Wordpress Themes
 

Cymuned yn cyfarfod gydag arweinydd Plaid Cymru ac arweinydd y Ceidwadwyr

11/06/07

Bydd dirprwyiaeth o Gymuned, y grŵp ymgyrchu cymunedol, yn mynychu nifer o gyfarfodydd yn y Cynulliad dydd Mercher yma (13/06/07), gyda Ieuan Wyn Jones, Nick Bourne, Mark Isherwodd a Rhodri Glyn Thomas, er mwyn trafod y darpar Mesur Tai i Gymru y mae’r Blaid Lafur wedi ymrwymo i’w baratoi.

‘Mae hyn yn gyfle euraidd i weithredu polisiau blaengar wneith wahaniaeth real i bobl Cymru,’ meddai Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned. ‘Rydym yn falch iawn i fod yn trafod y camau nesaf yn hyn o beth gydag arweinwyr Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr, ac yn edrych ymlaen at glywed ymateb y Blaid Lafur a’r Rhyddfrydwyr Democrataidd i’n cais i drafod yr un materion gyda nhw.’

Cred Cymuned fod angen trafodaeth cynhwysfawr ar sefydlu egwyddor marchnad dai leol gynaladwy, yn hytrach na chanolbwyntio ar dai fforddiadwy mewn ffordd gallasai arwain at gymhlethdodau di-angen.

‘Mae egwyddor y farchnad leol eisoes wedi’i sefydlu mewn llefydd fel Swydd Efrog ac ynysoedd y Sianel,’ meddai Iestyn ap Dafydd o Gaerffili, ‘a rydym yn fawr obeithio y bydd gwleidyddion Cymru yn darparu sustem tebyg er mwyn ennill dyfodol cynaladwy real i gymunedau ar draws Gymru.’

Cred Cymuned y byddai creu marchnad dai leol gynaliadwy yn atal y dadfeiliad sy’n digwydd mewn cymunedau ledled Cymru ar hyn o bryd, ac yn cynnig sylfaen cadarn ar gyfer y gwaith tyngedfennol o gryfhau economïau lleol er mwyn creu gwell dyfodol i Gymru gyfan. Mae’r grŵp yn gyfrifol am ymgyrch Cartrefi.com sy’n annog pobl i gymryd rhan weithgar yn eu cymunedau a gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â swyddfa Cymuned ar 01758-612712.


Cymuned, 64 Stryd Fawr, Pwllheli, Gwynedd LL53 5RR - 01758-612712 - cymuned[at]cymuned.org