Cymuned yn targedu Cyngor Ynys Môn fel ‘cam cyntaf’ mewn ymgyrch swyddi i bobl leol CyngorNi.com
Cynhalwyd brotest yn targedu Cyngor Ynys Môn gan y mudiad cymunedol ac ieithyddol Cymuned heddiw (dydd Iau, 26ain o Chwefror) fel rhan o’u hymgyrch diweddaraf CyngorNi.com, sydd yn galw ar gynghorau sir sydd yn gwasanaethu’r Fro Gymraeg i ddilyn enghraifft Cyngor Gwynedd trwy weithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn medru cynnig gwasanaeth wirioneddol ddwyieithog. Cafwyd stondin gwybodaeth ei osod y tu allan i swyddfeydd y Cyngor er mwyn dosbarthu taflenni yn esbonio mwy am CyngorNi.com, gyda baner mawr lliwgar er mwyn denu sylw at yr ymgyrch.
‘Os ydym i ennill dyfodol llewyrchus i bobl ifan Môn, ac ar gyfer ein hiaith mewn un o’i chadarnleoedd olaf, mae’n hanfodol bwysig bod Cyngor Ynys Môn yn dilyn enghraifft hynod lwyddiannus Gwynedd trwy ddarparu swyddi sydd yn galluogi pobl i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg, gan hefyd creu cyfleuon real i newydd-ddyfodiaid proffesiynol ddysgu’r Gymraeg yn rhugl,’ medd Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned.
Pleidleisiodd Cymuned o blaid yr ymgyrch hon yn eu cynhadledd flynyddol ddiweddaraf, ac mae’r mudiad wedi bod yn gweithio ers hynny i baratoi gwaith ymchwil ac i gasglu cefnogaeth cyn lawnsio’r ymgyrch yn gyhoeddus. Cred Cymuned fod darparu swyddi o safon uchel i bobl leol ydy’r her fwyaf sy’n wynebu gwleidyddion sydd eisiau arafu’r all-lifiad o bobl ifanc Ynys Môn.
‘Mae ein pobl ifanc yn gadael yr ardal gan gymryd eu cymwysterau a’u sgiliau dwyieithog gyda nhw,’ medd Aran Jones, ‘ac fel cyflogwr mwyaf arwyddocaol yr Ynys, mae cyfrifoldeb mawr ar y Cyngor i helpu arafu’r all-lifiad. Bydd gweithio’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg yn dangos i bobl ifanc bod yna le iddyn nhw ar yr Ynys, gan osod gwerth real iawn ar eu sgiliau ieithyddol.’
Mae Cymuned eisoes wedi anfon llythyrau at bob cynghorydd sir yn galw arnynt i gefnogi’r ymgyrch, ac wedi paratoi amserlen o weithredoedd ar gyfer gweddill 2009. Cred y mudiad y dylai pob trigolyn Ynys Môn sydd yn bryderus am weld mwy o bobl ifanc yn gadael yr ardal, a sydd yn poeni am ddyfodol yr iaith Gymraeg, ymweld â gwefan CyngorNi.com er mwyn cael gweld sut i roi help llaw gyda’r ymgyrch.



