27/03/09
Cynhelir arddangosfa yng nghanol Llangefni am 2.00 o’r gloch y prynhawn dydd Sadwrn yma (28/03/09) gan y mudiad Cymuned er mwyn tynnu sylw at eu hymgyrch diweddaraf CyngorNi.com, sydd yn galw ar gynghorau sir sydd yn gwasanaethu’r Fro Gymraeg i ddilyn enghraifft Cyngor Gwynedd trwy weithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn medru cynnig gwasanaeth wirioneddol ddwyieithog. Gosodir stondin gwybodaeth yng nghanol Llangefni er mwyn cychwyn ar y proses o geisio barn pobl Ynys Môn ar yr ymgyrch.
‘Os ydym i ennill dyfodol llewyrchus i bobl ifan Môn, ac ar gyfer ein hiaith mewn un o’i chadarnleoedd olaf, mae’n hanfodol bwysig bod Cyngor Ynys Môn yn dilyn enghraifft hynod lwyddiannus Gwynedd trwy ddarparu swyddi sydd yn galluogi pobl i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg, gan hefyd creu cyfleuon real i newydd-ddyfodiaid proffesiynol ddysgu’r Gymraeg yn rhugl,’ medd Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned.
Pleidleisiodd Cymuned o blaid yr ymgyrch hon yn eu cynhadledd flynyddol ddiweddaraf, ac mae’r mudiad wedi bod yn gweithio ers hynny i baratoi gwaith ymchwil ac i gasglu cefnogaeth cyn lawnsio’r ymgyrch yn gyhoeddus. Cred Cymuned fod darparu swyddi o safon uchel i bobl leol ydy’r her fwyaf sy’n wynebu gwleidyddion sydd eisiau arafu’r all-lifiad o bobl ifanc Ynys Môn.
‘Mae ein pobl ifanc yn gadael yr ardal gan gymryd eu cymwysterau a’u sgiliau dwyieithog gyda nhw,’ medd Aran Jones, ‘ac fel cyflogwr mwyaf arwyddocaol yr Ynys, mae cyfrifoldeb mawr ar y Cyngor i helpu arafu’r all-lifiad. Bydd gweithio’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg yn dangos i bobl ifanc bod yna le iddyn nhw ar yr Ynys, gan osod gwerth real iawn ar eu sgiliau ieithyddol.’
Mae Cymuned eisoes wedi anfon llythyrau at bob cynghorydd sir yn galw arnynt i gefnogi’r ymgyrch, ac wedi paratoi amserlen o weithredoedd ar gyfer gweddill 2009. Cred y mudiad y dylai pob trigolyn Ynys Môn sydd yn bryderus am weld mwy o bobl ifanc yn gadael yr ardal, a sydd yn poeni am ddyfodol yr iaith Gymraeg, ymweld â gwefan CyngorNi.com er mwyn cael gweld sut i roi help llaw gyda’r ymgyrch.
25/02/09
Cynhalwyd brotest yn targedu Cyngor Ynys Môn gan y mudiad cymunedol ac ieithyddol Cymuned heddiw (dydd Iau, 26ain o Chwefror) fel rhan o’u hymgyrch diweddaraf CyngorNi.com, sydd yn galw ar gynghorau sir sydd yn gwasanaethu’r Fro Gymraeg i ddilyn enghraifft Cyngor Gwynedd trwy weithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn medru cynnig gwasanaeth wirioneddol ddwyieithog. Cafwyd stondin gwybodaeth ei osod y tu allan i swyddfeydd y Cyngor er mwyn dosbarthu taflenni yn esbonio mwy am CyngorNi.com, gyda baner mawr lliwgar er mwyn denu sylw at yr ymgyrch.
‘Os ydym i ennill dyfodol llewyrchus i bobl ifan Môn, ac ar gyfer ein hiaith mewn un o’i chadarnleoedd olaf, mae’n hanfodol bwysig bod Cyngor Ynys Môn yn dilyn enghraifft hynod lwyddiannus Gwynedd trwy ddarparu swyddi sydd yn galluogi pobl i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg, gan hefyd creu cyfleuon real i newydd-ddyfodiaid proffesiynol ddysgu’r Gymraeg yn rhugl,’ medd Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned.
Pleidleisiodd Cymuned o blaid yr ymgyrch hon yn eu cynhadledd flynyddol ddiweddaraf, ac mae’r mudiad wedi bod yn gweithio ers hynny i baratoi gwaith ymchwil ac i gasglu cefnogaeth cyn lawnsio’r ymgyrch yn gyhoeddus. Cred Cymuned fod darparu swyddi o safon uchel i bobl leol ydy’r her fwyaf sy’n wynebu gwleidyddion sydd eisiau arafu’r all-lifiad o bobl ifanc Ynys Môn.
‘Mae ein pobl ifanc yn gadael yr ardal gan gymryd eu cymwysterau a’u sgiliau dwyieithog gyda nhw,’ medd Aran Jones, ‘ac fel cyflogwr mwyaf arwyddocaol yr Ynys, mae cyfrifoldeb mawr ar y Cyngor i helpu arafu’r all-lifiad. Bydd gweithio’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg yn dangos i bobl ifanc bod yna le iddyn nhw ar yr Ynys, gan osod gwerth real iawn ar eu sgiliau ieithyddol.’
Mae Cymuned eisoes wedi anfon llythyrau at bob cynghorydd sir yn galw arnynt i gefnogi’r ymgyrch, ac wedi paratoi amserlen o weithredoedd ar gyfer gweddill 2009. Cred y mudiad y dylai pob trigolyn Ynys Môn sydd yn bryderus am weld mwy o bobl ifanc yn gadael yr ardal, a sydd yn poeni am ddyfodol yr iaith Gymraeg, ymweld â gwefan CyngorNi.com er mwyn cael gweld sut i roi help llaw gyda’r ymgyrch.
27/03/08
I Sylw: Y Cadeirydd, Richard Evans ac aelodau y Pwyllgor Gwaith.
Yn ddiweddar bu i mi gynnal cyfweliad gyda`r BBC ble mynegais fy mhryder ynglyn a`r ffordd yr oeddwn i yn gweld cyfeiriad gwleidyddol y Mudiad Cymuned yn mynd.
Ers y cyfweliad hwnnw mae cadeirydd y mudiad Richard Evans wedi cysylltu a mi ac yr ydym wedi cynnal trafodaeth ar fy mhryderon ac ar ymgyrchoedd y mudiad yn ystod y blynyddoedd diweddar.
Yn dilyn y trafoaethau hynny yr wyf o`r farn mai camgymeriad oedd i mi gynnal y cyfweliad hwnnw heb yn gyntaf siarad efo Richard fel Cadeirydd. Mae Richard a nifer fach o wirfoddolwyr eraill wedi helpu cynnal y mudiad ac ysbryd y mudiad dros y blynyddoedd ers i fy nghyfnod i yn gwasanaethu ar y pwyllgor gwaith ddod i ben ac wedi gwneud hynny gyda balchder ac ymroddiad.
Yr wyf yn cydnabod eu hymdrechion ac yn sylweddoli fy mod wedi cymeryd cam gwag wrth fod yn feirniadol or mudiad yn gyhoeddus.
Yr wyf yn ymddiheuro wrth y cadeirydd ac aelodau or pwyllgor gwaith am unrhyw gam a wnes ac yn teimlo mai cefnogaeth mae`r mudiad ei angen ac nid beirniadaeth. Gan hynny, byddaf yn barod i ymaelodi unwaith eto gyda`r mudiad pe byddai`r pwyllgor gwaith ynteimlo y byddai hynny o les.
Yn ddiffuant,
Simon Glyn
19/02/08
Mae’r mudiad cymunedol Cymuned wedi condemnïo’n hallt y rhai cyfrifol am anfon bygythiad di-enw at Brif Weithredwr y mudiad yn ei rhybuddio i ‘make your peace with your God while you can.’ Mae’r llythyr wedi’i drosglwyddo i Heddlu Gogledd Cymru ac yn cael ei archwilio gan yr adran fforensics yn Llanelwy.
‘Mae’r ymosodiad cachgiaidd yma yn dangos yn glir sut fath o bobl sydd yn gwrthwynebu’r gwaith positif mae Cymuned yn ceisio ei wneud,’ medd llefarydd ar ran Cymuned. ‘Yn amlwg, nid oes modd i ni ymateb yn uniongyrchol i lythyr di-enw, ond hoffem ofyn wrth y cachgi hwn pa elfen o waith Cymuned mae eisiau tanseilio.’
‘Ydy hyn yn ymosodiad yn erbyn ein gwaith lobïo wrth alw am dai i bobl leol, a’r gwaith cysylltiedig yn pwysleisio natur hanfodol cymunedau ar draws Cymru? Neu ydy hyn yn ymosodiad yn erbyn Rhwydwaith Busnes Pwllheli rydym wrthi’n codi mewn cydweithrediad â busnesau lleol ym Mhwllheli, er mwyn helpu marchnata busnesau lleol yn fwy llwyddiannus? Neu ydy hyn yn ymosodiad yn erbyn ein Prif Weithredwr a’i deulu am iddynt roi cymaint o’u hamser a’u brwydfrydedd i fewn i’r gwaith disgrifwyd uchod?’
Cred Cymuned y bydd angen trafod strwythur y mudiad er mwyn sicrhau nad oes modd i bobl afiach fel hyn dargedu aelodau unigol y mudiad yn yr un modd yn y dyfodol. Serch hynny, mae’r mudiad yn benderfynol na fydd yn caniatau i fygythiadau fel hyn dorri ar draws gwaith caled a diffuant aelodau ar draws Cymru – fel sydd wedi bod yn wir erioed, ni fydd y mudiad yn plygu yn wyneb casineb. Bydd Cymuned yn parhau i hyrwyddo Pwllheli.org ar ran busnesau lleol ym Mhwllheli, yn parhau i hyrwyddo Catrefi.com ar ran pobl leol sydd yn methu fforddio cartrefi, ac yn parhau i hyrwyddo Cymuned.net ar gyfer pobl sydd yn awyddus i wneud cyfraniad positif i’w cymunedau.
Mae’r mudiad wedi diolch i Heddlu Gogledd Cymru am eu proffesiynoldeb wrth ymateb i’r sefyllfa, ac am y cymorth sydd wedi’i gynnig trwy’r sustem Cefnogaeth i Ddioddefwyr.
08/01/08
Mae’r mudiad cymunedol Cymuned wedi beirniadu Cynnal Cymru, sydd yn cael eu hariannu gan Lywodraeth y Cynulliad i hyrwyddo datblygu cynaladwy yng Nghymru, am wrthod gwneud sylw ar y datblygiad arfaethedig amhoblogaidd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Rhostyllen ger Wrecsam. Mae Dr Ruth Williams ar fwrdd Cynnal Cymru ac hefyd yn Rheolwr Materion Cymreig ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – ac mae hithau hefyd wedi gwrthod siarad gyda Chymuned.
‘Rydym yn credu bod hyn yn adlewyrchu’n wael iawn ar Cynnal Cymru,’ medd Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned, ‘gan iddi edrych yn glir bod cysylltiad rhwng gwaith aelodau’r bwrdd a’r hyn mae’r corff yn fodlon siarad amdano fo. Mae’n ddigon gwael ynddo’i hun bod Dr Ruth Williams yn gwrthod siarad gyda Chymuned, ond i weld Cynnal Cymru hefyd yn gwrthod gwneud sylw ar ddatblygiad arfaethedig heb fod wedi seilio mewn unrhyw ffordd ar angen lleol yn gywilyddus.’
Mae Cymuned yn gweithio gyda Phwyllgor Trigolion Rhostyllen (www.Rhostyllen.com) i hyrwyddo ymwybyddiaeth am anfodlonrwydd pobl leol gyda’r cynllun, bydd yn golygu codi 223 o dai heb fod ar gyfer angen lleol, gyda chanran is o lawer ar gyfer tai fforddiadwy na’r hyn mae’r Cynulliad yn awyddus i’w weld.
‘Rydym wedi gweithio’n galed i gynnal trafodaeth diffuant gyda’r Ymddiriedolaeth, ond maent i’w gweld heb ddim ots o gwbl am ddymuniadau pobl leol,’ medd Carrie Harper, cynrychiolydd Cymuned yn y Gogledd-Ddwyrain. ‘Maen nhw eisiau gwneud cymaint o bres â bod modd, i fanteisio ar yr argyfwng tai, ac mae’r ffaith na fydd eu Rheolwr Materion Cymreig yn siarad gyda ni yn dweud cyfrolau. Pan mae’n rhaid i’r Ymddiriedolaeth ddewis rhwng elw neu bobl leol, maen nhw’n dewis elw.’
11/12/07
Mae Cymuned wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth y Cynulliad i geisio rhagor o rym i wahardd pobl rhag gallu prynu’r tai o dan y cynllun Hawl i Brynu, gyda’r bwriad o sicrhau bod pobl ar incwm isel yn dal i allu canfod tÅ· i’w rentu yn yr ardaloedd lle maen nhw eisiau byw.
Cred Cymuned fod y camau mae’r llywodraeth yn eu cymryd yn dangos awydd i symud ymlaen tuag at greu newid sylweddol i’r sefyllfa bresennol, ond fod yna angen creu ail farchnad leol gynaladwy.
‘Rydym yn cefnogi’r bwriad yma gan y llywodraeth,’ medd Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned, ‘gan ei weld yn arwydd o awydd ein llywodraeth i wynebu un o broblemau mawr Cymru. Ond credwn fod angen gwneud edrych yn bellach ar sut i greu ail farchnad leol gynaladwy bydd yn effeithio’n ehangach ar y farchnad gyfan.’
Cred Cymuned fod angen trafodaeth cynhwysfawr ar sefydlu egwyddor marchnad dai leol gynaladwy, fel sydd i’w weld ar www.Cartrefi.com, yn hytrach na chanolbwyntio ar dai fforddiadwy mewn ffordd sydd yn methu datrys yr argyfwng tai yn ei gyfanrwydd.
07/12/07
Mae’r mudiad Cymuned wedi diolch i arweinwyr Plaid Cymru yng Ngwynedd am y cyfle i drafod yr adroddiad ad-drefnu ysgolion mewn cyfarfod nos Lun diwethaf (03/12/07). Mae Cymuned yn cydymdeimlo’n fawr iawn gyda’r gwahanol grwpiau sydd yn pryderu am ddyfodol ysgolion bychain, ond hefyd yn credu bod Plaid Cymru yn dangos awydd real i wrando ar y pryderon ac i ymateb yn bositif iddyn nhw – rhywbeth nad oes yr un cyngor sir arall yng Nghymru wedi’i wneud.
‘Rydym yn ddiolchgar iawn i Dafydd Iwan, Dyfed Edwards a Richard Parry Hughes am y cyfle i drafod y sefyllfa gyda nhw a chydag uwch swyddogion y Cyngor,’ medd Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned, ‘a rydym yn credu eu bod wedi gweithio’n galed ac yn ddiffuant i gael hyd o’r ffordd orau ymlaen yn wyneb gorfodaeth i newid sydd yn dod oddi wrth y Cynulliad. Maent yn cydnabod bod modd i wella ar yr adroddiad presennol, a rydym yn edrych ymlaen at helpu gyda’r broses honno.’
Cred Cymuned nad yw’r Cynulliad wedi gwneud digon i sicrhau adnoddau ariannol ar gyfer y sector addysg, a bod hyn yn cyfyngu yn ddifrifol ar yr opsiynau sydd ar gael i gynghorau sir. Cred Cymuned hefyd fod angen i gymunedau unigol godi syniadau newydd a chreadigol am ffyrdd y gallent helpu cadw rhai ysgolion yn agored.
‘Roedd modd i gymunedau tlawd cefn gwlad Cymru godi cannoedd ar gannoedd o gapeli heb unrhyw fath o arian oddi wrth y Llywodraeth canrif a mwy yn ôl,’ medd Aran Jones. ‘Mae’n amser i ni edrych am ffyrdd radical a newydd i gynnal ysgolion a chymunedau sydd ddim yn dibynnu cymaint ar arian cyhoeddus – fel darparu tai i athrawon, er enghraifft. Mae’r sefyllfa presennol yn anghynaladwy, ac mae cael hyd o well dyfodol yn her uniongyrchol i ni gyd.’
Dywedodd y Cyng. Dafydd Iwan: ‘Cafwyd cyfarfod cadarnhaol iawn gyda chynrychiolwyr Cymuned, ac yr ydym yn falch iawn eu bod yn cydweld a’r ffordd y mae’r Blaid ar Gyngor Gwynedd yn arwain ar y mater anodd hwn. Bydd penderfyniad y Cyngor llawn yr wythnos nesa gobeithio yn gychwyn ar gyfnod newydd o ymgynghori ar yr adroddiad, ac y mae’n bwysig ein bod i gyd yn barod i wrando ac i addasu ein safbwynt. Ni allwn aros fel yr ydym, ond rhaid sicrhau dyfodol gymaint o ysgolion ag sydd bosib yn eu cymunedau, ac edrychwn ymlaen at gydweithio gyda Cymuned a phawb arall i gyrraedd y nod o sicrhau cyfundrefn addysg o’r radd flaenaf i blant Gwynedd.’
22/11/07
Mae’r mudiad Cymuned wedi galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i ymateb i sylwadau gan Syr William Proby, cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sydd yn credu y dylai’r Ymddiriedolaeth fod yn amddiffyn tir agored yn erbyn datblygwyr. Ar yr un pryd, mae’r Ymddiriedolaeth yng Nghymru yn gwthio ymlaen gyda chynllun amhoblogaidd i godi 223 o dai ar dir gwyrdd ger Rhostyllen, yn Wrecsam, lle mae ymgyrch lleol wedi’i ffurfio ar www.Rhostyllen.com i gwffio yn erbyn y datblygiad.
‘Mae’n edrych fel bod yr Ymddiriedolaeth am rwystro datblygu yn Lloegr tra’n elw o’r argyfwng tai yng Nghymru,’ medd Carrie Harper, cynrychiolydd Cymuned yn Rhostyllen, ‘a rydym yn credu bod yn hyn yn anfoesol ac yn annheg i Gymru. Rydym yn gofyn i’r Cynulliad alw ar yr Ymddiriedolaeth am ddatganiad y byddant yn amddiffyn llefydd gwyrdd Cymru yr un mor angerddol ag y maent yn Lloegr.’
Mae’r Ymddiriedolaeth am gael caniatad i godi’r tai er mwyn gwerthu’r tir i ddatblygwr preifat, gan godi arian at gronfa ariannol ar gyfer y stad Erddig. Nid oedd cronfa ariannol cychwynnol, maent yn hawlio – er iddynt werthu 63 o erwau o dir Erddig am bron yn £1 miliwn yn y 70au. Nid ydynt wedi datgelu i le diflannodd y gronfa sylweddol honno.
Dwedodd Tara Green, ysgrifenyddes Pwyllgor Trigolion Rhostyllen, ‘Mae Rhostyllen yn falch i fod yn rhan o Gymru, a dydy o ddim yn deg i ni orfod derbyn datblygiadau mawr fel hyn, nad oes angen lleol ar eu cyfer, tra bod llefydd tebyg yn Lloegr yn cael eu hamddiffyn. Dydan ni ddim eisiau gweld ein pentref ni yn cael ei droi’n fan-chwarae ar gyfer pobl gefnog o bell i ffwrdd.’
08/11/07
Bydd aelodau Cymuned a’r Pwyllgor Trigolion Rhostyllen yn croesawu ‘Syr William Proby’ i wrthdystiad yng nghanol tref Wrecsam dydd Sadwrn nesaf (10/11/07) am 2.00 o’r gloch y prynhawn yn erbyn cynlluniau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i godi 223 o dai ar dir Erddig ger Rhostyllen (gweler www.Rhostyllen.com). Wythynos ddiwethaf, dwedodd Syr William, cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ei fod am weld yr Ymddiriedolaeth yn prynu tir er mwyn rhywstro datblygu ar lefydd gwyrdd. Dydd Sadwrn, bydd manicin yn cynrychioli Syr William er mwyn dangos bod ei safbwynt yn gryf yn erbyn y datblygiad arfaethedig yn Rhostyllen.
‘Credwn fod Syr William yn hollol gywir i rybuddio yn erbyn gor-ddatblygu,’ medd Carrie Harper, cynrychiolydd Cymuned yn Rhostyllen, ‘ac er nad yw wedi ymateb i’n cais am gyfarfod eto, rydym yn hyderus y byddai’n gefnogol iawn i’r hyn rydym yn ceisio ei amddiffyn yn Rhostyllen. Hei lwc y bydd y Syr William go-iawn yn ymuno â ni tro nesaf!’
Mae’r Ymddiriedolaeth am gael caniatad i godi’r tai er mwyn gwerthu’r tir i ddatblygwr preifat, gan godi arian at gronfa ariannol ar gyfer y stad Erddig. Nid oedd cronfa ariannol cychwynnol, maent yn hawlio – er iddynt werthu 63 o erwau o dir Erddig am bron yn £1 miliwn yn y 70au. Nid ydynt wedi datgelu i le diflannodd y gronfa sylweddol honno.
Dwedodd Tara Green, ysgrifenyddes Pwyllgor Trigolion Rhostyllen, ‘£900 miliwn sydd gen yr Ymddiriedolaeth yn y banc – pam na fedran nhw rhoi mymryn bach o hynny er mwyn creu cronfa newydd i Erddig, yn hytrach na gorfodi ein cymuned fach ni i dalu’r pris oherwydd iddyn nhw wastraffu’r gronfa wreiddiol?’
Cred ymgyrchwyr ‘Dim ar Erddig’ fod rhaid i’r Ymddiriedolaeth ddewis rhwng wneud elw mawr yn Rhostyllen neu siarad yn gyhoeddus yn erbyn gor-ddatblygu. Os byddant yn ceisio gwneud y ddau, ni fydd neb yn eu cymryd o ddifrif.