28/02/07
Ar ôl cysylltu gyda phob cyngor cymuned a thref yng Nghymru, mae’r mudiad Cymuned bellach wedi anfon at bob cynghorydd sir yn y wlad i ofyn iddynt ddatgan cefnogaeth i’r syniadau sydd i’w darllen ar y wefan ymgyrch Cartrefi.com. Mae’r wefan yn galw am gyfyngu caniatad ar gyfer tai preswyl newydd i bobl leol yn unig, fel sydd eisoes yn digwydd yn Swydd Efrog a Swydd Amwythig.
‘Rydym yn credu bod llais ein cynghorwyr sir unigol yn eithriadol o bwysig yng nghyd-destun yr argyfwng tai,’ medd Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned, ‘ac mae’n arbennig o bwysig bod pawb yn medru gweld sut cefnogaeth sydd i syniadau fel hyn gan aelodau etholedig sydd efallai ddim yn digwydd bod ar fyrddiau rheoli cynghorau.’
Mae llythyr Cymuned at holl gynghorwyr sir Cymru yn gofyn am ddau beth – i’r cynghorwyr ymateb i’r mudiad trwy bost neu e-bost er mwyn datgan cefnogaeth i syniadau Cartrefi.com, ac iddynt alw ar eu Cyngor Sir i weithredu ar y syniadau hynny.
‘Ail gam mewn ymgyrch arbennig o bwysig ydy hyn,’ medd Aran Jones. ‘Mae sôn wedi bod am yr argyfwng tai ers dros bum mlynedd bellach, ond prin iawn a chyfyng iawn ydy’r cynnigion i’w datrys. Mae gormod o bwyslais wedi bod ar dai fforddiadwy a dim digon ar sicrhau marchnad dai leol gynaladwy. Os bydd cynghorwyr sir Cymru yn ymateb yn bositif i’n cais, bydd rhaid am drafodaeth dwys ar hyn fel rhan o ymgyrch etholiadol pob plaid i’r Cynulliad eleni.’
Am fwy o fanylion, cysylltwch â swyddfa Cymuned ar 01758-612712.
27/02/07
Mae’r Pwyllgor Ymgyrch yn cyfarfod eto heno ‘ma (26/2/07) felly byddwch yn barod am fwy byth o syniadau difyr! Cofiwch bod oriau o waith yn mynd ymlaen yn y cefndir yn cynllunio gweithredoedd i’r dyfodol a.y.y.b. ac mae cyfyngiad amser yn ei gwneud yn anodd i drafod a rhannu pob syniad yma, felly os y dymunwch gymryd fwy o ran yn yr ymgyrch, gyrrwch e-bost ataf (anwen[at]cartrefi.com) – a dwi’n siwr o’ch rhoi ‘ar ben ffordd’
Pwt bach i’ch cadw yn y darlun ynglyn a’r llythyrau at ein Cynghorau Cymuned ac at ein Cynghorwyr Sir – cafwyd ein noson yn y ‘Snowdonia Arms’ yn Waunfawr gyda nifer da o aelodau’n mynd ati i blygu llythyrau a stampio amlenni (ac ‘roedd y brechdannau a’r sglodion yn dda!) ac maent wedi eu postio gyda’r ymateb cynnar yn bositif dros ben! Mae e-byst wedi eu gyrru at y rhai oedd gan gyfeiriad e-bost felly mae pob Cyngor Cymuned a phob Cynghorydd Sir bellach yn ymwybodol o’r ymgyrch yma!
20/02/07
Mae’r mudiad Cymuned wedi anfon dros 600 o lythyrau, un at bob cyngor cymuned neu dref yng Nghymru, i ofyn iddynt ddatgan cefnogaeth i’r syniadau sydd i’w darllen ar wefan ymgyrch y mudiad Cartrefi.com. Mae’r wefan yn galw am gyfyngu caniatad ar gyfer tai preswyl newydd i bobl leol yn unig, fel sydd eisoes yn digwydd yn Swydd Efrog a Swydd Amwythig.
‘Rydym yn credu bod llais ein cynghorau cymuned a thref yn eithriadol o bwysig yng nghyd-destun yr argyfwng tai,’ medd Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned, ‘ac er bod gormod o rym wedi’i drosglwyddo o gynghorau cymuned i gynghorau sir, mae angen cymryd barn cynghorau cymuned a thref o ddifrif – nhw sydd yn gweld canlyniadau trychinebus y sustemau presennol o ddydd i ddydd yn eu cymunedau eu hunain.’
Mae llythyr Cymuned at holl gynghorau cymuned a thref Cymru yn gofyn am ddau beth – i’r cyngor ymateb i’r mudiad trwy bost neu e-bost er mwyn datgan cefnogaeth i syniadau Cartrefi.com, ac i’r cyngor lythyru’r Cyngor Sir lleol er mwyn gofyn yn uniongyrchol iddynt weithredu ar y syniadau hynny.
‘Cam cyntaf mewn ymgyrch arbennig o bwysig ydy hyn,’ medd Aran Jones. ‘Mae sôn wedi bod am yr argyfwng tai ers dros bum mlynedd bellach, ond prin iawn a chyfyng iawn ydy’r cynnigion i’w datrys. Mae gormod o bwyslais wedi bod ar dai fforddiadwy a dim digon ar sicrhau marchnad dai leol gynaladwy. Os bydd cynghorau cymuned a thref Cymru yn ymateb yn bositif i’n cais, bydd rhaid am drafodaeth dwys ar hyn fel rhan o ymgyrch etholiadol pob plaid i’r Cynulliad eleni.’
Am fwy o fanylion, cysylltwch â swyddfa Cymuned ar 01758-612712.
02/02/07
Bydd Sam Kuntz, o Denver, Colorado, yn helpu dosbarthu cardiau busnes ‘Sing4Wales.com’ yng Nghaerdydd dydd Sul nesaf (04/02/07). Mae Sam yn hedfan drosodd o America er mwyn treulio wythnos yng Nghymru, ac wedi mwynhau ‘Sing4Wales.com’ cymaint nes ei fod yn awyddus iawn i helpu ymledu’r gair amdani.
‘Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gyfarfod Sam,’ medd Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned, y grwp wnaeth greu’r wefan. ‘Mae ei gefnogaeth parod wedi bod yn beth braf iawn i’w weld, ac nid fo ydy’r unig person o America sydd yn cefnogi hyn yn frwd ‘chwaith – rydym wedi cael nifer o gymdeithasau Cymreig yn cysylltu i ofyn am bosteri Sing4Wales.com neu i ofyn i ni gynnwys caneuon penodol ar y wefan.’
Mae dros 1000 o bobl eisoes wedi ymweld â’r wefan Sing4Wales.com, er nad oedd Cymuned yn disgwyl ymateb tan ar ôl y gêm rygbi yn erbyn Iwerddon. Bydd cefnogwyr Cymuned yn dosbarthu posteri a chardiau busnes gyda geiriau’r anthem a Sosban Fach arnyn nhw dydd Sadwrn a dydd Sul y benwythnos hon.
‘Rydym wrth ein boddau gyda’r ymateb hyd yn hyn,’ medd Aran Jones. ‘Mae llawer iawn o bobl De Cymru wedi bod yn cysylltu ac yn gofyn am bosteri, ac mae posteri hefyd wedi mynd i Canada, America, Lloegr a’r Eidal!’
Am fwy o fanylion, cysylltwch â swyddfa Cymuned ar 01758-612712.
02/02/07
Mae gwefan newydd wedi ei lansio gan y grŵp cymunedau Cymuned i annog mwy o gefnogaeth i dimau Cymru. Mae’r wefan yn cynnwys geiriau, cyfieithiadau a fideos o rai o emynau a chaneuon mwyaf poblogaidd Cymru, a’r nod yw ei gwneud yn hawdd i gefnogwyr Cymru ddod yn gyfarwydd â’r gerddoriaeth.
‘Cwyn gyffredin yw nad yw’r canu yng ngemau rhyngwladol Cymru cystal ag y bu’ meddai Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned. ‘Ac yn fwy na hynny, gwyr chwaraewyr unrhyw dîm fod canu ysbrydoledig gan gefnogwyr yn gwneud byd o wahaniaeth. Ein gobaith yw y bydd Sing4Wales.com yn annog mwy o bobl sy’n mynychu gemau Cymru i godi llais!’
Bydd aelodau Cymuned yn dosbarthu posteri lliw llawn Sing4Wales yn nhafarndai, clybiau a siopau Caerdydd ddydd Sadwrn nesa yn barod ar gyfer gêm agoriadol Cymru ym mhencampwriaeth rygbi’r chwe gwlad yn erbyn Iwerddon. Byddant hefyd yn dosbarthu mwy na 6,500 o gardiau busnes gyda geiriau Hen Wlad fy Nhadau ar un ochr a Sosban Fach ar y llall. Bydd rhywfaint o grysau -t Sing4Wales.com ar gael hefyd.
’Y gobaith yw y bydd pob un yn cadw’r cardiau busnes yn ei waled ar ôl y gêm yn hytrach na’u taflu,’ meddai Aran Jones. ‘Gydag un o’r cardiau cyfleus hyn, ni fydd yn rhaid i neb fod yn yr un twll â John Redwood byth eto pan fethodd â meimio geiriau’r anthem hyd yn oed!’
Mae’r wefan yn cynnwys cyfraniadau gan artistiaid Cymraeg poblogaidd fel Meinir Gwilym a Siân James, ac mae’n cynnig her i bawb yng Nghymru sy’n meddwl fod ganddynt lais gwerth ei glywed. Gwnewch fideo a’i lwytho i fyny ar YouTube.com ac anfonwch y ddolen i contributions@sing4wales.com ac efallai y cewch chi’r cyfle i gyfrannu at awyrgylch chwaraeon mwya’ gwefreiddiol y byd.
Am ragor o fanylion ffoniwch swyddfa Cymuned ar 01758-612712.