Cymuned yn cyfarfod gyda llefarydd tai y Democratiaid Rhyddfrydol
Ar ddydd Mercher (04/07/07) bydd dirprwyiaeth o Gymuned, y grŵp ymgyrchu cymunedol, yn cyfarfod â llefarydd tai y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black, er mwyn trafod yr angen am farchnad dai leol gynaladwy yng Nghymru.
“Yr ydym yn falch o gael y cyfle i drafod y materion hyn gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol. Yr ydym eisoes wedi cael cyfarfod gydag arweinwyr Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr yn ddiweddar yn y Cynulliad, ac yn edrych ymlaen at glywed ymateb y Blaid Lafur i’n cais i drafod yr un materion gyda nhw,” medd Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned.
Cred Cymuned fod angen trafodaeth cynhwysfawr ar sefydlu egwyddor marchnad dai leol gynaladwy, yn hytrach na chanolbwyntio ar dai fforddiadwy mewn ffordd gallasai arwain at gymhlethdodau di-angen, ac byddai creu marchnad dai leol gynaliadwy yn atal y dadfeiliad sy’n digwydd mewn cymunedau ledled Cymru ar hyn o bryd, ac yn cynnig sylfaen cadarn ar gyfer y gwaith tyngedfennol o gryfhau economïau lleol er mwyn creu gwell dyfodol i Gymru gyfan. Mae’r grŵp yn gyfrifol am ymgyrch Cartrefi.com sy’n annog pobl i gymryd rhan weithgar yn eu cymunedau a gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â swyddfa Cymuned ar 01758-612712.



