Wordpress Themes
 

Pethau’n Prysuro!

28/11/06

Bydd rhai ohonoch wedi sylwi bod y garafan yn ei lle ger y Felinheli bellach ac mae hyn yn golygu bod llawer mwy o bobl yn ymweld a’r wefan cartrefi.com :-) Diolch i’r hogia am ei chael i’w lle!

Cynhaliwyd Pwyllgor Ymgyrch ardal Gwynedd nos Lun diwethaf a cawson sgyrsiau difyr iawn ynghylch y nifer MAWR o syniadau sydd wedi eu crybwyll gan ein aelodau creadigol a rydym wedi penderfynu ar ein prosiect cyntaf sef mynd ati i wneud fideo naws Nadoligaidd ar gyfer YouTube (gwefan ble y gellir dangos eich fideo i unrhyw un sydd yn ymweld a’r wefan). Byddem yn mynd ati i ffilmio (a chanu ambell i garol!) ar nos Sadwrn y 9fed o Ragfyr. Os yr hoffech fod yn rhan o hyn, gyrrwch ebost ataf (anwen[at]cartrefi.com) a cewch fwy o fanylion am y lleoliad a.y.y.b.

Dwi’n siwr y byddwch wedi clywed y newyddion bod y Tywysog Siarl am brynu ty haf yng Nghymru – i gael blas ar y math o beth rydym yn anelu ato ar YouTube, ewch i http://www.youtube.com/watch?v=DdXa77nYHYQ i weld y fideo mae un o’n aelodau wedi ei ffilmio dros y penwythnos ynglyn a’r newyddion. Mwynhewch!

Tan tro nesaf

Anwen

Cymuned yn galw ar Dywysog ‘Buy-to-Let’ i ail-feddwl

23/11/06

Mae’r mudiad Cymuned wedi ysgrifennu at Ddugiaeth Gernyw ar gyngor cyn-ysgrifennydd y Wasg i Dywysog Siarl, Dickie Arbiter, i alw ar y Tywysog i ail-ystyried cais cynllunio i roi ei dŷ newydd yn Llanymddyfri ar log i dwristiaid.

‘Mae’n ymddangos bod y Tywysog Siarl wedi cael cyngor hynod wael ynglŷn â hyn,’ medd Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned. ‘Mae buy-to-let, yn enwedig ar gyfer twristiaid, wedi help creu argyfwng tai dinistriol iawn yng nghefn gwlad Cymru, ac mae’r cais eithriadol o ansensitif hwn oddi wrth y Tywysog yn gwneud iddo edrych fel nad oes ganddo prin dim gwybodaeth am, neu ddiddordeb yn, yr argyfwng tai sydd yn ein wynebu ni yng Nghymru.’

Cred Cymuned na ddylai’r Tywysog mynd ymlaen gyda’r cais cynllunio, a bod lle iddo edrych ar gynnig rhan o’r ystad 192 erw ar gyfer anghenion tai lleol.

‘Wrth ysgrifennu at y Dugiaeth, rydym wedi gofyn i’r Tywysog Siarl edrych ar yr hyn rydym yn ei ddweud ar ein gwefan Cartrefi.com,’ medd Aran Jones. ‘Mae’r Tywysog mewn sefyllfa i helpu ychwanegu momentwm i’r trafodaeth cyhoeddus ar y pwnc pwysig hwn, a byddai’n bechod mawr pe bae’n dewis fel arall i ychwanegu at y problem, a chael ei adnabod fel y Tywysog Buy-to-Let.’

Am fwy o fanylion, cysylltwch â swyddfa Cymuned ar 01758-612712.


Cymuned, 64 Stryd Fawr, Pwllheli, Gwynedd LL53 5RR - 01758-612712 - cymuned[at]cymuned.org