Wordpress Themes
 

Cyflwyniad y Cydlynydd

26/09/06

Does dim llawer i’w ddweud gan fod y Prif Weithredwr wedi fy nghyflwyno eisoes ond hoffwn eich annog i yrru e-bost ataf (anwen[at]cartrefi.com) os oes gennych ddiddordeb yn yr ymgyrch hynod bwysig a chyffrous yma!

Ysgrifennwch i ofyn cwestiwn, i gynnig syniad am ymgyrch penodol neu hyd yn oed ‘mond i ddweud ‘…dwni’m BE fedrai wneud, ond swni’n hoffi cynnig cymorth o rhyw fath…’ a cofiwch, cewch glywed ein newyddion diweddaraf wrth danysgrifio i’n cylchlythyr ar www.cartrefi.com os nad ydych wedi gwneud yn barod!

Cofion

Anwen

Cartrefi.com

23/09/06

Mae un o ymgyrchoedd newydd y mudiad, Cartrefi.com, wedi cychwyn yn addawol iawn, gyda nifer o danysgrifwyr newydd yn dod ar yr e-bost wythnosol.

Mae Anwen Jones wedi gwirfoddoli i gydlynu’r ymgyrch – cewch gysylltu gyda hi ar anwen[at]cartrefi.com os oes ganddoch syniadau neu gynnigion o gymorth ymarferol.

Bydd mwy o newyddion yn ymddangos yn fan hyn wrth i’r ymgyrch ddatblygu.


Cymuned, 64 Stryd Fawr, Pwllheli, Gwynedd LL53 5RR - 01758-612712 - cymuned[at]cymuned.org