Wordpress Themes
 

‘Syr William Proby’ mewn gwrthdystiad yn erbyn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

08/11/07

Bydd aelodau Cymuned a’r Pwyllgor Trigolion Rhostyllen yn croesawu ‘Syr William Proby’ i wrthdystiad yng nghanol tref Wrecsam dydd Sadwrn nesaf (10/11/07) am 2.00 o’r gloch y prynhawn yn erbyn cynlluniau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i godi 223 o dai ar dir Erddig ger Rhostyllen (gweler www.Rhostyllen.com). Wythynos ddiwethaf, dwedodd Syr William, cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ei fod am weld yr Ymddiriedolaeth yn prynu tir er mwyn rhywstro datblygu ar lefydd gwyrdd. Dydd Sadwrn, bydd manicin yn cynrychioli Syr William er mwyn dangos bod ei safbwynt yn gryf yn erbyn y datblygiad arfaethedig yn Rhostyllen.

‘Credwn fod Syr William yn hollol gywir i rybuddio yn erbyn gor-ddatblygu,’ medd Carrie Harper, cynrychiolydd Cymuned yn Rhostyllen, ‘ac er nad yw wedi ymateb i’n cais am gyfarfod eto, rydym yn hyderus y byddai’n gefnogol iawn i’r hyn rydym yn ceisio ei amddiffyn yn Rhostyllen. Hei lwc y bydd y Syr William go-iawn yn ymuno â ni tro nesaf!’

Mae’r Ymddiriedolaeth am gael caniatad i godi’r tai er mwyn gwerthu’r tir i ddatblygwr preifat, gan godi arian at gronfa ariannol ar gyfer y stad Erddig. Nid oedd cronfa ariannol cychwynnol, maent yn hawlio – er iddynt werthu 63 o erwau o dir Erddig am bron yn £1 miliwn yn y 70au. Nid ydynt wedi datgelu i le diflannodd y gronfa sylweddol honno.

Dwedodd Tara Green, ysgrifenyddes Pwyllgor Trigolion Rhostyllen, ‘£900 miliwn sydd gen yr Ymddiriedolaeth yn y banc – pam na fedran nhw rhoi mymryn bach o hynny er mwyn creu cronfa newydd i Erddig, yn hytrach na gorfodi ein cymuned fach ni i dalu’r pris oherwydd iddyn nhw wastraffu’r gronfa wreiddiol?’

Cred ymgyrchwyr ‘Dim ar Erddig’ fod rhaid i’r Ymddiriedolaeth ddewis rhwng wneud elw mawr yn Rhostyllen neu siarad yn gyhoeddus yn erbyn gor-ddatblygu. Os byddant yn ceisio gwneud y ddau, ni fydd neb yn eu cymryd o ddifrif.


Cymuned, 64 Stryd Fawr, Pwllheli, Gwynedd LL53 5RR - 01758-612712 - cymuned[at]cymuned.org