Cymuned yn galw ar AS Llafur i ymddiheuro neu ymddiswyddo
Mae grwp pwyso cymunedol Cymuned wedi beirniadu AS Llafur dros Alyn a Deeside, Mark Tami, yn hallt am awgrymu na ddylai Prif Gwnstable Heddlu Gogledd Cymru siarad yng Nghynhadledd Flynyddol y mudiad.
‘Mae hyn yn ddatganiad gwarthus gan Aelod Seneddol presennol,’ medd Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned. ‘Os nad wy Mr Tami yn credu mewn gwerth gwrando ar farn pobl gwahanol, ni ddylai fod yn cynrychioli pobl Alyn a Deeside yn San Steffan. Mae gennym gefnogwyr yn ei etholaeth – ydy o’n credu bod hi’n iawn iddo eu diystyrru fel tasen nhw ddim yn bodoli? Mae ei agwedd cywilyddus yn dangos culni meddwl afiach – dylai fo ymddiheuro neu ymddiswyddo.’
Mae Cymuned wedi cynnal trafodaethau gyda’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg yn y Cynulliad, Alun Pugh, ac wedi gweithio mewn partneriaeth gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol yng Nghymru.
‘Mae Alun Pugh yn fodlon trafod gyda ni, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol yn fodlon trafod gyda ni, ac felly mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd,’ medd Aran Jones. ‘Ond mae Mark Tami yn credu mewn taweli ac anwybyddu pobl sydd ddim yn cytuno gyda fo. Cafodd ei ethol i gynrychioli pawb yn ei etholaeth, dim pleidleiswyr Llafur yn unig – os na fydd yn sylweddoli pa mor gywilyddus oedd ei ddatganiad ac yn dangos digon o gymeriad i ymddiheuro, nid yw’n deilwng i fod yn Aelod Seneddol.’
Am fwy o fanylion, cysylltwch â swyddfa Cymuned ar 01758-612712.



