Wordpress Themes
 

Y Garafan!

24/10/06

Wel, mae rhai o’n aelodau wedi bod wrthi’n brysur yn llifio a chario dros y penwythnos (MAWR ddiolch iddynt) i symud gweddillion ein hen garafan ffyddlon o’i safle yn Griffiths Crossing ger y Felinheli er mwyn gwneud lle i’r garafan newydd sbon danlli fydd yn cyrraedd yn o fuan. Cofiwch edrych allan amdani os yn teithio ffordd ‘na!

Mae gwaith yn mynd ymlaen ‘tu ol i’r llenni’ i drefnu calendr ymgyrch cartrefi.com ac i archebu nwyddau ac yn y blaen – a ‘rydym dal angen gwirfoddolwyr brwdfrydig i’n helpu hefo’r ymgyrch hynod bwysig yma dros y misoedd nesaf.

Gyrrwch air ataf os ‘rydych yn meddwl bod gennych rhywbeth i’w gynnig – bach neu mawr, mae bob dim yn cyfrif :-)

Tan wythnos nesaf!

Hwyl

Anwen (anwen[at]cartrefi.com)

o.n. ‘rydym yn rhoi “[at]” yn hytrach nag “@” yn ein cyfeiriadau gwefan i nadu ’spam’ – rhywun wedi gofyn y cwestiwn imi (a finna wedi gofyn yr un cwestiwn nes imi ddod i ddeallt!)

Chwyldro distaw arlein yn rhoi bywyd newydd i fudiad cymunedol

24/10/06

Mae’r niferoedd sydd yn tanysgrifio i e-bost wythnosol y mudiad Cymuned wedi codi yn syfrdanol dros y chwe mis diwethaf, gan gyrraedd 1200 yr wythnos hon. Dim ond am flwyddyn mae’r e-bost wedi bodoli, felly mae’r cynnydd yr un mor drawiadol â’r niferoedd ymaelododd gyda’r mudiad yn 2001/2.

‘Mae hyn yn ben llanw llawer iawn o waith ail-strwythuro,’ medd Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned, ‘ac yn dangos bod ein gwaith caled i ddefnyddio dulliau newydd o gyfathrebu ac ymgyrchu yn dechrau dwyn ffrwyth. Mae mwy o bobl newydd yn dod yn rhan o’n gwaith nag unrhyw beth dw i wedi’i weld o’r blaen, ac mae llawer iawn ohonyn nhw yn Gymry di-Gymraeg.’

Mae’r mudiad yn hyrwyddo beth maent yn galw ‘y Chwyldro 5 Munud’. Trwy wefannau megis Cartrefi.com, AsDrwg.com, Gweithio.com a TaiHaf.com, mae cefnogwyr newydd yn cael cyfle i dderbyn yr e-bost wythnosol, sydd wedyn yn cyflwyno nifer eang o fan-weithredoedd y mae modd i unrhyw un eu cyflawni mewn llai na phum munud y diwrnod.

‘Rydym yn teimlo bod rhaid i bobl arfer gyda’r syniad bod angen pum munud bob dydd er mwyn gwneud gwahaniaeth real i ddyfodol ein cymunedau a’n hiaith,’ medd Aran Jones, ‘a rydym wedi gweithio’n galed i gyflwyno syniadau creadigol, newydd sydd yn galluogi unrhyw un i gael effaith mesuradwy mewn ychydig o funudau. Mae’r gallu i gyfathrebu’n gyson ac yn gyflym gyda niferoedd uchel iawn yn agor drysau newydd a chyffrous i ni, a rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ddigwyddiadau 2007.’

Am fwy o fanylion, cysylltwch â swyddfa Cymuned ar 01758-612712.

Kathy Gittins

19/10/06

Rydym yn parhau i roi rhai o’r busnesau rydym wedi’u hyrwyddo eisoes i fewn i’r sustem newydd yma, felly dyma ail-gyflwyno gwaith Kathy Gittins i chi…:-)

Mae Kathy yn dod o Drefaldwyn ond bellach wedi ymgartrefi ym Mhwllheli – penderfyniad cafodd ei ysbrydoli gan ei hawydd i glywed y Gymraeg o’i chwmpas trwy’r amser, a phenderfyniad sydd wedi mynd â Phwllheli cam yn nesaf at fod yn brifddinas celf Cymru…;-)

Cewch weld gwaith Kathy ar www.kathygittins.com – ac os byddwch yn prynu un o’i lluniau bendigedig, cofiwch roi gwybod mai yn fan hyn cawsoch glywed am ei gwefan!

Hanner y Gwir oddi wrth Gweinidog Hanner Pan

17/10/06

Mae’r mudiad Cymuned wedi beirniadu Gweinidog yr Amgylchedd Lord Rooker am ei ddatganiad hurt y dylid annog pobl i symud i Gymru er mwyn cael dŵr.

‘Mae’r syniad gwirion hwn yn dangos nad yw’r Gweinidog yn deall dim am sut mae cymunedau yn gweithio,’ medd Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned. ‘Byddai’r hyn y mae’n awgrymu yn achosi tyndra a gwrthdaro peryglus mewn cymunedau gwledig, ac mae’r datganiad yn datgelu pa mor beryg y gall fod pan mae gweinidogion yn siarad am bethau nad oes ganddynt wybodaeth digonol yn eu cylch.’

Cred Cymuned na ddylid symud dŵr o ganolbarth Cymru i Loegr onibai bod y Cynulliad yn penderfynu i’w wneud ac yn gosod pris teg y byddai’n cael ei drosglwyddo i bobl Cymru.

‘Mae’n gwbl annerbyniol bod San Steffan wedi gwrthod trosglwyddo’r hawl i benderfynu ar ddefnydd o ddŵr Cymru i’n Cynulliad, ac yn dangos yn blaen bod bwriad ganddynt i reibio adnoddau naturiol Cymru unwaith eto,’ medd Aran Jones. ‘Gallasai syniadau hurt fel un Lord Rooker achosi problemau anferth yn y farchnad dai, felly mae’n hanfodol bwysig bod cynghorau sir Cymru yn dilyn enghraifft Swydd Efrog (fel sydd i’w weld ar www.Cartrefi.com) mor fuan â bo modd.’

Am fwy o fanylion, cysylltwch â swyddfa Cymuned ar 01758-612712.

Newyddion o’r Pwyllgor Ymgyrch

17/10/06

Wel, dwni ddim ble i gychwyn yr wythnos hon! Cawsom gyfarfod arbennig o dda nos Iau diwethaf gyda gwledd o syniadau difyr yn cael eu rhannu!

‘Rydym yn brysur yn gweithio ar amserlen ar gyfer y llith o ymgyrchoedd sydd gennym mewn golwg ond i godi blys arnoch dyma ‘chydig o’r syniadau…

1. Llythyru’r wasg (ac eraill) er mwyn dwyn pwysau ar Gyngor Gwynedd i fabwysiadu polisi cynllunio ar gyfer adeiladu tai newydd i bobl leol yn unig

2. Cael crwban/malwen fawr a’i lleoli mewn man amlwg i ddwyn sylw at yr ymgyrch (unrhyw un ohonoch hefo dawn creadigol??)

3. Paentio/defnyddio cerrig gwynion i sillafu ‘cartrefi.com’ yn FAWR ar dir ble y’i gwelir gan llawer o bobl (os oes gan unrhyw un ohonoch dir y cawn ddefnyddio ar gyfer pethau o’r math, gadewch imi wybod!)

4. Syniadau i ddefnyddio “Wendy House” ar gyfer gwahanol brotestiadau…

5. Ocsiwn ARBENNIG i’w chynnal yn ein trefi marchnad… Mwy o fanylion ynglyn a hyn yn agosach at yr amser (dwi’n hoffi eich cadw ar flaen eich seddi!)

Fel arfer – dewch i gysylltiad (anwen[at]cartrefi.com) hefo unrhyw syniadau neu i wirfoddoli mewn unrhyw ffordd

Tan wythnos nesaf

Anwen

Gwingar.co.uk

12/10/06

Rydym wedi sôn wrth ddarllenwyr ein cylchlythyr am GwinGar.co.uk eisoes – masnachwyr gwin o safon ar gyfer Gorllewin Cymru, cwmni lleol Cymraeg – ond roedd awydd gynnon ni rhoi sylw iddyn nhw eto fel eu bod yn rhan o’r sustem newydd arlein yma, sydd yn cadw manylion ar gael i’r dyfodol.

Mae ganddyn nhw gysylltiadau teuleuol gyda Ffrainc, angerdd amlwg at win, ac yn llawn haeddu eich sylw: cliciwch yma.

Pwyllgor Ymgyrch Gwynedd 12/10/06

09/10/06

Nodyn bach i’ch atgoffa y bydd y Pwyllgor Ymgyrch yn cyfarfod nos Iau yma i drin a thrafod syniadau gwahanol ymgyrchoedd, yn enwedig ymgyrch cartrefi.com, felly gyrrwch air ataf os oes gennych unrhyw syniadau neu os y dymunwch fynychu’r cyfarfod. Croeso i bawb :-)

Hwyl!

Anwen

anwen[at]cartrefi.com

Clonc

05/10/06

Rydym wedi derbyn cais gan un o’n cefnogwyr i dynnu sylw at Far Tapas/Coffi o’r enw ‘Clonc’ ar 169 Cowbridge Road East, Treganna, Caerdydd.

Mae ganddynt fwydlen dwyieithog, ac mae ein gohebydd yn dweud wrthym bod ‘ganddynt gacennau arbennig a choffi safonol iawn’!

Os byddwch yn yr ardal, galwch i fewn i roi cais arnyn nhw – a chofiwch ddweud wrthynt i chi glywed amdanynt oherwydd iddynt fod â bwydlen dwyieithog!

Cofiwch, os ydych chi’n gwybod am fusnes lleol Cymraeg, neu gydag agwedd hynod iach at yr iaith, gadewch i ni wybod fel bod modd i ni eu hyrwyddo yn fan hyn…:-)

3/10/06

04/10/06

Diolch i bawb sydd wedi gyrru e-bost yn ddiweddar – ‘rwyf wedi gyrru ateb yn uniongyrchol (fel y gwyddoch!!) i bob un ohonoch.

Y cwestiwn mwyaf poblogaidd yw “Pryd mae’r weithred gyntaf?” – bydd Pwyllgor Ymgyrch Gwynedd yn cyfarfod nos Iau nesaf, sef y 12fed o Hydref ac os oes gennych ddiddordeb mynychu’r cyfarfod, gyrrwch e-bost ataf a cewch wybod manylion y lleoliad ac yn y blaen – mae croeso mawr i chwi fod yn bresenol.

Yn y cyfarfod bydd trafodaeth am weithgareddau dros y misoedd nesaf ac wrth gwrs, os oes gennych syniad, dewch i’w gyflwyno, neu gyrrwch neges ataf – anwen[at]cartrefi.com

Tan tro nesaf!

Anwen


Cymuned, 64 Stryd Fawr, Pwllheli, Gwynedd LL53 5RR - 01758-612712 - cymuned[at]cymuned.org