CRE Cymru, Heddlu Gogledd Cymru a grwp ymgyrchu o Loegr o blaid cymunedau Cymraeg
Ar ddydd Sadwrn (14/04/07) ym Mhenrhyndeudraeth yn ystod Cynhadledd Flynyddol Cymuned, siaradodd Chris Myant o CRE Cymru a Richard Brunstrom o Heddlu Gogledd Cymru yn gryf iawn o blaid yr iaith Gymraeg a chymunedau yng Nghymru. Mewn rhai o’r datganiadau mwyaf trawiadol sydd wedi’u cyflwyno gan ffigyrau cyhoeddus yng Nghymru hyd yn hyn, wnaethpwyd yn glir gan y ddau bod y gwaith o ennill dyfodol i’r iaith ac i gymunedau Cymraeg angen ac yn haeddu arweiniad gwell ac ymrwymiad cryfach oddi wrth y Cynulliad.
‘Roedd hyn yn ddiwrnod hynod bwysig ar gyfer iaith a chymunedau Cymru,’ medd Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned. ‘Dangosodd Prif Gwnstabl Richard Brunstrom yn glir iawn ei fod yn credu’n gryf bod angen i sefydliadau sydd yn gwasanaethu siaradwyr Cymraeg wella safon eu darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, a bod angen i unigolion wneud yr ymdrech i ddysgu’r iaith, tra dwedodd Chris Myant yn blwmp ac yn blaen bod cryfhau iaith a chymunedau Cymru yn medru, ac yn haeddu, mynd llaw yn llaw gyda gwaith cydraddoldeb y CRE.’
Wrth ystyried tyndra sydd wedi bod yn y gorffennol rhwng ymgyrchwyr iaith a’r CRE, cred Cymuned bod hyn yn cynrychioli newid hynod arwyddocaol ar ran safon y trafodaeth am ymgyrchu ieithyddol a chymunedol.
‘Rydym yn ddiolchgar iawn i Richard Brunstrom a Chris Myant am eu mewnbwn hanesyddol i’n Cynhadledd,’ medd Aran Jones, ‘ac felly hefyd i Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a siaradodd yn gryf iawn am y dolenni rhwng gymunedau, tai ac addysg. Mae’n dod yn hollol glir bod ymgyrchu’n gryf dros yr iaith Gymraeg, a galw am fesurau i amddiffyn ein cymunedau a’u gwneud yn gynaladwy, yn rhan teilwng a chlodwiw o’r gwaith o gryfhau cymdeithas sifil yng Nghymru.’
Roedd aelodau o Purbeck Housing Action o Dorset hefyd yn bresennol yn y gynhadledd, yn mynegu cefnogaeth i waith Cymuned ar dai ac ar yr iaith Gymraeg.
‘Roeddwn ni wrth ein boddau i groesawu cyfeillion o Loegr i’r gynhadledd,’ medd Aran Jones, ‘a rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Purbeck Housing Action i hyrwyddo’r ymgyrch Homes4Locals.com mor eang â bod modd. Mae’n hen bryd i bawb weld bod ein gwaith ni yn bositif ac yn bwysig, boed yng Nghymru, yng Nghernyw, yn Lloegr neu unrhywle arall.’
Am fwy o fanylion, cysylltwch â swyddfa Cymuned ar 01758-612712.



