CWMNIAU RHYNGWLADOL YN WYNEBU PROTESTIADAU IAITH AR DRAWS EWROP
Yn sgil cynhadledd lwyddiannus yng Ngwlad y Basg dros y penwythnos (24/11/05 – 26/11/05) mae rhwydwaith rhyngwladol newydd o grwpiau sydd yn gweithredu dros ieithoedd lleiafrifol wedi’i ffurfio, ac mae’r mudiad gwrth-wladychu Cymuned yn rhybuddio cwmnïau rhyngwladol sydd yn gwneud niwed i’r Gymraeg y byddant yn medru wynebu protestiadau rhyngwladol.
‘Mae’r rhwydwaith newydd wedi cychwyn ar seiliau cadarn iawn,’ medd Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned, ‘ac mae un o’r pynciau sydd wedi’i drafod eisoes ydy trefnu protestiadau rhyngwladol yn erbyn cwmnïau sydd yn gwneud niwed i iaith unrhyw un o aelodau’r rhwydwaith. Er enghraifft, mae IKEA gyda pholisi iaith annerbyniol o wael yng Ngwlad y Basg, sydd rwan yn creu’r posiblrwydd o brotestiadau yn eu herbyn yng Ngwlad y Basg, yn Galicia, yng Nghatalunya, yn Llydaw ac yng Nghymru. Yn yr un modd, bydd rhaid i gwmnïau megis Asda, sydd eisiau agor cangen newydd ym Mhwllheli, weithio’n galed i sicrhau effaith positif ar y diwylliant a’r iaith leol, neu fyddant yn derbyn sylw anffafriol ar draws Ewrop.’
Bydd y rhwydwaith newydd yn cymryd rhan yn y Fforwm Cymdeithasol Ewrop nesaf yn Athens ym mis Ebrill 2006, pan bydd cyfansoddiad yn cael ei lawnsio.
‘Nid oes cynrychiolaeth ar lefel Ewrop o grwpiau sydd yn ymgyrchu ar ran ieithoedd lleiafrifol,’ medd Seimon Brooks, cynrychiolydd Cymuned ar banel datblygu cyfansoddiad y rhwydwaith. ‘Yn hytrach, rydym yn gweld cyrff sefydliadol, llwyodraethol yn canmol eu gwaith eu hunain ac yn hawlio eu bod yn cynrychioli barn pawb. Bydd y rhwydwaith newydd yn rhoi stop ar hynny.’
Am fwy o fanylion, cysylltwch â swyddfa Cymuned ar 01758-612712.



