Wordpress Themes
 

Nid oes angen i Griff Rhys Jones fod ag ofn y Cymry

23/08/06

Mae’r mudiad gwrth-wladychu Cymuned wedi datgan bod dim angen i’r actor Griff Rhys Jones fod ag ofn y bydd yn wynebu ymosodiadau yn ei erbyn wedi iddo fynd ati i adnewyddu tŷ fferm cofrestredig yn Sir Benfro (Golwg, 17/08/06). Mae’r mudiad yn debycach o’i ganmol am ariannu’r math gwaith adnewyddu.

‘Mae Cymuned yn fudiad di-drais, ac mae gwefannau megis CaruCymru.com yn dangos yn glir y mae caraid at ein cenedl a’n diwylliant sydd yn ein cymell, dim unrhyw awydd i fod yn ‘ymosod’ ar Saeson,’ medd Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned. ‘Mae’n rhaid fod Griff Rhys Jones yn gwrando ar ffynhonellau pur amheus i fod â’r ffasiwn syniad amdanom ni, a byddwn yn falch iawn i’w gyfarfod er mwyn trafod sut rydym yn ceisio ennill dyfodol real, cynaladwy i’n cymunedau Cymraeg.’

Cred Cymuned fod Griff Rhys Jones wedi gwneud cyfraniad positif i etifeddiaeth y sir trwy adnewyddu tÅ· fferm cofrestredig byddai fel arall wedi aros yn adfail.

‘Mae tai sydd yn wag am gyfnodau hirion o’r flwyddyn yn cael effaith niweidiol mesuradwy ar gymunedau lleol,’ medd Aran Jones, ‘ond mae ymgynghorydd prosiect Griff Rhys Jones wedi datgan eu bod yn bwriadu llenwi’r tŷ fferm trwy gydol y flwyddyn. Mewn achos felly, mae llawer y gellid ei wneud i hyrwyddo a helpu cynnal yr iaith a chymuned leol trwy addysgu twristiaid mewn modd positif, a byddwn yn anfon rhai syniadau ymarferol at yr ymgynghorwyr prosiect.’

CYMUNED YN LLONGYFARCH ‘THE SUN’

22/08/06

Mae’r mudiad gwrth-wladychol Cymuned wedi llongyfarch papur newydd ‘The Sun’ am wneud fwy i godi proffeil y Gymraeg na llawer papur newydd yng Nghymru. Cred Cymuned hefyd bod defnydd creadigol Channel 4 o’r iaith Gymraeg yn y rhaglen ‘Big Brother’ yn gadael BBC Wales yn bell ar ei hôl a gyda llawer i’w wneud i wella ei ymdrechion i hyrwyddo’r iaith.

‘Mae’n edrych chydig bach fel bod y Saeson am ddod i’n hachub ni,’ medd Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned, ‘gyda ‘The Sun’ yn arwain y ffordd – mae eu defnydd o nifer o benawdau Cymraeg wythnos diwethaf wedi gwneud llawer iawn i godi ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg ymysg ein hymwelwyr blynyddol.’

Cred Cymuned fod ‘The Sun’ wedi sicrhau bydd llawer iawn mwy o bobl yn ymwybodol o’r materion y mae’r mudiad yn eu codi ar eu gwefannau www.English-in-Wales.com a www.Tourists-in-Wales.com.

‘Gydag agwedd creadigol a phositif fel hyn gan ‘The Sun’,’ medd Aran Jones, ‘mae’n llawer mwy debygol y bydd ymwelwyr i Gymru yn fwy agored i’r hyn rydym wedi bod yn ceisio esbonio am sefyllfa’r iaith. Pwy a ŵyr – efallai byddwn yn edrych yn ôl ymhen ugain mlynedd ac yn diolch i ‘The Sun’ am helpu achub yr iaith!’

Mae Cymuned wedi condemnio Rhodri Morgan a’r Blaid Lafur Gymreig am ymgais digywilydd i ddefnyddio Glyn Wise yn declyn gwleidyddol, modd bynnag. ‘Dwedodd Glyn y byddai’n licio gwahardd tai haf, a dylai pobl sy’n symud i Gymru ddysgu’r Gymraeg,’ medd Aran Jones. ‘Pan dwedodd Seimon Glyn yr un peth yn 2001, galwodd y Blaid Lafur ef yn hiliol – ond rwan mae ar Channel 4, maen nhw’n disgyn dros ei gilydd i gael ar gefn y peth. Mae’r rhagrith yn syfrdanol – maen nhw dal heb wneud dim i wella sefyllfa ein cymunedau Cymraeg.’


Cymuned, 64 Stryd Fawr, Pwllheli, Gwynedd LL53 5RR - 01758-612712 - cymuned[at]cymuned.org