As-da, As-drwg
Ddrwg gen i am golli wythnos ddiwethaf – cyfnod brysur, wyddoch chi! Roedd rhaid i ni setlo am fod yn y tri olaf ar gyfer Gwobrau Arwain Cymru, ond cawsom y cyfle i gyfarfod rhai pobl diddorol iawn, a rydym yn gobeithio y bydd y profiad yn ddefnyddiol ac yn helpu tanseilio dadleuon unrhyw rhai a hoffai cau’r mudiad allan o drafodaeth gyda’r lol ‘eithafol’ rydym wedi hen syrffedi arni!
Addewais sôn am ein canghennau lleol, a beth ydy’r ffordd ymlaen iddyn nhw – byddaf yn rhoi cais ar hynny rwan. Byddai’n braf clywed barn pobl eraill, aelodau neu beidio, ar hyn.
Mae’r rhan helaeth o ganghennau wedi bod yn ddistaw iawn ers tro, unwaith bod y cyfnod ‘diwygiad’ wedi mynd heibio, a dim ond rhai gydag arweiniad lleol cryf sydd wedi parhau i fod yn effeithiol. Mae hyn yn bechod, oherwydd bod canghennau lleol yn medru gwneud llawer iawn (fel mae Cangen Sir Ddinbych yn gwneud ar y funud) ar ran ymgyrchoedd lleol, ac yn enwedig ar ran lobïo ar lefel y Cyngor Sir). Medrwn siarad am oriau am yr union rhesymau y tu ôl i hyn, ond y peth pwysig ydy sut i symud yn ôl at sefyllfa lle mae canghennau yn lobïo’n lleol tra fod y mudiad yn gweithredu’n genedlaethol.
Rwy’n credu bod angen ymgyrchoedd lleol ennilladwy i ail-ysbrydoli canghennau. Mae hyn yn rhan mawr o’n strategaeth ar gyfer eleni, lle rydym yn lobïo’n ganolog ar lefel y Cynulliad, ond yn edrych at redeg ymgyrchoedd penodol ar lefel y cynghorau sir, gan gychwyn gyda lawnsiad ein llyfryn newydd, ‘Cymreigio’r Cyngor: Gwersi Gwynedd a Dyfodol Ceredigion’ yng Ngheredigion.
Dw i ddim yn credu y byddai modd atgyfodi unrhyw gangen heblaw bod rhywbeth amlwg ar gael iddynt ei wneud. Mae cyfarfod yn fisol heb deimlo bod unrhyw beth yn symud yn medru bod yn brofiad pur lesteiriol, a phrin iawn bydd pobl yn rhoi cais arall arni heb weld bod pethe’n wahanol.
Yn ffodus, dw i’n credu bod pethe yn wahanol erbyn hyn. Mae rôl amlwg i unrhyw gangen lleol – dwy rôl, i fod yn fanwl. Mae modd iddyn nhw ffitio i mewn gyda’r strategaeth cenedlaethol trwy ganolbwyntio ar yr ymgyrch penodol yn eu sir, ac mae modd iddyn nhw ganolbwyntio ar hyrwyddo ein gwefannau aelodaeth. Mae’r ddau beth yma yn bethe sydd yn gwneud gwahaniaeth tymor byr, ac felly yn haws eu cynnal, gobeithio.
Hefyd, mae modd i unrhyw gangen benderfynu dilyn enghraifft canghennau eraill sydd wedi dewis canolbwyntio ar weithredoedd cymunedol – yn benodol, erbyn hyn, mae gennon ni batrymau da iawn ar gyfer creu ymddiriedolaethau tir cymuned0l, a rhwydweithiau busnes cymunedol.
Pe bai unrhyw gangen yn penderfynu mynd ar ôl y math yma o waith, dw i’n hyderus y byddant yn cael cryn lwyddiant. Ein gwaith ni yn ganolog, felly, ydy ysgogi pobl i ymrwymo’r amser i roi cais ar rywbeth ymarferol fel disgrifiwyd uchod – sydd ddim yn hawdd mewn adeg heb dinc o ddiwygiad!
Ond mi wnawn ni ein gorau…



