Pwnc yr wythnos hon ydy Asda (cofiwch, os dach chi isio newyddion yn hytrach na thrafodaeth ehangach, ewch at www.ynyfro.com/rhestr a thanysgrifio i’r e-bost wythnosol).
Pe bai rhywun wedi gofyn i mi degawd yn ôl beth oeddwn i’n meddwl am siopau cadwyn, byddai fy ymateb wedi bod yn gymysg braidd. Pryd hynny, roeddwn i’n byw yn Dubai, lle mae rhai o’r siopau cadwyn mwyaf yn y byd, am wn i. Roedd angen sat-nav i fynd rownd Ikea, a roedd y dewis o Gryno Ddisgiau i’w gael yn y malls anferth yn anhygoel. Fel canlyniad, mae dal gen i rai CDdau cwbl rhyfedd, wedi’u prynu oherwydd… wel, dwn i’m, i fod yn onest.
Mae hynny’n rhan ohoni, wrth gwrs. Mae cymaint o waith ymchwil yn mynd i mewn i’r anghenfilod yma, mae’n debyg bod nhw’n gwybod mwy na neb am sut i wneud i bobl deimlo’n gyfforddus, cynnes, braf, hapus – barod i wario. Digon teg, byddwn i wedi dweud degawd yn ôl, mwy na thebyg – neb yn fy ngorfodi i fynd i’r llefydd ‘ma, myfi oedd yn mwynhau eu natur arall-fydol rhywsut. Fedr dim byd byth mynd o’i le tra bod eich cerdyn credyd yn gweithio, a heb dreth neu gostau llety, doedd dim disgwyl i hynny fod yn broblem.
Ond wrth i bobl wahanol ofyn beth ydy safbwynt Cymuned ar gais Asda (aelodau, pobl eraill, newyddiadurwyr) a ninnau’n trafod hynny ar y Pwyllgor Gwaith, a chyda aelodau blaenllaw y tu allan i’r Pwyllgor, mae fy safbwynt wedi newid yn fawr iawn.
O’r blaen, roeddwn yn gweld siopau cadwyn fel rhywbeth oedd yn effeithio arnaf i fel unigolyn. Gweld nhw braidd yn ddi-enaid weithiau, ond yn eu mwynhau adegau eraill. Ond meddylfryd hunanol ydy hynny, wrth gwrs – wnes i erioed ystyried effaith y siopau cadwyn ar y gymuned leol. Efallai bod modd maddau hynny yng nghyd-destun Dubai, sydd yn ddinas wrthi’n tyfu allan o’r anialwch – prin iawn ydy’r economiau cynhenid, sut bynnag byddech yn eu mesur.
Ond yng Nghymru, mae’n dra wahanol, rhywsut. Mae darllen adroddiadau gan y National Retail Forum, sydd yn cyfaddef bod siopau cadwyn yn arwain at golli 276 o swyddi yn gyfartal (felly bod unrhyw siop cadwyn sy’n addo creu llai o swyddi na hynny yn eithaf sicr o arwain at golled ‘net’ o swyddi), a bod siopau cadwyn newydd yn lladd pob siop pentref o fewn 7 milltir… wel, mae’n codi gwallt fy ngwar.
Sut oedd unrhyw un erioed yn meddwl bod siopau sy’n arbenigo mewn arbedion maint, sydd yn sugno pres allan o’r ardal, yn syniad da? Yn syniad da i’r siopau mawrion, wrth gwrs – mae elw blynyddol Tesco yn fwy nag ambell i wlad bychan.
Ond i’r cymunedau gyda’r pres mae’r siopau ei isio? Lladdfa, dim llai.
Gobeithio y bydd Pwyllgor Cynllunio Dwyfor yn gwrthod cais Asda am siop mwy, a bydd Asda wedyn yn strancio ac yn peidio dod o gwbl. Gobeithio bydd pawb, mewn cymunedau trwy Gymru gyfan, yn dechrau sylweddoli cymaint o gamgymeriad ydy gadael i’r siopau mawrion ddifetha’r economi lleol er mwyn arbed mymryn o amser personol.
Gobeithio bydd pawb yn cofio beth mae siopau mawrion yn gwneud pan mae siop penodol yn llai llwyddiannus na’r hyn maen nhw wedi’i obeithio – cau i lawr, symud adnoddau i rywle arall.
Sut byddai hi ar Bwllheli pe bai Asda yn lladd ein siopau lleol i gyd, yn gorfodi ein ffermwyr i gytuno i gytundebau cwbl unochrog, ac wedyn yn diflannu?