Wordpress Themes
 

Carolau, Carafan & Chyngor Dinbych!

14/12/06

Efallai eich bod wedi clywed am Gynllun Unedol Cyngor Sir Ddinbych sy’n galw am 800 o dai newydd yn Llanelwy? Nid yw’r datblygiad yn cymryd anghenion lleol i ystyriaeth o gwbl ac yn wir, mae’n canolbwyntio ar ddarparu tai drud ar gyfer y farchnad agored.

I wrthwynebu’r cynllun yma yn hawdd a sydyn arlein, cliciwch ar www.cartrefi.com/dinbych – mae’r dudalen yn gwneud bron popeth ar eich rhan! Yn ogystal a gyrru ebost swyddogol at yr Adran Gynllunio mae hefyd yn rhoi syniadau i’ch helpu i lunio eich e-bost! COFIWCH adael i’ch ffrindiau wybod am hyn! Dim ond tan ddiwedd mis Rhagfyr sydd gennym i ddatgan ein gwrthwynebiad!

Buom yn ffilmio tra’n canu carolau yn Abersoch nos Sadwrn diwethaf a cewch weld ein ‘perfformiadau’ drwy glicio ar www.cartrefi.com/abersoch! ‘Roedd rhai ohonom erioed wedi bod ar ‘weithred’ o unrhyw fath o’r blaen ac nid oeddem yn hollol sicr o be yn union i’w ddisgwyl i ddweud y gwir ond aeth y nerfau drwy’r ffenest wrth inni gael noson llawn mwynhad a hwyl tra’n gwneud pwynt hynod bwysig (a cawsom fins peis go iawn ar y diwedd!)

Cofiwch yrru e-bost ataf (anwen[at]cartrefi.com) os yr hoffech ddod yn rhan o’r ymgyrch – er mwyn pwyso ar gynghorau i ganiatau cynllunio ar gyfer tai newydd i bobl leol yn unig

Bydd rhai ohonoch wedi sylwi bod y garafan wedi diflannu eto! Y rheswm yw’r difrod a wnaethpwyd yn ystod y tywydd drwg yn ddiweddar. I ddiweddu am tro ‘ma felly, hoffwn ddiolch i’r aelodau aeth draw yn ystod y tywydd garw i nadu ein carafan chwythu i’r lon fawr ac i’r rhai aeth draw fore Sadwrn diwethaf i ganol y mwd i glirio gweddillion yr hen garafan. Diolch yn fawr iawn!

Cofi Roc

01/12/06

Cafwyd hwb arall i’r ymgyrch CARTREFI.com yng Nghofi Roc yng Nghaernarfon nos Wener diwethaf, wrth i Emyr Gibson a’r Band wneud set gyfan gyda phawb yn gwisgo crysau-T ‘CARTREFI.com’. Mae’r partneriaeth newydd yma yn carlamu yn eu blaenau, gyda fersiwn arbennig o Hen Wlad fy Nhadau i orffen y noson, ac mae llais Emyr yn gweithio’n arbennig o dda er i’r cerddoriaeth fod mymryn yn llai ffurfiol na’r hyn mae wedi arfer gyda fo ar lwyfan yr Eisteddfod!

Mae noson carolau hefyd yn cael ei gynllunio ar gyfer y 9fed o’r mis hwn, er mwyn hyrwyddo CARTREFI.com – os oes ganddoch ddiddordeb mewn cymryd rhan (bydd y digwyddiad yn cael ei recordio), cysylltwch ar frys gyda anwen[at]cartrefi.com.

Rodney Adams, Pwllheli

01/12/06

Rydym wedi derbyn cais yr wythnos hon gan Wynne ab Iorwerth i ganmol busnes bach ym Mhwllheli y mae o wedi cael gwasanaeth da iawn ganddo. Cofiwch, os ydach chi’n gwybod am fusnes bach lleol Cymraeg sydd yn haeddu ei ganmol, e-bostiwch ni a byddwn ni’n ei gynnwys yn fan hyn.

Dyma geiriau Wynne:

‘Yn dilyn y canmoliant cafodd gwesty Y Beuno yn ein cylchlythyr, hoffwn tynnu sylw at y wasanaeth penigamp y cefais gan siop hen bethau Mr Rodney Adams, Pwllheli yn ddiweddar.

Prynais bwrdd gan Mr Adams ac wrth trefnu’r danfoniad cymerodd Mr Adams yr ofal i fy nghyfarch ac hefyd fy ffarwelio trwy gyfrwng y Gymraeg ar y ffôn.

Cefais wasanaeth llwyr Gymraeg gan aelodau eraill o deulu Mr Adams.

Pob tro fyddai’n defnyddio’r bwrdd cofiaf am y pleser yr oedd i drafod busnes gyda’r cwmni hollol ddwyieithog yma.’

Cewch ffonio Siop Hen Bethau ar 01758-613173, neu ymweld â fo yn Stryd Penlan, Pwllheli.


Cymuned, 64 Stryd Fawr, Pwllheli, Gwynedd LL53 5RR - 01758-612712 - cymuned[at]cymuned.org