Gwahoddiad i Syr William Proby ymgyrchu yn erbyn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae Cymuned wedi gwahodd Syr William Proby, cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i ymuno yn yr ymgyrch yn erbyn bwriad yr Ymddiriedolaeth i godi 223 o dai ar dir gwyrdd yn Rhostyllen ger Wrecsam (gweler Rhostyllen.com). Dwedodd Syr William dydd Sadwrn diwethaf bod yr Ymddiriedolaeth yn awyddus i brynu mwy o dir gwyrdd er mwyn ei amddiffyn rhag ddatblygwyr, ond yma yng Nghymru mae’r Ymddiriedolaeth wedi anwybyddu pobl leol yn erfyn arni i beidio ag adeiladu ar un o’r darnau olaf gofod gwyrdd yn Rhostyllen.
‘Credwn fod Syr William yn ddyn anrhydeddus sydd yn iawn i rybuddio yn erbyn peryglon gor-ddatblygu,’ medd Carrie Harper, cynrychiolydd Cymuned yn Rhostyllen, ‘a chredwn y caiff ei siomi’n arw pan glywith am yr hyn mae’r Ymddiriedolaeth yn ei wneud yn Rhostyllen. Rydym yn cynnig gwahoddiad iddo ymuno â’n hymgyrch yn erbyn enghraifft warthus o ddinistrio tir gwyrdd, a byddem yn falch iawn i’w gyfarfod er mwyn tynnu ei sylw at rywbeth sydd yn edrych fel enghraifft annerbyniol o roi elw o flaen pobl.’
Mae cynrychiolwyr yr Ymddiriedolaeth yng Nghymru wedi hawlio bod angen y datblygiad yn Rhostyllen er mwyn gwneud i fyny am ddiffyg cronfa ariannol ar gyfer stad Erddig – ond cafodd 63 o erwau eu gwerthu yn y 70au er mwyn creu cronfa o bron i filiwn o bunnoedd, a nid yw’n glir i le mae’r arian yna wedi mynd.
Dwedodd Tara Green, ysgrifenyddes Pwyllgor Trigolion Rhostyllen, ‘Mae gen yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol cronfa o bron i £900 miliwn, ond maent yn disgwyl i’n cymuned fach ni dderbyn datblygiad mawr iawn oherwydd bod angen mwy o bres arnyn nhw. Ond wedyn maent yn hawlio bod modd iddynt brynu mwy o dir gwyrdd er mwyn ei amddiffyn rhag ddatblygwyr!’
Cred ymgyrchwyr ‘Dim ar Erddig’ fod rhaid i’r Ymddiriedolaeth ddewis rhwng wneud elw mawr yn Rhostyllen neu siarad yn gyhoeddus yn erbyn gor-ddatblygu. Os byddant yn ceisio gwneud y ddau, ni fydd neb yn eu cymryd o ddifrif.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Cymuned ar 01758-612712.
Nodiadau i olygwyr:
Cewch weld datganiadau Syr William Proby ar: http://news.bbc.co.uk/1/hi/uk/7076256.stm
Heriodd y cylchgrawn ‘Private Eye’ diflaniad y gronfa £1 miliwn yn rhifyn 1193 (14eg i’r 27ain o Fedi, 2007)



