[Dyma cynnwys araith Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned, i'r Gynhadledd yn 2006.]
I gychwyn, hoffwn ategu’r hyn a ddwedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, a diolch o waelod calon i chi gyd am fod yma heddiw. Hawdd iawn ydy anghofio am waith y mudiad pan nad oes sylw teilwng yn y Wasg, a hawdd iawn ydy disgwyl i rywun arall wneud yr hyn sydd ei angen – ond rydych chi wedi gwneud yr ymdrech i fod yma heddiw, a thrwy hynny wedi rhoi cefnogaeth a hyder i’r Pwyllgor Gwaith newydd ynghyd â hygrededd i’n gwaith ni. Heb eich presenoldeb chi yma heddiw, ni fyddai modd i’r mudiad barhau, oherwydd ni fyddai modd i ni fynnu bod ein hofnau ni yn ofnau pobl eraill hefyd. Fel dwedodd y Gwyddel Edmund Burke, ‘Yr unig peth sydd ei angen i’r drwg ennill ydy bod pobl da yn gwneud dim byd.’
Diolch i chi am wneud rhywbeth. Diolch i chi am fod yma heddiw.
Fel dwedodd Richard, mae wedi bod yn flwyddyn, neu yn ddeg mis, brysur iawn. Prin iawn bod ni wedi cael y cyfle i anadlu, weithiau! Cychwynodd gydag ymgyrch y Marina, wnaeth roi cymaint o hwb i ni o’i ennill, ac ers hynny rydym wedi bod yn gweithio er mwyn adeiladu ar hynny. Byddai angen llyfr i sôn am bob dim, ond dyma i chi’r pethau pwysicaf sydd wedi’u gwneud.
Yn fuan wedi’r Marina roedd yr Eisteddfod, ac fel mae Richard wedi dweud, roedd yn llwyddiannus iawn i ni – yn fwy o lawer nag unrhyw beth roeddwn wedi’i ddisgwyl. Wedyn, wrth gwrs, wnes i ddianc am dair wythnos er mwyn ceisio dwyn perswâd ar fy ngwraig newydd bod gen i’r amser i gynnal priodas – ac yn ffodus iawn, mae hi’n dal i gredu hynny hyd heddiw… mwy neu lai!
Des i nôl o’r mis mêl i gyfnod eithaf distaw yn y Wasg, ond cyfnod ffyrnig o frysur serch hynny. Mewn cydweithrediad â’r Pwyllgor Gwaith, aethpwyd ati i godi nifer o wefannau i ddenu aelodaeth newydd, ac e-bost wythnosol i bawb sydd efo diddordeb. YnyFro.com, Saesneg.com, NotEnglish.com, DeadWelsh.com, NotLikeUs.com, a WalesNeedsYou.com roedd y gwefannau, pob un yn targedu math gwahanol o bobl, a bob un wedi bod yn llwyddiannus ar ran denu aelodaeth newydd. Aethon ni i lawer i Gaerdydd i lawnsio NotEnglish.com gyda baner mawr yng nghanol y ddinas ar ddiwrnod Cymru yn erbyn Seland Newydd, a gaethon ni ymateb syfrdanol o dda – pawb yn chwerthin, rhes o bobl isio cael tynnu eu lluniau o flaen ein baner mawr, a llawer o Saeson yn eu mysg. Mae’r elfen tynnu coes sydd yn perthyn i NotEnglish.com yn amlwg yn gweithio’n hynod o dda.
Wedyn, wrth i ni gynnig sticeri am ddim i bobl hyrwyddo’r gwefannau, dyma denu dros 50 o wirfoddolwyr newydd, nifer fawr ohonyn nhw yn ddi-Gymraeg, i helpu gyda’r gwaith. Mae dros 500 bellach yn derbyn ein e-bost wythnosol, pobl newydd yn dal i wirfoddoli i osod sticeri, a’r effaith o hynny i gyd dim ond yn mynd i dyfu dros y flwyddyn nesaf ‘ma.
Rydym wedi llwyddo i ddal ati i gynhyrchu’r cylchlythyr misol ‘Newyddion y Fro’, rhywbeth rydym yn ei weld yn hanfodol bwysig fel bod aelodau’r mudiad yn gwybod yn union beth sydd yn digwydd hyd yn oed pan nad yw’r Wasg yn rhoi sylw teilwng i ni. Yn hynny o beth, gyda llaw, rydym yn paratoi i gyflwyno cwyn swyddogol gerbron y BBC, sydd wedi anwybyddu yn gyfan gwbl cyfres o ddatganiadau gennym, gan gynnws newyddion am yr ymosodiad llosgi yn erbyn ein carafan nos Fawrth diwethaf, lawnsiad ein llyfryn newydd yng Ngheredigion, a’n galwad ar y Cynulliad i osod polisi tai newydd i bobl leol yn unig.
Bydd ‘Newyddion y Fro’ yn datblygu’n bellach dros y misoedd nesaf, gyda chyfrannwyr newydd wedi cytuno i ysgrifennu i’r cylchlythyr yn gyson – gan gynnwys newyddiadurwr sy’n bwy ym Mrwsel bydd yn sylwi ar sefyllfeydd ieithoedd lleifrifol ar y cyfandir, a chyfrannwyr eraill o gwmpas Cymru bydd yn llwyddo i ddangos darlun ehangach o’r hyn sydd yn digwydd a’r ymatebion sy’n cael eu cynnig i’r problemau. Rydym hefyd yn bwriadu cynnwys colofn digrifwch er mwyn rhoi saib bach difyr i bawb.
Yn hynny o beth, hoffwn ofyn i bawb yma heddiw sydd yn ysgrifennu ystyried cynnig 500 o eiriau y mis i ni. O edrych o gwmpas, ac o nabod nifer fawr ohonoch chi, dw i’n gwybod heb os bod deunydd cylchlythyr eithriadol o ddiddorol o’n cwmpas rwan hyn – pe bae modd i ni gydweithio ar hynny a chreu rhywbeth o werth arbennig, byddai modd i ni unwaith eto ystyried gwerthu’r cylchlythyr, rhywbeth rydym wedi bod eisiau ei wneud ers y cychwyn.
Dyna’r gwaith sydd wedi bod yn digwydd y tu ôl i’r llenni – ond nid gwaith mewnol yn unig sydd wedi bod yn digwydd – o bell ffordd!
Rydym wedi parhau i ddatblygu ein perthynas gyda’r Comiswn Cydraddoleb Hiliol, gan drefnu sesiwn ymgynghori cyhoeddus ynglŷn â’u polisi tai arfaethedig ar eu rhan, a chan derbyn gwahoddiad i fod yn rhan o’u prosiect mwyaf erioed yng Nghymru, y prosiect ‘Croeso’, sydd yn pwysleisio’r angen i bobl leol groesawi ac i newydd-ddyfodiaid integreiddio. Rydym yn gobeithio y bydd modd ennill datganiad cyhoeddus gan y Comisiwn yn cefnogi amodau iaith fel rhan o ddatblygiadau tai fforddiadwy, datganiad a fydd pan ddaw o bwys eithriadol. Siaradais ar ran Cymuned fel rhan o banel y Comisiwn mewn cyfarfod cyhoeddus y prosiect yng Nghaernarfon, a rydym yn dechrau gweld ffrwyth y perthynas hwn – pan ddaeth newyddion bod ein carafan ger Griffiths Crossing, gyda’r geiriau diniwed ‘Speak Our Language’ arni, wedi’i llosgi’n ulw, cytunodd Chris Myant, Cyfarwyddwr y Comisiwn, i wneud datganiad i’r Wasg yn condemnio’r ymosodiad. Cawn ddatgan yn hyderus heddiw bod dim modd i neb feiddio taflu’r hen gyhuddiad o hiliaeth aton ni yn gyhoeddus byth eto.
Rydym hefyd wedi gweithio i dynnu sylw at achosion unigol o anghyfiawnder, megis y ffermwr yn Nolgellau sydd wedi cael ei orfodi i beidio â defnyddio tir sydd wedi cael ei ffermio gan ei deulu ers dros hanner ganrif, a’r sefyllfa lle mae aelod Cymuned wedi dioddef trais yn erbyn ei gartref am iddo siarad o blaid y Gymraeg ym Mynydd Llandegai, fel byddwch yn clywed mwy amdani yn nes ymlaen. Rydym hefyd wedi ymateb i Brif Weinidog San Steffan regi’r Cymry, achos sydd wedi cyrraedd tudalen 4 papur newydd y Times o fewn yr wythnos ddiwethaf. Fel mae’r ymosodiad ar ein carafan yn dangos yn glir, nid yw sylwadau sydd yn helpu creu’r math awyrgylch o ragfarn yn erbyn y Cymry yn dderbyniol.
Aeth tri aelod, Llion Jones, Seimon Brooks a fi i Wlad y Basg er mwyn datblygu perthynas cyffrous gyda grwpiau ieithyddol yn y wlad honno ac o Gatalunya a Galicia hefyd, ac er mwyn cychwyn ar y gwaith o ffurfio corff i siarad ar ran grwpiau pwyso ieithyddol ar lefel Ewrop. Rydym wedi cytuno i ddatblygu teithiau cyfnewid caredigion yr ieithoedd rhwng Cymru a Gwlad y Basg, ac os bydd unrhyw un ohonoch chi’n fodlon rhoi lletygarwch am ychydig o ddiwrnodiau i ymwelwyr o Wlad y Basg, yn enwedig rhai sydd wedi dioddef yn enbyd o dan ormes y Wladwriaeth Sbaeneg, gadewch i ni wybod.
Rydym wedi ymgyrchu’n gryf yn erbyn cynllun i ymestyn siop newydd ASDA ym Mhwllheli, ac yn sgil penderfyniad hynod siomedig y cynghorwyr lleol i’w ganiatau, wedi mynd ati i godi Rhwydwaith Busnes Cymuned er mwyn cryfhau busnesau lleol yn erbyn sgil-effeithiau niweidiol fel rydym wedi gweld ym Mhorthmadog. Rydym wedi seilio llawer o’r syniadau ar enghreifftiau o rwydweithiau busnes sydd wedi llwyddo i ail-gipio’r stryd fawr yn Lloegr ac yr Alban, a rydym yn gweithio’n galed i ddenu digon o aelodau i’r Rhwydwaith fod yn llewyrchus. Rydym wedi derbyn yr archebion banc cyntaf, ac yn gobeithio cynnal lawnsiad yn y dyfodol agos.
Rydym wedi rhoi tystiolaeth i Banel Arbenigwyr Cyngor Ewrop yng Nghaerdydd ynglŷn â chyfrifoldebau Llywodraeth Brydain o dan y Siartr ar Ieithoedd Lleiafrifol a Rhanbarthol, a hefyd wedi cyflywno tystiolaeth ysgrifenedig i’r Panel. Dywedodd y Panel bod ein cyflwyniad ni, ar y cyd â’r Mentrau Iaith, wedi bod yn un o’r cyflwyniadau mwyaf ddefnyddiol iddynt ei dderbyn.
Yn ddiweddar iawn, rydym wedi bod yn trafod gyda Heddlu Gogledd Cymru ynglŷn â’r cynllun arfaethedig i uno heddluoedd Cymru, a’r posiblrwydd real y byddai hyn yn tanseilio llawer iawn o’r gwaith ardderchog sydd yn cael ei wneud i normaleddio a hybu defnydd o’r Gymraeg oddi fewn i Heddlu Gogledd Cymru. Byddwn yn ymateb yn ffurfiol i’r broses ymgynghori sydd yn digwydd rwan gan nodi ein hofnau a’n cefnogaeth i waith arbennig Heddlu’r Gogledd.
Rydym wedi cynnal cyfarfod gydag Alun Pugh ac yn teimlo bod perthynas yn cychwyn all fod yn ddiddorol. Mae ambell aelod wedi ysgrifennu atom yn ofni y byddwn yn llyncu pob dim y mae’r Gweinidog yn ei ddweud, felly hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i’ch cadarnhau nad ydym cweit mor ddiniwed â hynny! Ein bwriad ydy tynnu sylw’r Gweinidog at bwysigrwydd ein cymunedau Cymraeg, ac at rai o’n syniadau penodol ar gyfer gwella’r sefyllfa ynddyn nhw. Rydym hefyd yn gweithio i fynnu lle’r Gymraeg fel iaith fewnol yn ddwy gangen newydd y Cynulliad, yn Llandudno ac Aberystwyth. Mae hyn yn edrych fel mwy o dalcen caled, ond byddwn yn dal ati ac yn gwneud ein gorau.
Rydym hefyd wedi cyflwyno dadl gerbron Pwyllgor Rhanbarth y Cynulliad o blaid dilyn enghraifft Parc Cenedlaethol Swydd Efrog trwy ganiatau ceisiadau cynllunio ar gyfer tai newydd i bobl leol yn unig. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn cael ei drafod ar lefel uchel yng Ngwynedd. Rydym yn credu y byddai polisi felly nid yn unig yn boblogaidd iawn yng Ngwynedd, ond trwy Gymru gyfan, ac y byddai’n anodd iawn i’r Blaid Lafur ei wrthwynebu, oherwydd bod San Steffan wedi datgan yn gryf o blaid y penderfyniad yn Swydd Efrog.
Wythnos ddiwethaf, wnaethon ni lawnsio llyfryn diweddaraf y mudiad, sef ‘Cymreigio’r Cyngor – Gwersi Gwynedd a Dyfodol Ceredigion.’ Dw i’n gweld hyn, gyda’r pwynt blaenorol am dai i bobl leol, mewn llawer ffordd y ddau beth pwysicaf i ni wneud eleni. Af i ati i fanylu am hynny yn nes ymlaen, ond mae’n werth nodi rwan bod Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith ac aelod presennol o Bwyllgor Gwaith Plaid Cymru wedi siarad yn y lawnsiad, ac mae’n edrych yn gynyddol debyg y bydd yr ymgyrch i gymreigio’r cyngor yn boblogaidd iawn yng Ngheredigion, gydag arweinydd y Cyngor Dai Lloyd Evans a chyn-aelod seneddol Plaid Cymru Cynog Dafis ill dau wedi cytuno i’n cyfarfod ar y pwnc.
Iawn – dw i’n meddwl mod i wedi cyffwrdd ar bob dim o bwys sydd wedi digwydd. Weithiau, mae’n gymaint o ffair yn y swyddfa nes bod rhywun ddim yn sicr os ydy o wedi cofio popeth! Ond rhaid i mi eich rhybuddio chi – dych chi heb glywed diwedd fy llais i heddiw eto. Wedi adrodd ar yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn, byddaf yn ôl yn nes ymlaen i gyflwyno strategaeth y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y flwyddyn i ddod. Fel y gwelwch yn eich copïau o Drefn y Gynhadledd, bydd cyfle i chi drafod y strategaeth wedi cinio, cyn i ni bleidleisio ar ei gynnwys yn ffurfiol o dan y sesiwn cynnigion. Mae’r Pwyllgor Gwaith wedi gweithio’n galed iawn i ddatblygu strategaeth yr ydw i, yn bersonol, yn teimlo’n gyffrous iawn yn ei gylch, a dw i’n mawr obeithio y byddwch chi’n rhannu’r teimlad hwnnw unwaith i chi glywed y strategaeth arfaethedig – ond chi, heddiw, yn fan hyn, ydy prif awdurdod y mudiad, ac mae’n hanfodol bwysig mai chi sy’n gwneud y penderfyniad terfynol ar y strategaeth y mae’r Pwyllgor Gwaith yn ei gynnig.
[I ddarllen Strategaeth Cymuned 2006/7, cliciwch yma.]