Gwefan newydd
Mae gwefan aelodaeth newydd erbyn hyn yn fyw – ni fyddwn yn ei ‘lawnsio’ yn swyddogol tan y flwyddyn nesaf, pan bydd gennon ni’r amser i drefnu rhywbeth difyr dros y ffin – ond yn y cyfamser, byddai’n ddiddorol clywed unrhyw ymateb iddi – www.NotLikeUs.com.
Bydd gwefan arall yn fyw cyn bo hir, i dargedu cefnogaeth tramor, yn benodol yn America. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld pa mor bell bydd modd i ni wthio’r ddwy wefan – mae gennon ni aelodau di-Gymraeg yn Lloegr ac America eisoes sydd yn talu £10 y mis i’r mudiad, a rwan byddwn yn cychwyn ar y gwaith o ddarganfod ai eithriad ydy hynny, neu os ‘na farchnad i ni ei thargedu?
Mae’r holl gwestiwn o ddefnyddio’r We yn un diddorol. Mae rhai pobl yn sôn am y Cymry traddodiadol, hyn, sydd ddim gyda chysylltiad i’r We, ac yn poeni bod ni’n eu gadael i lawr trwy ganolbwyntio cymaint ar dactegau hysbysebu arlein.
Pe bai modd effeithiol o gyrraedd y Cymry heb gysylltiad i’r We, efallai byddwn i yn bersonol yn fwy gefnogol i’r syniad yna – ond gan bod hynny’n digwydd bod yr union peth bod ni wedi methu ei gwneud (ers y dyddiau ‘diwygiadol’ yn 2001), dw i’n credu bod rhaid i ni fod yn defnyddio’r gallu newydd bod y We yn cynnig, i ni ymledu ein neges i fwy o bobl nag erioed o’r blaen, a thrwy hynny i ni ddenu lefelau newydd o aelodaeth.
O lwyddo yn hynny o beth, byddai gennon ni’r arian i fedru ychwanegu sianelu traddodiadol at ein gwaith hyrwyddo – hysbysebion mewn papurau bro ayyb. Ond mae costau cyfathrebu arlein yn creu posibiliadau cwbl newydd i ni – mae modd i ni (fel rydym ni, rwan) gylchredeg e-bost wythnosol am ddim at gymaint o bobl â sydd isio ei dderbyn, lle nid oes modd i ni fforddio anfon cylchlythyr trwy’r post at unrhyw un sydd ddim yn gwneud cyfraniad misol.
Mae pethau fel hyn yn hanfodol pan mae’n dod at ehangu cylch dylanwad y mudiad, ac mae’n ddiddorol nodi ni fydd yn hir iawn (os parith pethau fel y maent ar y funud) cyn bydd nifer derbynwyr yr e-bost wythnosol Saesneg wedi cyrraedd hanner nifer derbynwyr yr un Cymraeg. Gan bod ni’n gweld patrwm lle mae canran o’r pobl sydd yn derbyn y cylchlythyr yn ymaelodi, mae hyn yn awgrymu bod ni’n symud i’r cyfeiriad cywir ar ran denu aelodau ymysg y Cymry di-Gymraeg, ac mae’r potensial i hynny wneud gwahaniaeth yn anferth.
Dyna digon o drafodaeth niwlog braidd am heddiw! Pe hoffech newyddion y mudiad gyda llai o hel feddyliau, tanysgrifiwch i’r cylchebost at www.ynyfro.com/rhestr – mae’r blog ar gyfer gwyntyllu syniadaeth mewn ffordd llai ffurfiol, ond mae’r cylchebost yn cadw at y ffeithiau!








