Wordpress Themes
 

Galw ar y Cynulliad i sicrhau cydraddoldeb i Gymru oddi wrth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

22/11/07

Mae’r mudiad Cymuned wedi galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i ymateb i sylwadau gan Syr William Proby, cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sydd yn credu y dylai’r Ymddiriedolaeth fod yn amddiffyn tir agored yn erbyn datblygwyr. Ar yr un pryd, mae’r Ymddiriedolaeth yng Nghymru yn gwthio ymlaen gyda chynllun amhoblogaidd i godi 223 o dai ar dir gwyrdd ger Rhostyllen, yn Wrecsam, lle mae ymgyrch lleol wedi’i ffurfio ar www.Rhostyllen.com i gwffio yn erbyn y datblygiad.

‘Mae’n edrych fel bod yr Ymddiriedolaeth am rwystro datblygu yn Lloegr tra’n elw o’r argyfwng tai yng Nghymru,’ medd Carrie Harper, cynrychiolydd Cymuned yn Rhostyllen, ‘a rydym yn credu bod yn hyn yn anfoesol ac yn annheg i Gymru. Rydym yn gofyn i’r Cynulliad alw ar yr Ymddiriedolaeth am ddatganiad y byddant yn amddiffyn llefydd gwyrdd Cymru yr un mor angerddol ag y maent yn Lloegr.’

Mae’r Ymddiriedolaeth am gael caniatad i godi’r tai er mwyn gwerthu’r tir i ddatblygwr preifat, gan godi arian at gronfa ariannol ar gyfer y stad Erddig. Nid oedd cronfa ariannol cychwynnol, maent yn hawlio – er iddynt werthu 63 o erwau o dir Erddig am bron yn £1 miliwn yn y 70au. Nid ydynt wedi datgelu i le diflannodd y gronfa sylweddol honno.

Dwedodd Tara Green, ysgrifenyddes Pwyllgor Trigolion Rhostyllen, ‘Mae Rhostyllen yn falch i fod yn rhan o Gymru, a dydy o ddim yn deg i ni orfod derbyn datblygiadau mawr fel hyn, nad oes angen lleol ar eu cyfer, tra bod llefydd tebyg yn Lloegr yn cael eu hamddiffyn. Dydan ni ddim eisiau gweld ein pentref ni yn cael ei droi’n fan-chwarae ar gyfer pobl gefnog o bell i ffwrdd.’


Cymuned, 64 Stryd Fawr, Pwllheli, Gwynedd LL53 5RR - 01758-612712 - cymuned[at]cymuned.org