[Dyma strategaeth cyflwynwyd i'r Gynhadledd gan Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned, ar ran y Pwyllgor Gwaith. I weld y cyflwyniad PowerPoint aeth gyda'r cyflwyniad, cliciwch yma (bydd angen MS PowerPoint - neu raglen cyffelyb - arnoch chi i'w darllen).]
Rydych wedi clywed eisoes am yr hyn sydd wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf, ond rwan dw i am roi gogwydd ychydig bach yn wahanol arno fo i gyd, cyn gyflwyno’r strategaeth rydym yn ei gynnig ar gyfer y flwyddyn i ddod. Rydych wedi clywed am, ac wedi gweld, digwyddiadau’r flwyddyn fel tasen nhw’n rhan o restr – ond mae’n bwysig bod chi hefyd yn eu gweld nhw fel rhan o batrwm. Hynny yw, nid yn unig beth rydym wedi bod yn ei wneud, ond pam, ac at ba ddiben. Er bod straeon yn y Wasg weithiau yn gwneud iddi edrych fel ein bod ni’n ymateb fesul wythnos i’r hyn sy’n digwydd, nid dyna ydy’r gwir – rydym wedi bod wrthi’n ceisio adeiladu rhywbeth, fel byddaf yn gwneud fy ngorau i ddangos i chi rwan.
Rhaid i mi nodi fy mod i’n cynnwys y gwaith gweledol ar y sgrîn i raddau helaeth yn erbyn fy ewyllys, cymaint yw fy ofn y math yma o dechnoleg – felly dw i’n gofyn o flaen llaw am eich maddeuant os bydd ambell peth yn mynd o’i le – ac os digwyddith hynny, dw i’n gwybod rwan hyn ar bwy bydda i’n rhoi’r bai, ac mae hi yn gwybod yn iawn pwy ydy hi!
Dwy flynedd a hanner yn ôl, pan wnes i dderbyn y cais i fynd yn Brif Weithredwr ‘am fis neu ddau’, pe bae rhywun wedi gofyn i mi ddisgrifio Cymuned, byddwn i wedi ymateb efo ambell air am fynnu chwarae teg i bobl leol, am broblemau tai, problemau gwaith, problemau iaith yn y Fro Gymraeg. Ar ran elfennau’r mudiad, sut oedd yn gweithio, pwy oedd yn gwneud beth yn union, ar y Pwyllgor Gwaith a thu allan iddo, nid oedd yn glir iawn i mi. Dw i’n amau fod o heb fod yn glir bob tro i lawer ohonoch chi ‘chwaith.
Ond mae’n rhaid am strwythur clir er mwyn creu mudiad llwyddiannus, ac erbyn hyn mae’r Pwyllgor Gwaith yn gytun ar nifer o syniadau penodol iawn am natur a strwythur y mudiad, a sut i gael yr effaith mwyaf bosibl allan ohono fo.
Rydym yn gweld y mudiad yn rhannu yn bedair. Yn gyntaf mae’r aelodaeth – rhaid i ni lwyddo i ddenu aelodau newydd, i gadw mewn cysylltiad gydag aelodau presennol, ac i greu patrwm lle mae pob aelod yn medru gweld rhywbeth iddyn nhw ei wneud.
Yn ail, gweithredoedd a lobïo – y gwaith o hyrwyddo a phoblogeiddio ein syniadau ni. Yn hyn o beth, rhaid am syniadau clir a chyson, a strategaeth tymor hir i’w datblygu a’u cyflwyno.
Yn drydedd, ein gwaith cymunedol. Mae hyn wedi bod yn rhan o Gymuned ers y cychwyn cyntaf, gydag aelodau yn mynd ati i nocio ar ddrysau i ofyn i newydd-ddyfodiaid ddysgu’r Gymraeg ac wedyn darparu’r gwersi iddynt wneud hynny. Dyma’r gwaith adeiladol, y gwaith positif, sydd yn rhoi sail ymarferol i’n gwaith lobïo gwleidyddol.
Yn bedwerydd, y gwaith diflas ond hanfodol bwysig o gysylltu gyda’r Wasg, ac o sicrhau bod pobl y tu hwnt i’n haelodau yn clywed am yr hyn rydym yn ei wneud.
Cewch feddwl amdanyn nhw fel pedair olwyn, a’r mudiad yn gar – tynnu un ohonyn nhw, a byddai pethau’n simsanu’n arw – tynnu dau, a phrin iawn y byddem ni’n cyrraedd nunlle. Er mwyn llwyddiant y mudiad, llwyddiant ein syniadau a’n dyheuadau i’r Fro Gymraeg, rhaid i bob un o’r pedair olwyn droi’n iawn.
Mae llawer iawn iawn o waith y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn waith cryfhau pedair rhan Cymuned – gwaith llenwi’r olwynion ag awyr, os dach chi’n licio’r trosiad yna! Byddaf yn esbonio rwan beth yn union mae hynny wedi’i olygu, yn y gobaith y byddwch chi, o weld sut yn union mae cerbyd Cymuned yn gweithio, hefyd yn gweld sut fedrwch chi chwarae rhan yn y gwaith o’i ddreifio.
Aelodaeth. Dyna oedd y cam cyntaf, pwysicaf mewn llawer ffordd. Mae’r cylchlythyr wedi bod yn rhedeg am dros flwyddyn rwan, a dach chi wedi clywed eisoes fy nghri am gyfrannwyr – yn aml iawn, mae’r iaith yn y cylchlythyr wedi bod yn wallus, a hynny oherwydd fy mod i’n cyfrannu llawer iawn gormod o’r cynnwys. Mae gen i bethau i’w cynnig i waith y mudiad, ond a finnau’n siaradwr ail-iaith nid yw cywirdeb iaith yn un ohonyn nhw. Ta waeth – mae cyfrannwyr o safon wedi cychwyn codi’u dwylo, ond dw i dal isio i chi yma heddiw deimlo digon o biti drostaf fi i’ch ysgogi chi i ddod yn un ohonyn nhw!
Mae’r cylchlythyr yn ddolen hynod bwysig, a does gen i ddim amheuon o gwbl ei fod wedi chwarae rôl canolog ar ran cadw’r mudiad i fynd. Rydym hefyd wedi datblygu cylchebost wythnosol – roedd cylchebost wedi’i rhedeg o’r blaen, ond rhywle rhwng ddiffyg niferoedd ar y We a newidiadau ar ran y staff gwirfoddol, roedd o wedi peidio â bod. Rwan, rydym yn defnyddio meddalwedd pwrpasol sydd yn ei gwneud hi’n haws o lawer i’w rhedeg, ac yn cael canran uwch trwy’r amser o bobl gyda chyfeiriadau e-bost. Erbyn hyn, mae dros 500 o bobl yn derbyn ein e-bost wythnosol, ac mae’r nifer yna’n cynyddu yn gyson.
Rydym hefyd wedi bod yn ddiweddaru ein prif wefan, cymuned.org, sydd bellach yn cynnwys pob datganiad i’r Wasg rydym yn ei wneud, ynghyd â nifer o drafodaethau eraill – ewch arni hi, ac mi welwch chi darlun glir o’r hyn sy’n digwydd.
Dyna cyfathrebu’n well gyda’r aelodau – erbyn hyn, nid oes rheswm i unrhyw un sydd â diddordeb, boed yn aelod neu beidio, methu â gwybod beth yn union rydym yn ei wneud. Ond nid cyfathrebu gydag aelodau presennol yn unig sydd ei angen – rhaid i ni hefyd ddenu aelodau newydd, a rhaid i ni fedru dangos i aelodau newydd sut mae modd iddynt wneud cyfraniad i’n gwaith. Cyfraniad rhesymol, cyfraniad sydd ddim yn llyncu eu bywydau cyfan, ond cyfraniad sydd yn gwneud gwahaniaeth real.
Rydym wedi cychwyn denu aelodau newydd gyda’r gwefannau wnes i grybwyll yn gynharach. Rydym yn hyrwyddo’r gwefannau gyda sticeri bychain, a thrwy ambell hysbyseb arlein, a bathodynau fel y rhai dych chi wedi’u gweld nhw wrth gyrraedd – 50c yn unig, felly beth am brynu un amser cinio a’i rhoi ar eich bag neu jaced? Unwaith bod pobl yn cyrraedd y gwefannau (a chydag enwau fel Saesneg.com a NotEnglish.com, maen nhw’n tueddu i aros yn nghof pobl!), maen nhw’n cael eu tynnu at danysgrifio i’r cylchebost. Wedi iddynt wneud hynny, rydym yn gofyn a fyddant yn fodlon gosod ambell sticer, ac mae nifer cynyddol yn cytuno i wneud hynny. Gyda’r sticeri, wrth gwrs, maen nhw hefyd yn derbyn ffurflen aelodaeth – ac felly mae’r mudiad yn tyfu.
Sylwch ar y broses – nid yn unig ydy’r mudiad yn tyfu, ond mae’r aelodau a chefnogwyr newydd eisoes wedi cael cynnig darn bach o waith syml sydd yn gwneud iddynt deimlo bod nhw’n dod yn rhan o rywbeth. Mae’r teimlad yna’n eithriadol o bwysig.
Dyna aelodaeth, felly – denu pobl sydd â diddordeb, creu dolen cyswllt efo nhw, cynnig gwaith syml iddyn nhw sydd yn helpu denu mwy o bobl, a chadw mewn cysylltiad fel eu bod yn gwybod am ein gwaith o wythnos i wythnos. Mae’n dechrau ymledu – nid yn unig yn y Cymoedd, ond yn bellach i ffwrdd hefyd – rydym wedi cael aelodau misol newydd yn Iwerddon ac America dros y pythefnos diwethaf.
Dyna, os liciwch chi, olwyn gyntaf neu hyd yn oed injan y mudiad. Aelodaeth sy’n creu llif pres sy’n galluogi ni i redeg swyddfa, i redeg ymgyrchoedd, i gynhyrchu llyfrynau, ac i ddenu mwy o aelodau.
Ond fel rydym wedi’i ddweud eisoes, nid yw aelodaeth ynddo’i hun yn ddigon – dydy un olwyn ar ei phen ei hun, neu injan heb olwynion, yn dda i ddim. Mae’n rhaid trosglwyddo grym aelodaeth yn waith go-iawn.
Gwaith cymunedol ydy’r ail olwyn. Rydym wedi bod yn hyrwyddo ymddiriedolaethau tir cymunedol ers peth amser, ac mae nifer o’n haelodau wedi mynd ati i godi ymddiriedolaethau felly yn eu hardaloedd hwythau. Rydym yn gweithio ar becyn gwybodaeth am sut i’w wneud, a pha chymorth sydd ar gael – a rydym wedi gweld bod y syniad yn dechrau ymledu, hyd nes i’r pleidiau gwleidyddol ddechrau ymateb. Yn wir, mae rhan o ddarpar maniffesto Plaid Cymru yn sôn am yr angen am Uned Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol yn y Cynulliad, rhywbeth rydym yn ei gefnogi’n gryf.
Hefyd, mae ein gwaith i godi Rhwydwaith Busnes Cymuned gyda goblygiadau pwysig i ni. Mae hyn eisoes yn tynnu pobl busnes i fewn i’n cefnogi ni, a nifer ohonyn nhw wedi datgan na fyddant wedi ystyried bod gwerth trafod efo Cymuned o’r blaen. Mae gwaith hyrwyddo busnesau lleol yn waith mae modd i unrhyw aelod dod yn rhan ohono fo, ac wrth i ni ddatblygu’r rhwydwaith dros y flwyddyn nesaf, byddaf yn cychwyn cynnig cyfrifoldebau penodol i aelodau sydd yn ymddiddori ar yr ochr yna.
Mae gwaith cymuned llwyddiannus yn ei dro yn helpu cryfhau’r olwyn nesaf, sef gweithredoedd a lobïo. O dynnu’r hen gwyn wirion bod Cymuned ‘ond yn dweud ‘Na!’’ wrth bethau, rydym yn cryfhau ein dadleuon yn sylweddol. Dydy Cymuned ddim yn ymwrthod â datblygiadau economaidd – dim o gwbl. Rydym yn mynnu eu bod yn fuddiol i’r gymuned leol a’r iaith Gymraeg, ac yn mynd ati i ddangos sut mae hynny’n medru gweithio.
Y trydydd olwyn, felly – gweithredoedd a lobïo. Dyma lle bydd datblygiadau mwyaf y flwyddyn i ddod. Rydym wedi bod yn lobïo ar lefel y Cynulliad yn ddiweddar, a bydd y Pwyllgor Gwaith yn dal i wneud hynny, ond rydym hefyd wedi bod yn lobïo’n dra lwyddiannus ar lefel y Cyngor Sir. Roedd Marina Pwllheli yn un o fuddugoliaethau mwyaf Cymuned hyd yn hyn, ac mae’n dangos yn glir i ni bod mwy o gyfle i ni ddylanwadu ar gynghorwyr lleol, sydd yn byw yn ein mysg, nag ar wleidyddion pell i ffwrdd ym Mae Caerdydd.
Byddai hyn ynddo’i hun efallai yn achos ocheneidio, ond am un peth syfrdanol o bwysig. Yn nwylo cynghorau siroedd Cymru y mae rhai o’r penderfyniadau pwysicaf oll ynglŷn â dyfodol yr iaith Gymraeg a’n cymunedau Cymraeg. Cynghorau Sir sy’n penderfynu ar faterion cynllunio, cynghorau sir sydd yn un o gyflogwyr mwyaf bob sir, yn enwedig yn y Fro Gymraeg, cynghorau sir sydd yn gosod yr agenda addysg, a chyngorau sir sydd yn gosod yr agenda arwyddion.
Mae rhai sylwebyddion gwleidyddol wedi cyhuddo Cymuned, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, o fod ‘heb strategaeth’.
Waeth i ni gyfaddef, ar adegau maen nhw wedi bod yn berffaith gywir.
Rydym wedi bod yn lobïo ar lefel y Cynulliad ynglŷn â’r Fro Gymraeg, ond anodd ydy cael sylw i hynny, ac ar lefel lleol, rydym wedi tueddu i ymateb i bynciau llosg yn hytrach na gosod yr agenda ein hunain. O heddiw allan, mae hynny yn newid.
Wrth lawnsio’r llyfryn ‘Cymreigio’r Cyngor – Gwersi Gwynedd a Dyfodol Ceredigion’ yn Aberaeron wythnos i nos Iau diwethaf, wnaethon ni ddatgan yn glir ein bwriad i godi ymgyrch newydd yng Ngheredigion – ymgyrch i gymreigio gweinyddiaeth y Cyngor Sir, trwy fynnu iddynt arddel polisi iaith Gwynedd. Byddwn yn gweithio i godi Pwyllgor Ymgyrch yng Ngheredigion dros y chwe mis nesaf, ac i barhau i ddatblygu’r cydweithio sydd wedi bod rhyngddom ni a’r Gymdeithas a’r Blaid ar hyn eisoes. Dyna ymgyrch sirol cyntaf.
Rydym wedi cychwyn sôn yng Ngwynedd am yr angen i gael hyd o ateb syml, clir i’r problem tai. Mae gwaith darparu tai fforddiadwy yn bwysig, ond yn erbyn holl rym y farchnad agored, mae’n edrych yn rhy fach o lawer. Rwan, mae gennon ni batrwm i’w osod – penderfyniad Parc Cenedlaethol Swydd Efrog i ganiatau tai newydd ar gyfer pobl leol yn unig. Dyma’r ateb sydd wedi bod angen – heb gau neb allan, gan fod y stoc bresennol yn dal i fod ar gael, mae’n creu marchnad dai leol gynaladwy sydd angen bod yn fforddiadwy i bobl leol – oherwydd fel arall, ni fyddai modd i werthu’r tai! Rydym wedi cael digon o wirfoddolwyr eisoes i osod Pwyllgor Ymgyrch yng Ngwynedd er mwyn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu hyn.
Rydym hefyd gyda digon o wirfoddolwyr yn Sir Gâr i gychwyn Pwyllgor Ymgyrch yn y fan yna, gyda’r bwriad o bwyso am yr un polisi tai a’r hyn rydym yn gofyn amdano yng Ngwynedd, ac hefyd i wrthwynebu’r pibell nwy arfaethedig sydd yn gorfodi llawer iawn o bobl leol i werthu eu tiroedd er mwyn pibell sydd yn mynd â chant y cant o’r nwy yn syth i Loegr, heb ddod ag unrhyw fuddion i Gymru o gwbl.
Ydych chi’n gweld y patrwm? Ymgyrchoedd lleol yn siroedd y Fro Gymraeg sydd yn cyfrannu’n uniongyrchol at adeiladu’r Fro Gymraeg o’r tu fewn. Byddwn yn dal ati i lobïo ar lefel y Cynulliad, i ddatblygu’r syniad gwleidyddol bod pleidleisiau ar gael i’r rhai hynny bydd yn warchod ein cymuned Cymraeg, ond bydd y gwaith lleol, yr ymgyrchoedd fesul sir, yn mynd ati rwan hyn i greu’r Fro mewn ffordd real.
Rydym hefyd yn awyddus, unwaith byddwn wedi sefydlu’r Ymgyrchoedd rwyf newydd gyfeirio atyn nhw, i godi ymgyrch addysg yn y Fro. Dim i alw am addysg Gymraeg – mae eraill yn gwneud hynny. Rydym ni isio pwysleisio effaith niweidiol, annerbyniol ysgolion cyfrwng Saesneg yn y Fro Gymraeg – hynny yw, ysgolion sydd yn cynnwys disgyblion o gymunedau Cymraeg (sef, wrth gwrs, cymunedau dwyieithog yn nhermau consensws hyfryd y Blaid Lafur) ond yn methu eu darparu ar sgiliau ieithyddol angenrheidiol iddynt chwarae rhan cyflawn yn eu cymunedau. Mae angen rhoi stop ar hyn – mae Ysgol Ffriars ym Mangor ac Ysgol Penglais yn Aberystwyth nid yn unig yn gwadu etifeddiaeth naturiol i blant y Fro Gymraeg, maent yn creu rhwyg anghyfiawn a pheryglus mewn cymdeithas.
Tri ymgyrch ar gyfer pedwar sir? Neu fwy, os bydd modd (fel sydd yn edrych yn addawol) cychwyn Pwyllgor Ymgyrch yn sir Ddinbych. Tri ymgyrch mewn pum sir, felly – a phob un ohonyn nhw yn enilladwy. Byddaf yn dod yn ôl mewn munud i rai datblygiadau strwythurol eraill, ond dyna i bob pwrpas ydy’r strategaeth rydym eisiau ei godi ar gefn y gwaith datblygu mewnol sydd bellach wedi’i cwblhau.
Y pedwerydd olwyn, wedyn, ydy delio gyda’r Wasg. Dyna lle roedd ein llwyddiannau mwyaf yn y dyddiau cynnar – roedd gennon ni aelodau hynod ddawnus yn y maes, roedd gennon ni dwf eithriadol o aelodau a syniadau i’w rhannu, ac am ddwy flynedd roedd enw Cymuned i’w weld ym mhob man. Ond ciliodd y gweithredoedd, aeth niferoedd yn y ralïau i lawr, ac ym mhen hir a hwyr daeth y Wasg i sylweddoli hynny. Dyna lle ydym ni hyd heddiw – mae’r Wasg wedi penderfynu bod Cymuned ddim bellach yn ‘stori’.
Ond pan bydd y tair olwyn arall yn troi, ni fydd dewis ond i’r pedwerydd gychwyn eto. Ni fyddwn yn ceisio sylw ar gefn syniad neu ddatganiad, waeth mor gywrain – byddwn yn mynnu sylw ar gefn gwaith llwyddiannus, poblogaidd, amlwg, ar gefn ymgyrchoedd bydd yn gwneud gwahaniaeth mesuradwy i ddyfodol ein cymunedau Cymraeg. Ymgyrchoedd bydd yn creu dyfodol i ni, a’n plant, a phlant ein plant.
Dw i wedi sôn am nifer o bethau newydd – cylchebostiau, gwefannau aelodaeth, sticeri, Pwyllgorau Ymgyrch – ond mae un peth newydd arall i’w grybwyll. Mae’n bosib bod rhai ohonoch chi wedi edrych ar y patrwm o wefannau aelodaeth, cylchebostiau, sticeri, aelodaeth, Pwyllgorau Ymgyrch, y Pwyllgor Gwaith, ac yn gweld rhyw fath o ystol ynddo fo – a dyna beth ydy’r bwriad. Ond mae un ffon ynddo fo ar goll – rhwng aelodau newydd a’r Pwyllgorau Ymgyrch. Dyna pam byddwn yn cychwyn stondinau gwybodaeth ym mhob man lle bydd modd.
Bydd y stondinau yn tynnu sylw at y gwefannau aelodaeth, yn gofyn i bobl lofnodi’r ddeiseb priodol lleol, yn gwerthu crysau-T a bathodynau’r mudiad, ac wrth gwrs yn dosbarthu ffurflenni ymaelodi. Ni fyddant yn creu unrhyw dyndra, fel roedd y picedi weithiau’n medru ei wneud, a ni fydd angen niferoedd mawr i’w rhedeg ‘chwaith. Rydym yn awyddus bod neb yn gwneud mwy nag un bore dydd Sadwrn y mis – ond os bydd tîm o bedwar yn rhedeg stondin gwybodaeth unwaith y mis, bydd rhan o’u cyfrifoldebau i ddenu pobl eraill i wneud yr un peth. Unwaith bydd wyth ar gael, bydd y stondin ar gael pob yn ail wythnos – ac yn y blaen. Dim ond 16 o bobl sydd angen er mwyn cael stondin ar strydoedd eich tref lleol pob dydd Sadwrn.
Bydd y Pwyllgorau Ymgyrch wedyn yn gwneud y gwaith o lythyru’r Cyngor a’r Wasg, trefnu styntiau achlysurol i dynnu sylw at yr ymgyrch lleol, a threfnu noson gymdeithasol unwaith bob tri mis ar gyfer pawb sydd yn helpu gyda’r stondinau a’r pwyllgorau, er mwyn cryfhau’r rhwydweithiau naturiol cymunedol sydd yn tyfu allan o weithio ar y cyd gyda phobl eraill sydd yn benederfynol o greu dyfodol gwell i ni gyd.
Dyna, felly, ydy’r ystol llawn – i feddwl amdani trwy lygaid rhywun newydd i’r mudiad, bydd o neu hi yn gweld sticer neu faner yn rhywle, yn mynd at wefan, yn tanysgrifio i gylchebost. Wedyn, bydd o neu hi yn penderfynu cynnig gosod sticeri, ac wedyn yn penderfynu ymaelodi. Unwaith bydd o neu hi wedi ymaelodi, bydd yn derbyn gwahoddiad i helpu gyda’r stondin gwybodaeth lleol, a thrwy hynny dod i nabod gwirfoddolwyr eraill, gan gynnwys aelodau’r Pwyllgor Ymgyrch. Ym mhen amser, ni fydd yn edrych yn ddychrynllyd iddi hi neu iddo fo gynnig helpu ar y Pwyllgor Ymgyrch – ac o fagu profiad yn y fan hwnnw, ni fydd y cam ymlaen i’r Pwyllgor Gwaith yn edrych mor fawr ag y mae hi heddiw.
Dyna’r perianwaith rydym yn ei greu. Dyna’r injan, dyna’r strwythur bydd yn gwthio’r mudiad, ac ymgyrchoedd y mudiad, yn eu blaenau. A dyna, gobeithio, ydy’r strwythur bod lle i bob un ohonoch chi gael hyd o rôl rhywle ynddo fo – boed fel stondinwyr, sticerwyr, llythyrwyr, aelodau’r Pwyllgor Ymgyrch, neu aelodau’r Pwyllgor Gwaith. Mae’r cerbyd yn barod – mae’n aros amdanoch chi. Chi ydy’r rhai sydd angen ei ddreifio.
Fel mae rhai ohonoch chi yn gwybod, dydw i ddim yn un mawr am siarad rhamantus a theimladol – mae well gen i bob tro weld yn union beth sydd angen ei wneud, yn union beth dw i’n medru ei wneud heddiw er mwyn creu gwell yfory. Rhoi poster i fyny, sgwennu llythyr, trefnu gweithredoedd, dyna beth dw i’n licio ei wneud.
Ond os ga i, dw i am ofyn i chi am eiliad godi uwchben manylion y perianwaith a meddwl am gyfanrwydd y strategaeth yma. Dw i am ofyn i chi ddychmygu bod y cloc wedi symud ymlaen pum mlynedd, neu ddeng mlynedd, a bod ni wedi llwyddo gyda’r tri ymgyrch yn y pum sir. Ym Môn, Gwynedd, Ceredigion, Sir Gâr, Dinbych – Duw, waeth i ni daflu Conwy i fewn ddim – ym mhob un mae gweinyddiaeth Gymraeg yn y sector cyhoeddus, ym mhob un mae marchnad dai fforddiadwy i bobl leol yn unig, ym mhob un mae’r ysgolion i gyd yn creu dinasyddion dwyieithog llawn.
Dychmygwch ddreifio o gwmpas y siroedd hynny, ar y llonydd dan ni’n nabod cystal heddiw – efallai y byddai rhai o’r cynghorau Cymraeg yna wedi cychwyn codi arwyddion uniaith Cymraeg, rhywbeth arall hoffem ofyn amdano. Ym mhob man, mi welwch chi Gymry Cymraeg gyda gwaith safonol, gyda thai yn eu cymunedau, a’r plant ym mhob ysgol yn parablu yn y Gymraeg.
Oni fyddai hynny yn Fro Gymraeg? Oni fyddai hynny’n gynsail real i Gymru ddwyieithog?
Nid oes angen aros i’r Cynulliad. Nid oes angen newid y Blaid Lafur. Mae’r atebion ar lefel y cynghorau sir, ac mae ein llwyddiannau mwyaf ni wedi bod ar lefel y cynghorau sir. Mae’r dyfodol newydd yno yn cychwyn yn fan hyn, rwan hyn – mae modd i ni ei greu.
Ond er mwyn hynny, er mwyn gwireddu’r dyfodol hardd rydym newydd ei ddychmygu, rhaid am waith. Yn benodol, rhaid i bob un ohonoch chi benderfynu ar ddau beth – lle yn y patrwm rydych yn medru cyfrannu, a sut ewch chi ati i genhadu er mwyn i ni lenwi’r cerbyd yma a’i droi yn fws, yn drên, yn llong anferth aiff â ni’r holl ffordd i’r Fro Gymraeg.
Mae aelodau’r Pwyllgor Gwaith eisoes wedi herio ei gilydd yn hyn o beth – gwaith eleni ydy cenhadu. Mae’r perianwaith yn barod – dim ond ei lenwi sydd angen. Mae’r Pwyllgor Gwaith wedi derbyn y cyfrifoldeb arnyn nhw i ysgogi pobl eraill i helpu creu’r Pwyllgorau Ymgyrch – rwan, os byddwch chi gyd yn ymateb i’r her i genhadu dros Gymuned eleni, i gael hyd o stondinwyr, i gael hyd o aelodau’r Pwyllgor Gwaith, i hyrwyddo’r gwefannau, ac i benderfynu os byddwch chi’n helpu gyda sticeri, stondinau, eich Pwyllgor Ymgyrch lleol neu’r Pwyllgor Gwaith…
Os byddwch chi yn ymateb i’r her yna, ym mhen blwyddyn byddwn ni gyd yn medru gweld bod y car yma yn symud, yn gynt ac yn gynt, i lawer y lôn tuag at y Fro. Dw i’n erfyn arnoch chi i ymateb i’r her, a hynny am resymau cwbl, cwbl hunanol. Yn syml iawn, dw i’n ysu cael byw yn y Fro Gymraeg. Dw i’n ysu cael gwybod y ga i fagu teulu bydd yn siarad Cymraeg, bydd yn medru fforddio tai yn ein cymuned fach ni, bydd yn medru derbyn y Gymraeg yn etifeddiaeth amhrisiadwy yn eu dwylo nhw. Dw i wedi crwydro’r byd trwy gydol fy mywyd, yn chwilio am rywle – yn chwilio am gartref. Dw i’n gwybod rwan lle mae’r cartref yna – a dw i’n mor agos at ei chyrraedd nes i’n nghalon i waedu. Yn y Fro Gymraeg y mae fy nghartref i.
Dewch. Ymatebwch i’r her. Gwirfoddolwch i’r stondinau a’r pwyllgorau ymgyrch. Cenhadwch.
[I gynnig help llaw gyda gwaith Cymuned, e-bostiwch cymuned[at]cymuned.org.]