Wordpress Themes
 

Cymuned yn cefnogi galwad Cymdeithas yr Iaith ar ysgolion bychain

22/10/07

Cred Cymuned fod Cymdeithas yr Iaith yn gywir i ofyn i Adran Materion Gwledig Llywodraeth y Cynulliad gymryd drosodd adeiladau ysgolion pentrefol er mwyn eu datblygu’n adnoddau adfywio’r pentrefi. Bydd modd wedyn i Awdurdodau Addysg Lleol rhentu’n ol y capasiti o’r adeilad sydd ei angen i gynnal ysgol gan dynnu’r pwysau ariannol i ffwrdd o’r ddadl a diogelu’r adnodd pwysicaf sydd gan gymuned bentrefol Gymraeg.

Bydd cael hyd o grwpiau a busnesau lleol i rannu defnydd o ysgolion bychain hefyd yn medru amlygu pwysigrwydd mentergarwch i blant ysgol, rhywbeth y mae prosiectau eraill y Cynulliad wedi ceisio ei wneud.

‘Rydym yn cefnogi’r awgrym polisi yma gan y Gymdeithas,’ medd Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned, ‘gan ei weld yn cynnig ffordd ddyfeisgar ymlaen gall helpu datrys un o broblemau mwyaf cefn gwlad.’

Bydd Cymuned hefyd yn cydweithio gyda’r Gymdeithas i gynnal protest tu allan i brif fynedfa Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon am 1 o’r gloch prynhawn dydd Iau (25/10/07) i alluogi rhieni a llywodraethwyr i godi eu llais am y Cynllun Trefnidiaeth Ysgolion a gaiff ei drafod y prynhawn hwnnw gan Bwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifainc y Cyngor. Bydd y mudiadau’n galw ar y Pwyllgor i wrthod pasio’r Cynllun ac i gyfarwyddo swyddogion i fynd yn ôl i’w drafod gyda’r holl fyrddau llywodraethol yr effeithir arnynt er mwyn datblygu cynllun amgen sydd yn fwy bositif.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â swyddfa Cymuned ar 01758-612712.


Cymuned, 64 Stryd Fawr, Pwllheli, Gwynedd LL53 5RR - 01758-612712 - cymuned[at]cymuned.org