o lynu
at gynlluniau gwariant y Weithrediaeth ar gyfer y tair blynedd nesaf fel y
maent ar hyn o bryd.
Anfantais mawr y gwariant ar y Gymraeg yw iddi gael ei seilio ar yr ychydig
gymhorthdal ieithyddol a roes Llywodraeth Geidwadol yr wythdegau, o dan ofal
Syr Wyn Roberts, i brosectau diwylliannol.
Cafodd y cymorthdaliadau hyn eu trosglwyddo i Fwrdd yr Iaith Gymraeg gan
Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Ond nid cymorthdaliadau adfer iaith oeddynt hwy,
ond yn hytrach grantiau i gyrff diwylliannol (Yr Eisteddfod Genedlaethol, Cyngor
Llyfrau Cymraeg, ac ati).
Yn ôl Cyllideb Ddrafft y Cynulliad ar gyfer 2002-2003, fe fydd £7.28m yn cael ei
wario yn uniongyrchol ar yr iaith Gymraeg. Gan fod y Gyllideb gyfan yn cynnwys
gwariant o £10.458biliwn, gallwn weld y bydd gwariant uniongyrchol ar yr iaith
Gymraeg ym 2002-2003 yn 0.069% yn unig o’r Gyllideb.
Mae Cymuned o’r farn fod hyn yn hollol ddiffygiol. Mae unrhyw fodel o wariant
sy’n arwain at sefyllfa lle nad yw ond 0.069% o gyllideb y wlad yn cael ei neilltuo
ar gyfer cynllunio ieithyddol yn dweud y cwbl am y lle ymylol a oedd gan yr iaith
Gymraeg mewn llywodraeth cyn datganoli. Dyma etifeddiaeth y drefn
Thatcheraidd a dylid ei thrin hi felly.
Cred Cymuned y dylai’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru gefnu ar y model hwn o
wariant yn gyfangwbl. Dylid yn hytrach seilio gwariant ar yr iaith Gymraeg ar
safonau rhyngwladol. Dylid bod yn realistig a chydnabod ein bod yn trafod
gwariant uniongyrchol o ryw £100-200m y flwyddyn ym maes cynllunio iaith yn
unig, neu swm sy’n cyfateb efallai i 1-2% o gyllideb y Cynulliad Cenedlaethol.
Dylai costau tai a gwaith gael eu hystyried ar wahân, nid fel gwariant ar yr iaith ond
fel buddsoddiad mewn datblygiad polisi yn y meysydd hynny.
Tai
5.1 Bydd Cymuned yn cyflwyno papur i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn nes
ymlaen heddiw (7 Tachwedd 2001).
Gwaith
6.1Mae’r ardaloedd Cymraeg o dan anfantais economaidd. Dyma rai o
gymunedau mwyaf difreintiedig gorllewin Ewrop.
6.2 Oddi mewn i’r ardaloedd Cymraeg hyn, bu tuedd i siaradwyr Cymraeg lenwi’r
swyddi is eu cyflog a statws, gyda swyddi gwell, yn enwedig yn y sector breifat, yn
cael eu llenwi gan bobl ddi-Gymraeg o’r tu allan. Cyfeiriwyd at y sefyllfa hon gan
academyddion fel y ‘gwahaniad diwylliannol yn y gweithlu’.
The 1981 census figures indicate that the non-Welsh-born were
proportionally over-represented in professional and managerial
categories as well as in the supervisory categories. In contrast
Welsh-speakers are over-represented in the unskilled, semi-skilled
and agricultural categories. Even when we make allowance for the
slight disparity between the size of the respective groups this
observation holds true.
Yng Ngwynedd, er enghraifft, cafodd dros 50% o’r rheolwyr yn y sector breifat eu
geni y tu allan i Gymru. Mae llawer o resymau am anallu siaradwyr Cymraeg i
dreiddio i’r farchnad gyflogaeth: y ffaith fod newydd-ddyfodiaid yn meddu ar fwy o
gyfalaf na’r boblogaeth leol, gan fedru prynu busnesau; strwythur canghennog
llawer o gwmnïau Prydeinig sy’n penodi rheolwyr o’r canol; ac ymddieithriad y
Cymry Cymraeg fel grwp ethno-ieithyddol oddi wrth y gyfundrefn gyfalafol
Brydeinig.
6.3 Mae’r sefyllfa economaidd wedi cael effaith ieithyddol. Mae wedi golygu
na all y boblogaeth gynhenid aros yn eu cynefin.
6.4 Ond nid digon darparu swyddi. Mae’r ffaith nad yw siaradwyr Cymraeg
yn medru treiddio i rai sectorau cyflogaeth yn golygu fod yn rhaid mynd â
chynllunio ieithyddol a datblygu economaidd law-yn-llaw. Ceir cynsail i
ddatblygu economaidd sy’n ceisio gwneud iawn am annhegwch
cymdeithasol gyda’r sylw a roddir yn nogfennau Amcan Un i fuddiannau
merched, pobl anabl a lleiafrifoedd ethnig. Mae’n werth nodi fod siaradwyr
Cymraeg hefyd o dan anfantais cyffelyb o ran cyflogaeth mewn sawl ardal.
6.5 Heb wella perfformiad economaidd siaradwyr Cymraeg fel grwp, ni fydd
modd codi perfformiad economaidd yr ardaloedd Cymraeg yn sylweddol.
6.6 Cred Cymuned fod angen nifer o gamau pendant i fynd i’r afael â’r
methiannau economaidd hyn.
6.7 Dylid sefydlu Awdurdod Datblygu Economaidd penodol ar gyfer yr
ardaloedd Cymraeg wedi ei seilio naill ai ar fodel Cymreig, fel y Bwrdd
Datblygu Cymru Wledig, neu ar fodel Ewropeaidd, megis Udaras na
Gaeltachta yn Iwerddon. Byddai’r Awdurdod yn gyfrifol am sefydlu a
datblygu cwmnïau cynhenid, denu mewnfuddsoddiad addas, a sicrhau nad
yw datblygu economaidd yn milwrio yn erbyn buddiannau’r iaith Gymraeg.
6.8 Dylid cynnal adolygiad brys i’r ffordd y mae Arian Amcan Un yn cael ei
wario yn yr ardaloedd Cymraeg.
6.9 Ymhellach, fe ddylai Bwrdd yr Iaith Gymraeg fod yn sylwebydd statudol
ar Bwyllgor Monitro Amcan Un, ac fe ddylai hyrwyddo’r iaith Gymraeg fod yn
ystyriaeth wrth bennu prosiectau yn yr ardaloedd Cymraeg. Gan fod
siaradwyr Cymraeg dan anfantais yn economaidd, dylid gosod targedau ar
gyfer gwella eu perfformiad economaidd, yn union fel y gwneir gyda
merched, pobl anabl a lleiafrifoedd ethnig. Rydym o’r farn y bu’r Single
Programming Document ar gyfer Amcan Un yn aneffeithiol yn ei thriniaeth o
bwysigrwydd y Gymraeg, a bod rhaid gwneud iawn am hynny.
6.10 Dylid cael gwell cydweithrediad rhwng asiantaethau menter, cyrff datblygu
cymunedol a’r mentrau iaith, er mwyn sicrhau ffyniant economaidd cymunedau
Cymraeg.
6.11 Dylid cynnig benthyciadau di-log neu log isel i gwmnïau
cynhenid i fuddsoddi mewn ymchwil, marchnata a datblygu cynnyrch.
6.12 Dylid annog y sector cyhoeddus i brynu rhagor o’u gwasanaethau a’u
nwyddau gan gyflenwyr lleol. Dylai’r sector cyhoeddus ystyried mwy na chost yn
unig wrth bennu cytundeb. Dylai sefydlogi’r iaith Gymraeg fod yn rheswm dilys
dros roi cytundeb i gwmni lleol yn hytrach na chwmni o’r tu allan. Os dyfernir
gwaith i is-gontractwr allanol, dylai’r is-gontractwr hwnnw orfod ufuddhau i bolisi
iaith y corff cyhoeddus sy’n contractio iddo.
6.13 Dylid datblygu rhaglenni penodol ynghyd â chymorth ariannol i gymell
brodorion sydd wedi gadael yr ardal oherwydd diffyg gwaith i ddychwelyd. Gellid
creu e-restr byd-eang o siaradwyr Cymraeg a’u sgiliau, a’i defnyddio i lenwi
bylchau sgiliau angenrheidiol yn yr ardaloedd Cymraeg.
6.14 Dylid annog rhagor o ddatblygiadau tebyg i’r Canolfannau Dysgu Gydol
Oes sydd wedi cael eu sefydlu ym Mlaenau Ffestiniog, Penygroes a
Chaernarfon. Dylai’r Cynulliad ryddhau rhagor o adnoddau i’r awdurdodau
lleol ac ELWa i ddatblygu canolfannau tebyg drwy’r ardaloedd Cymraeg.
6.15 Dylid ceisio Cymreigio’r diwydiant twristiaeth, a datblygu twristiaeth
ddiwylliannol.
6.16 Dylid cefnogi pob ymdrech i adfywio a diogelu’r diwydiant amaethyddol yng
Nghymru. Mae gwarchod y fferm deuluol o bwysigrwydd sylfaenol i ddyfodol y
Gymraeg. Mae Cymuned yn datblygu ei bolisi amaethyddol ar hyn o bryd, a
dymuna ei gyflwyno i’r Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig maes o law.
6.17 Dylid sefydlu Cronfa Gymunedol benodol ar gyfer cymunedau cefn
gwlad sydd yn dymuno ffurfio cwmnïau cydweithredol i warchod
gwasanaethau penodol yn eu hardaloedd megis y siop, y t tafarn ac yn y
blaen. Yn yr un modd, dylid sefydlu Banc Datblygu Cymunedol ar gyfer
buddsoddi mewn busnesau cynhenid. Dylid hefyd cefnogi Undebau Credyd.
6.18 Dylid cydnabod yn onest nad yw rhai o’n pobl ifanc yn dymuno byw yng
nghefn gwlad. Yn hytrach na cholli’r bobl ifanc hyn i Gaerdydd neu fan arall,
dylid datblygu rhai trefi yn yr ardaloedd Cymraeg fel canolfannau fyddai’n
apelio at bobl ifanc trefol eu naws.
6.19 Dylid datblygu’r ‘trefi twf’ hyn yn economaidd, gan symud
pencadlysoedd mudiadau a sefydliadau Cymraeg yno, sefydlu parciau
busnes isel eu rhent, pennu polisi pendant o ddatblygu diwylliant ieuenctid
Cymraeg, a chefnogi mentrau diwylliannol-gymunedol fel y Sesiwn Fawr yn
Nolgellau. Yn y bôn, dylai fod yn bosib byw bywyd ‘cosmopolitaidd’ yn yr
ardaloedd Cymraeg trwy gyfrwng y Gymraeg.
6.20 Dylai’r Cynulliad orchymyn yr asiantaethau a’r cyrff cyhoeddus hynny
sy’n derbyn arian gan y Cynulliad ac sy’n ddibynnol ar yr iaith Gymraeg am
eu bodolaeth i adleoli o Gaerdydd i ardal Gymraeg.
6.21 Dylai’r Cynulliad gychwyn trafodaethau ar unwaith gyda S4C a’r
Llywodraeth yn San Steffan gyda’r nod o symud S4C i ardal Gymraeg.
6.22 Dylai Bwrdd yr Iaith Gymraeg symud i ardal Gymraeg.
6.23 Dylai’r Cynulliad ofyn i bob corff cyhoeddus a noddir ganddo i wneud
astudiaeth dichonoldeb yn cyfiawnhau eu rhesymau am gadw eu pencadlys yng
Nghaerdydd. Dylai’r cyrff hynny sy’n cyflogi’r ganran fwyaf o siaradwyr Cymraeg
symud i ardal Gymraeg. Dylai cyrff eraill gael eu symud i Wrecsam, Conwy,
Abertawe neu gymunedau difreintiedig yn y cymoedd.
6.24 Mae mawr angen cynyddu nifer y gweision sifil sy’n medru’r Gymraeg. Ond,
yn hytrach na denu pobl ifanc dalentog o’r ardaloedd Cymraeg i Gaerdydd wrth
wneud hyn, dylid datganoli rhan o’r gwasanaeth sifil o Gaerdydd, gan ddefnyddio
e-dechnoleg, fideo-gynadledda, cynadledda ffôn ac ati. Dylid sefydlu canolfan i’r
gwasanaeth sifil mewn ardal Gymraeg a cheisio lleoli nifer helaeth o’r staff
Cymraeg eu hiaith a benodir yn y ganolfan honno.
6.25 Dylid symud gwasanaeth cyfieithu a chofnodi y Cynulliad o Gaerdydd
yn syth, gan adleoli’r adrannau hyn mewn ardal Gymraeg.
6.26 Fel yr unig gymuned Gymraeg ‘ddiogel’ yng Nghymru sydd ar ôl,
credwn fod sefydlogi economi Caernarfon a’r cylch yn gwbl sylfaenol nid yn
unig i ddyfodol yr iaith Gymraeg, ond hefyd i etifeddiaeth ieithyddol a
diwylliannol Ewrop.
6.27 Oherwydd ei lleoliad daearyddol, ei natur ôl-ddiwydiannol, colli atomfa
Trawsfynydd, a diffyg gwaith yn gyffredinol, rydym yn pryderu’n fawr am
stad yr economi yn ail dref fwyaf y Gymru Gymraeg, sef Blaenau Ffestiniog.
Pryderwn mewn modd tebyg am ddifyg gweithgarwch economaidd mewn
trefi Cymraeg eraill.
6.28 Dylai Awdurdod Datblygu Cymru enwi cymunedau trefol Cymraeg
penodedig eraill, yn eu plith, Llangefni, Pwllheli, Y Bala, Dolgellau, Tregaron,
Aberteifi, Machynlleth a Llanbedr Pont Steffan, ac yna gosod targedau ar
gyfer datblygu economaidd yno. Dylai hefyd enwi pentrefi Cymraeg
penodedig megis Crymych, Llandysul, Brynaman, Pontyberem, Dinas
Mawddwy, Trawsfynydd, Penrhyndeudraeth, Nefyn, Llanberis, Penygroes,
Bethesda, Gaerwen, Llanrwst, Llanbrynmair ac ati, gan osod targedau ar
gyfer datblygiadau economaidd yno hefyd.
Oherwydd fod y cymunedau Cymraeg cryfaf yn aml yn bell yn ddaearyddol o
farchnadoedd Prydeinig ac Ewropeaidd, ni fydd gosod targedau economaidd ar
gyfer rhanbarthau, neu hyd yn oed siroedd, yn gwneud y tro. Ni fyddai gosod
targed ar gyfer Gwynedd, er enghraifft, yn ddigon da, gan y gallai’r swyddi i gyd
fynd i Fangor, gan adael Llyn, er enghraifft, heb waith.
Iaith
7.1 Oni ellir mynd i’r afael â’r newidiadau demograffig enfawr yn y Gymru Gymraeg
a sefydlu polisïau pwrpasol yn y meysydd tai a chyflogaeth, ni fydd y Gymraeg
yn goroesi fel iaith gymunedol, ac oni fydd yn goroesi fel iaith gymuned, ymhen
amser, bydd yn peidio â bod fel iaith.
7.2 Ond hyd yn oed pe sefydlogid y boblogaeth, byddai rhaid gweithredu camau
neilltuol ym maes cynllunio iaith. Yn y rhan fwyaf o’r Gymru Gymraeg wledig,
mae’r boblogaeth ddi-Gymraeg ymron â mynd yn fwyafrif. Gellir gweld y duedd
ieithyddol hon yn y ffigyrau ar gyfer siaradwyr mamiaith ymhlith plant 5 oed. Yng
Ngwynedd yn 2000, dim ond gan 54% o blant 5 oed y siaredid y Gymraeg ar yr
aelwyd; ym Môn gan 33%; yng Ngheredigion, 28%; ac yn Sir Gaerfyrddin, 22%.
Yn amlwg felly os yw’r Gymraeg i fod yn iaith gymunedol fyw i’r genhedlaeth
nesaf bydd angen gweithredu cynlluniau adfer iaith yn yr ardaloedd Cymraeg.
7.3 Er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng ieithyddol hwn, bydd angen i’r
Cynulliad ddangos arweiniad gwleidyddol neilltuol. Cred Cymuned mai
dyma’r cyfle olaf i ‘achub’ yr iaith Gymraeg. Ac eithrio sefydlu Gwladwriaeth
Israel, sydd â chefndir ieithyddol cymdeithasegol cwbl wahanol i eiddo
Cymru, nid oes yr un enghraifft yn y byd o iaith yn cael ei hadfer yn iaith
gymunedol wedi iddi ddarfod fel iaith bob dydd ymhob rhan o’i thiriogaeth
hanesyddol.
7.4 Er mwyn adfer yr iaith Gymraeg yn ei chadarnleoedd, cred Cymuned y dylid
gweithredu’r polisïau yn Adrannau 8 i 12:
Addysg Statudol
8.1 Cred Cymuned fod addysg statudol Gymraeg yn hanfodol os ydym i
atgyfnerthu gallu’r gymuned i sicrhau trosglwyddiad iaith llwyddiannus o
genhedlaeth i genhedlaeth. Ein bwriad yw cyflwyno tystiolaeth lawn i’r Pwyllgor
Addysg yn ei arolwg o addysg Gymraeg statudol. Braslun yn unig o’n
hargymhellion ar gyfer addysg a geir yn y fan hon.
8.2 Rydym yn ymwybodol o’r gwaith ymchwil cynhwysfawr a gyflawnwyd eisoes
yn y maes addysg, a phwyswn ar y Cynulliad i sefydlu strategaeth genedlaethol ar
gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ar sail yr ymchwil hwnnw.
8.3 Credwn y dylai pob plentyn yng Nghymru gael y cyfle i fod yn hyderus
ddwyieithog yn 16 oed. Yn yr ardaloedd Cymraeg, byddai hepgor darparu’r cyfle
hwn gyfystyr â gwadu hawl i blant chwarae rhan lawn yn eu cymuned.
8.4 Er mwyn cyflawni hyn yn effeithiol, geilw Cymuned ar y Cynulliad
Cenedlaethol i sicrhau fod y drefn addysg yn yr ardaloedd Cymraeg yn
normaleiddio’r Gymraeg fel cyfrwng addysg disgyblion rhwng 3 ac 16 oed.
8.5 Dylid diddymu’r drefn bresennol o ffrydio ieithyddol oddi mewn i ysgolion. Nid
yw plant o aelwydydd di-Gymraeg sydd yn dilyn addysg gyfrwng Saesneg yn
gadael yr ysgol yn rhugl yn y ddwy iaith.
8.6 Dylid ymestyn patrwm Cyngor Sir Gwynedd o ddarparu canolfannau iaith
arbennig er mwyn trochi plant newydd-ddyfodiaid di-Gymraeg i’r ardaloedd
Cymraeg eraill. Mae angen estyn y cynllun hwn i’r sector uwchradd hefyd.
8.7 Rydym yn croesawu’r gydnabyddiaeth a roddir yn Strategaeth Gorfforaethol
Ddrafft Cyngor Cenedlaethol ELWa i bwysigrwydd dwyieithrwydd yng Nghymru;
yn croesawu’r datganiad o fwriad am ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn Nogfen
Ymbaratoi’r Cynulliad Cenedlaethol, Y Wlad sy’n Dysgu. Dylai’r Cynulliad
weithredu’r strategaethau hyn, a strategaethau pellach, fel y byddant yn cyfrannu
tuag at gryfhau’r iaith Gymraeg fel iaith gymunedol yn yr ardaloedd Cymraeg.
8.8 Dylai’r Cynulliad fynnu bod darparwyr addysg sy’n derbyn cyllid cyhoeddus ar
gyfer darpariaeth addysg alwedigaethol, addysg gymunedol, ac addysg gydol oes
yn ymdrin â’r iaith Gymraeg fel pwnc llorweddol.
8.9 Byddai hyn yn golygu bod darparwyr yn gorfod cynnig cyrsiau Cymraeg
neu ddwyieithog yn yr ardaloedd Cymraeg. Bydd hyn yn gofyn am
gydweithio ar lefel genedlaethol er mwyn osgoi dyblygu a gwastraffu
adnoddau ac yn arwain at gyflwyno dulliau addysgu a dysgu arloesol. Bydd
hefyd yn sicrhau dilyniant a datblygiad addysgol priodol a chyfartal nad yw’n
bodoli ar hyn o bryd i unigolion yn yr ardaloedd Cymraeg.
8.10 Dylid sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg a chymreigio addysg alwedigaethol.
Credwn y bydd hyn yn gwneud mwy o siaradwyr Cymraeg yn gymwys ar gyfer
ystod ehangach o swyddi proffesiynol yn yr ardaloedd Cymraeg nag ar hyn o
bryd. Dylai canolfannau y Coleg Ffederal fod yn y colegau ym Mangor,
Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan a Chaerfyrddin.
Cymhathu Oedolion di-Gymraeg
9.1 Cred Cymuned fod gan newydd-ddyfodiaid i’r ardaloedd Cymraeg gyfrifoldeb
sifig i ddysgu’r iaith Gymraeg. Credwn yn ogystal fod gan yr ardaloedd Cymraeg
hwythau gyfrifoldeb; cyfrifoldeb i hwyluso’r gwaith o ddysgu Cymraeg i
newydd-ddyfodiaid, a’i gwneud mor ddeniadol, effeithiol a chyfleus ag sy’n bosib.
Er mwyn galluogi cymunedau Cymraeg i wneud hyn, bydd rhaid i’r Cynulliad
wneud buddsoddiad ariannol sylweddol.
9.2 Yn y cyd-destun hwn, mae Cymuned yn croesawu datganiadau diweddar gan
y Blaid Lafur, y Blaid Geidwadol a’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol yn cydsynio â
dymuniad yr Ysgrifennydd Cartref, David Blunkett, i weld newydd-ddyfodiaid yn
dysgu iaith eu cymuned newydd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, ‘I believe we need to educate new migrants in
citizenship and help them to develop an understanding of our language,
democracy and culture.’ Croesawodd Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid, Oliver
Letwin, y cynlluniau gan ddweud ‘we welcome them’; ac ategodd yr Aelod
Seneddol Llafur, Ann Cryer, ei chefnogaeth hithau, ‘it would also encourage, in
my view, integration.’ Dywedodd llefarydd, Robin Banerji, ar ran y Comisiwn
Cydraddoldeb Hiliol, ‘It is a good idea on general principle […] anything that helps
people understand the place they are coming to must be welcome.’
9.3Mae Cymuned yn galw ar y Cynulliad i gefnogi’r consensws newydd ym
Mhrydain dros ddysgu iaith y gymuned i newydd-ddyfodiaid wrth ddatgan ei
ddymuniad i ddysgu Cymraeg i newydd-ddyfodiaid yn yr ardaloedd
Cymraeg. Cred Cymuned y byddai hyn yn hwyluso cyfle cyfartal yn ogystal â
diogelu’r iaith Gymraeg.
9.4 Nid ydym o’r farn fod y system bresennol o ddysgu Cymraeg i
newydd-ddyfodiaid yn un llwyddiannus. Dim ond 1.7% (sef 2,606 o unigolion) o’r
boblogaeth ddi-Gymraeg mewn rhanbarth Gymraeg fel yr hen Sir Ddyfed a oedd
yn gofrestredig ar gyrsiau Cymraeg mewn blwyddyn pryd gwnaed astudiaeth
academaidd. Trwy Gymru gyfan, dim ond 94 o unigolion a lwyddodd mewn
arholiadau Cymraeg Safon Uwch i oedolion yn 2000. Gallai cyfradd gadael
cyrsiau iaith yng ngwledydd Prydain fod yn uchel; oddeutu 90% yn ôl rhai
arbenigwyr.
O ystyried cyfrifoldeb y Cynulliad i sicrhau parhad cymunedau naturiol Cymraeg
yn wyneb newidiadau demograffig enfawr, mae’r ffigyrau hyn yn gyfan gwbl
annerbyniol.
9.5 Mae angen ymchwilio ar frys i’r ffactorau a fyddai’n cymell newydd-ddyfodiaid,
a’r rhai gyda phlant yn arbennig, i ddysgu’r Gymraeg yn effeithiol.
9.6 Dylid sefydlu rhwydwaith o ganolfannau iaith, ar batrwm y ganolfan iaith
Popeth Cymraeg yn Ninbych, ar gyfer gweithgarwch ar lefel sirol, yn ogystal
â sefydlu rhwydwaith o diwtoriaid iaith cymunedol ar gyfer gweithgarwch
mwy lleol.
9.7 Dylai’r canolfannau a’r tiwtoriaid hyn hefyd ddarparu cyrsiau sy’n rhoi
braslun o hanes a chefndir diwylliannol yr ardal y mae newydd-ddyfodiad
wedi symud iddi. Fe allai’r rhain gyfateb i’r ‘gwersi dinasyddiaeth’ y mae’r
Llywodraeth am eu datblygu trwy wledydd Prydain.
9.8 Dylai tiwtoriaid iaith cymunedol drefnu sesiynau mewn canolfannau
cymunedol lleol, megis yr ysgol gynradd leol, lle gall rhieni di-Gymraeg
ddysgu Cymraeg ochr-yn-ochr â’u plant. Dyma’r math o gydlyniad rhwng y
teulu, y plentyn a’r gymdogaeth sy’n hanfodol i barhad y Gymraeg fel iaith
gymunedol. Mae Cymuned yn croesawu cynlluniau’r Democratiaid
Rhyddfrydol i sefydlu canolfannau a fyddai’n dysgu Cymraeg i rieini
ochr-yn-ochr â’u plant.
9.9 Dylid cynnal cynllun peilot mewn tri neu bedwar o bentrefi Cymraeg
mewn gwahanol rannau o Gymru a fyddai’n ceisio cymhathu
newydd-ddyfodiaid. Dylid ceisio sêl bendith y Cyngor Cymuned leol, ynghyd
ag arweinwyr cymunedol eraill, ac adfer ysbryd cymunedol y pentref hwnnw
o gwmpas y nod o ddysgu’r iaith Gymraeg i newydd-ddyfodiaid a gwella
caffael y rheini nad ydynt yn gwbl cadarn eu Cymraeg.
9.10 Dylid cydnabod yn gyhoeddus y cyfraniad i hyfywedd ieithyddol y cymunedau
Cymraeg gan unigolion a symudodd i Gymru o rannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol
ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Dylid ariannu prosiect lle bydd y sawl sydd wedi
dysgu’r iaith yn llwyddiannus yn cysylltu â newydd-ddyfodiaid eraill, i drafod gyda
nhw sut yr aethant ati i ddysgu Cymraeg, yr ymateb a gawsant, a’u teimladau am
hunaniaeth ddiwylliannol eu cymuned newydd.
9.11 Dylai awdurdodau lleol yn yr ardaloedd Cymraeg, ynghyd â chyrff
cyhoeddus sy’n atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol, dderbyn cyllid ychwanegol
er mwyn eu galluogi i ryddhau aelodau di-Gymraeg o’u staff ar gyrsiau
dysgu Cymraeg dwys. Dylent drefnu system fentora yn y gweithle, wedi i’r
staff hyn ddychwelyd, fel y cânt gyfle i ymarfer eu hiaith bob dydd. Dylid
ystyried cyfrifoldebau mentoriaid yn gyfystyr â chyfrifoldebau eraill ac
adlewyrchu hynny yn y tâl a gânt. Rhaid sicrhau bod y mentoriaid hyn yn
derbyn hyfforddiant llawn.
9.12 Dylai busnesau preifat a’r hunangyflogedig dderbyn gostyngiad ar eu
treth os ydynt yn mynychu, neu’n rhyddhau aelodau o staff i fynychu,
cyrsiau dysgu Cymraeg. Dylid rhyddhau pobl am gyfnodau estynedig fel y
gwneir yng Ngwlad y Basg. Dylai’r un system fentora ag yn 9.11 uchod fod
ar gael mewn cwmnïau.
9.13 Dylid cynorthwyo’r cwmnïau i gyflogi staff llanw addas pan fydd eu
staff ar gyrsiau dysgu Cymraeg.
9.14 Dylai’r cyrsiau hyn fod ar gael yn rhad ac am ddim i newydd-ddyfodiaid
a dylid rhyddhau adnoddau newydd i sicrhau hynny.
9.15 Dylai fod cynlluniau cadarn ar gael ar ôl i gwrs gael ei gwblhau yn
sicrhau fod pobl yn dechrau defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith mewn ffordd
weithredol.
9.16 Dylid sefydlu corff yn cyfateb i HABE (y Sefydliad ar gyfer Llythrennedd a
Basgeiddio Oedolion] Gwlad y Basg; corff penodol a fydd yn cydlynu’r ymdrechion
hyn i ddysgu Cymraeg i newydd-ddyfodiaid yn yr ardaloedd Cymraeg.
9.17 Wedi i newydd-ddyfodiaid ymdrechu i ddysgu Cymraeg, bydd rhaid i drigolion
lleol ysgwyddo cyfrifoldeb o gymdeithasu â’r siaradwyr Cymraeg newydd. Yn dilyn
cyfnod hir o gyfathrebu mewn Saesneg â’r newydd-ddyfodiaid, bydd tuedd gan rai
pobl leol i siarad Saesneg â hwy o hyd. Er mwyn goresgyn y broblem hon, dylid
sefydlu tasglu i ymchwilio i ffyrdd o hwyluso cymdeithasu rhwng siaradwyr
Cymraeg mamiaith ac ail iaith. Dylid cynnal digwyddiadau cymdeithasol i’r
siaradwyr Cymraeg newydd mewn llefydd lle mae pobl leol Gymraeg eu hiaith yn
cymdeithasu’n naturiol.
9.18 Bydd angen buddsoddiad ariannol sylweddol i gyflawni’r amcanion hyn.
Dylai cynlluniau dysgu sgiliau o’r fath fod yn gymwys i dderbyn Arian Amcan
Un.
9.19 Bydd rhaid i’r Cynulliad hefyd ysgwyddo ei ran o’r baich ariannol
newydd. Credwn, fodd bynnag, fod hyn yn bris isel i’w dalu am y wobr o
atgyfnerthu cymunedau, darparu newydd-ddyfodiaid â sgil hanfodol, a
sicrhau dyfodol i’r iaith Gymraeg.
9.20 Cred Cymuned fod modd hyrwyddo’r Gymraeg mewn ffordd sy’n atgyfnerthu
hyfywedd diwylliannol y gymdeithas ddiwylliannol frodorol, yn ogystal â rhoi
cymorth ymarferol i newydd-ddyfodiaid. Credwn unwaith eto felly y gall nod y
Cynulliad o hyrwyddo cyfle cyfartal a chreu cymdeithas gynhwysol fynd
law-yn-llaw â gwarchod y Gymraeg fel iaith gymunedol.
Hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned
10.1 Mae mewnfudiad unigolion di-Gymraeg i’r ardaloedd Cymraeg wedi arwain
at sefyllfa lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei defnyddio’n naturiol mewn ystod eang o
weithgareddau. Mae angen mabwysiadu camau pendant i gynnal y Gymraeg pan
y’i hwynebir gan iaith gryfach.
10.2 Er mwyn cyflawni hyn bydd angen cynlluniau pendant i adfer cymunedau i
fod yn gymunedau Cymraeg eu hiaith.
10.03 Dylid cefnogi gwaith y Mentrau Iaith a dylid cefnogi’r alwad am godi
eu cyllid yn sylweddol.
10.4 Dylid ystyried adrefnu dalgylchoedd rhai o’r Mentrau Iaith yn ôl angen
ieithyddol yn hytrach na hwyluster gweinyddol. Yn Ynys Môn, Dinbych-Conwy a
Maldwyn, er enghraifft, ceir ffiniau gweddol bendant rhwng y cymunedau Cymraeg
(perfeddwlad Môn, perfeddwlad Dinbych-Conwy, gogledd a gorllewin Maldwyn)
ac ardaloedd mwy Saesneg eu hiaith.
10.5 O dan ofal y Mentrau Iaith, dylid datblygu trefn o fugeiliaid neu luosogwyr
(animateurs) iaith. Byddai’r unigolion hyn yn cynnig arbenigedd cynllunio
ieithyddol dwys oddi mewn i gymunedau.
10.6 Dylid sicrhau mai’r Gymraeg yw iaith fewnol awdurdodau lleol yn yr
ardaloedd Cymraeg. Dylid sefydlu trefn o’r math yma yng nghynghorau Môn,
Ceredigion a Chaerfyrddin yn syth, gan ddilyn enghraifft Gwynedd. Er mwyn
hwyluso hyn, dylid dilyn y patrwm a amlinellir yn Adran 9 i hyfforddi staff
di-Gymraeg.
10.7 Dylid buddsoddi’n helaeth mewn offer cyfieithu-ar-y-pryd, a sicrhau fod
cyrsiau ar gael i hyfforddi pobl leol a gwirfoddolwyr i’w defnyddio. Mae eisiau
normaleiddio’r defnydd o’r offer yma, gan anelu at sefyllfa lle mae pob cyngor
cymuned yn yr ardaloedd Cymraeg yn meddu ar offer o’r fath. Dylai’r offer fod ar
gael i’w rhyddhau i fudiadau lleol am ddim neu am dâl bychan.
10.8 Dylid gwneud gwybodaeth o’r Gymraeg yn amod statudol i unigolion sy’n
darparu gwasanaethau cyhoeddus. Mewn sawl pentref, mae’r swyddfa bost leol
yn darparu’r gwasanaethau hyn. Dylai’r sawl sy’n gweithio mewn swyddfa bost o
fewn yr ardaloedd Cymraeg fedru’r Gymraeg.
10.9 Dylid gosod amod statudol ar gwmnïau preifat yn y sector gwasanaethau
yng Nghymru i gynnig gwasanaeth Cymraeg. I’r perwyl hwnnw, rydym yn cefnogi
galwad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am Ddeddf Iaith Newydd.
10.10 Dylid sefydlu Canolfan Gynllunio Iaith genedlaethol, efallai o dan adain
Prifysgol Cymru. Dylai fod yn debyg i ganolfannau rhagoriaeth eraill y
Brifysgol, megis y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn
Aberystwyth. Dyma faes lle gall Cymru fod yn arweinydd byd-eang, gan
gyfrannu ar yr un pryd at adfywiad ei chymunedau ei hun.
10.11 Dylid cydnabod y realiti diwylliannol fod eglwysi a chapeli, er gwaethaf
dirywiad Anghydffurfiaeth, yn sefydliadau cymunedol grymus o hyd. Mae’r rhan
fwyaf ohonynt yn sefydliadau Cymraeg, a dylid manteisio ar yr adnodd
ieithyddol-gymunedol y maen nhw yn ei gynnig i’r gymuned. Dylid gofyn i CYTUN
ddechrau cynllun peilot mewn rhyw hanner dwsin o gymunedau, lle bydd eglwysi
a chapeli lleol yn: casglu tystiolaeth am fywyd cymunedau Cymraeg; ymddiddori
ym mywyd cyfan y gymuned, gan gynnwys ei weddau ieithyddol; cefnogi
gweithgarwch gwirfoddol cymunedol; ac addasu adeiladau at ddefnydd y
gymuned. Dylai eglwysi a chapeli hefyd drefnu gwersi Cymraeg ar gyfer
newydd-ddyfodiaid a gweld hyn yn rhan o’u rôl bugeiliol.
10.12 Dylid sefydlu ffederasiwn o glybiau ieuenctid cymunedol naturiol
Gymraeg mewn cymunedau dosbarth gweithiol trefol Cymraeg. Teimlwn fod
diffyg yn y ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc ar hyn o bryd gan fod y Clybiau
Ffermwyr Ifanc yn rhy wledig ac Urdd Gobaith Cymru yn rhy ddosbarth
canol.
10.13 Dylid cefnogi diwylliant ieuenctid Cymraeg. Dylai Cyngor Celfyddydau
Cymru weithredu cynllun yn debyg i gynlluniau yn Ffrainc, lle mae
cerddorion a bandiau sy’n chwarae nifer penodedig o gigs mewn blwyddyn
yn derbyn lwfans byw. Trist oedd gweld prif fand Cymraeg Cymru,
Anweledig, yn chwalu’n ddiweddar oherwydd na fedrent ennill bywiolaeth yn
canu. Dylid hefyd dechrau gwaith i gymell tafarnau a chlybiau yn yr
ardaloedd Cymraeg a thu hwnt i chwarae cerddoriaeth Gymraeg.
Gweinyddiaeth y Cynulliad
11.1 Dylid sicrhau fod y Gymraeg yn ystyriaeth draws-bynciol a llorweddol yn y
Cynulliad, yn union fel y gwneir gyda chyfle cyfartal. Ni ddylai’r Gymraeg fod yn
ystyriaeth atodol.
11.2 Dylai’r Cynulliad ddatblygu perthynas barhaol gyda gwledydd eraill
gydag arbenigedd ym maes cynllunio iaith, megis Gwlad y Basg, Catalunya,
Quebec, taleithiau eraill Canada, Iwerddon, Y Ffindir, Gwlad Belg, Seland
Newydd, De Affrica ac Unol Daleithiau America. Dylid meithrin y berthynas
hon er mwyn chwilio am enghreifftiau o ‘arfer gorau’ rhyngwladol y gellid ei
gymhwyso i Gymru.
11.3 Dylid adolygu’r targedau ieithyddol yn www.cynllunigymru.cymru.gov.uk, sef
yr ymrwymiad i ‘sefydlogi cyfran y siaradwyr Cymraeg a chynnal y twf ymhlith
pobl ifanc’ erbyn 2003/4 a cael ‘mwy o siaradwyr Cymraeg, gyda’r mwyaf ymhlith
pobl ifanc’ erbyn 2010. Dylid ychwanegu is-gymal ‘yn y cymunedau Cymraeg yn
ogystal ag yng Nghymru gyfan’ i’r ddau osodiad. Dylid hefyd ychwanegu is-gymal
‘gan sicrhau hefyd mwy o ddefnydd cymdeithasol o’r Gymraeg’ i’r ddau osodiad.
Llywodraeth yr Ardaloedd Cymraeg
12.1 Cred Cymuned fod Cymru yn genedl, a bod yr iaith Gymraeg yn iaith i
Gymru gyfan.
12.2 Credwn hefyd fod yr ardaloedd Cymraeg yn ffurfio rhanbarth ddiwylliannol y
tu fewn i Gymru. Credwn y dylai unrhyw fodel a ddefnyddir i ranbartholi Cymru
gydnabod y ffaith ieithyddol hwn.
12.3 Mae’r rhanbarthau gweinyddol Cymreig presennol megis
‘Gogledd Cymru’ a ‘Gorllewin a Chanolbarth Cymru’ – yn rhannu’r cymunedau Cymraeg oddi wrth ei gilydd, yn hytrach na’u huno. Ymhellach, nid yw ffiniau llywodraeth leol ychwaith yn dilyn ffiniau ieithyddol. Ceir cymunedau Cymraeg wedi’u lleoli y tu fewn i diriogaeth cynghorau sir sydd yn Saesneg eu hiaith yn bennaf, ac nad ydynt, efallai, yn barod i weithredu polisïau iaith cryf.
12.4 Gan fod y cymunedau Cymraeg yn debyg i’w gilydd o ran eu cyfansoddiad
sosio-ieithyddol a phroffeil economaidd, credwn y dylid hybu cydweithio rhwng
cymunedau Cymraeg ar draws y ffiniau gweinyddol hyn.
12.5 I’r perwyl hwn, dylid sefydlu pwyllgor rhanbarthol y tu fewn i’r Cynulliad
yn seiliedig ar yr ardaloedd Cymraeg.
12.6 Dylid sefydlu Cyngor Statudol etholedig yn cynrychioli’r ardaloedd
Cymraeg. Fe allai’r cyngor ddilyn sawl model rhyngwladol fel Udaras na
Gaeltachta, cyngor etholedig yr ardaloedd Gwyddeleg eu hiaith yn
Iwerddon, sy’n bennaf gyfrifol am ddatblygu economaidd, neu Comisiun na
Gaeltachta, sydd yn cynghori’r llywodraeth yn Nulyn ar y broydd Gwyddeleg
eu hiaith, neu Udalerri Euskaldunen Mankomunitatea, y gymdeithas
ymbarél ar gyfer cynghorau bro yng Ngwlad y Basg y mae dros 75% o’u
poblogaeth yn siarad Basgeg.
Fe all y Cyngor Statudol newydd fod yn gyfrifol am yr amgylchedd ieithyddol, yn
union fel y mae tri Awdurdod Parciau Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol am yr
amgylchedd gweledol. Dylai’r Cyngor Statudol hwn allu gosod targedau o ran
isafswm perfformiad ieithyddol i gynghorau sir sydd â chyfrifoldeb am gymunedau
Cymraeg. Yn hyn o beth, fe ddylai fod ganddo ddannedd cyfreithiol. Fe ddylai
hefyd fod â chyfrifoldeb am osod is-ddeddfwriaeth yn y maes cynllunio.
Fe ellid ystyried datblygu’r Mentrau Iaith maes o law i gael rhai
swyddogaethau statudol yn lleol, ac edrych arnynt fel seiliau cymunedol y
Cyngor Statudol newydd.



