1000 o danysgrifwyr di-Gymraeg i ebost wythnosol Cymuned
Mae ebost wythnosol y mudiad Cymuned erbyn hyn yn cyrraedd dros 1000 o danysgrifwyr di-Gymraeg. Mae Cymuned wedi bod yn denu cefnogaeth y Cymry di-Gymraeg i’r gwaith o ennill dyfodol i’n cymunedau Cymraeg trwy ddangos sut mae problemau tebyg iawn yn wynebu cymunedau ar draws y wlad. Mae’r carreg filltir ddiweddaraf yn dangos sut mae’r gwaith yn cychwyn dwyn ffrwyth.
‘Mae sector newydd o’r poblogaeth wedi cychwyn rhoi cefnogaeth gref iawn i’n gwaith,’ medd Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned. ‘Rydym yn falch iawn i weld hyn yn digwydd, er bod rhaid i ni ddal ati i gynyddu’r niferoedd sydd yn derbyn yr ebost Cymraeg hefyd.’
Cred Cymuned bod ymgyrchoedd fel Cartrefi.com, AsDrwg.com a TaiHaf.com yn rhoi cyfle euraidd i’r Cymry Cymraeg a’r Cymry di-Gymraeg gydweithio ar faterion sydd yn achosi problemau sylweddol ar draws y genedl.
‘Bydd creu marchnad dai leol gynaladwy, economi leol cynaladwy, a chynghorau sir sydd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg,’ medd Aran Jones, ‘yn mynd yn bell iawn i greu dyfodol llewyrchus i’r iaith Gymraeg. Trwy ddenu cefnogaeth Cymry di-Gymraeg i’r ddau cyntaf, mae modd wedyn eu hannog i gefnogi’r trydydd hefyd.’
Am fwy o fanylion, cysylltwch â swyddfa Cymuned ar 01758-612712.



