Wordpress Themes
 

Cymuned yn condemnio bygythiad yn erbyn Prif Weithredwr y mudiad

19/02/08

Mae’r mudiad cymunedol Cymuned wedi condemnïo’n hallt y rhai cyfrifol am anfon bygythiad di-enw at Brif Weithredwr y mudiad yn ei rhybuddio i ‘make your peace with your God while you can.’ Mae’r llythyr wedi’i drosglwyddo i Heddlu Gogledd Cymru ac yn cael ei archwilio gan yr adran fforensics yn Llanelwy.

‘Mae’r ymosodiad cachgiaidd yma yn dangos yn glir sut fath o bobl sydd yn gwrthwynebu’r gwaith positif mae Cymuned yn ceisio ei wneud,’ medd llefarydd ar ran Cymuned. ‘Yn amlwg, nid oes modd i ni ymateb yn uniongyrchol i lythyr di-enw, ond hoffem ofyn wrth y cachgi hwn pa elfen o waith Cymuned mae eisiau tanseilio.’

‘Ydy hyn yn ymosodiad yn erbyn ein gwaith lobïo wrth alw am dai i bobl leol, a’r gwaith cysylltiedig yn pwysleisio natur hanfodol cymunedau ar draws Cymru? Neu ydy hyn yn ymosodiad yn erbyn Rhwydwaith Busnes Pwllheli rydym wrthi’n codi mewn cydweithrediad â busnesau lleol ym Mhwllheli, er mwyn helpu marchnata busnesau lleol yn fwy llwyddiannus? Neu ydy hyn yn ymosodiad yn erbyn ein Prif Weithredwr a’i deulu am iddynt roi cymaint o’u hamser a’u brwydfrydedd i fewn i’r gwaith disgrifwyd uchod?’

Cred Cymuned y bydd angen trafod strwythur y mudiad er mwyn sicrhau nad oes modd i bobl afiach fel hyn dargedu aelodau unigol y mudiad yn yr un modd yn y dyfodol. Serch hynny, mae’r mudiad yn benderfynol na fydd yn caniatau i fygythiadau fel hyn dorri ar draws gwaith caled a diffuant aelodau ar draws Cymru – fel sydd wedi bod yn wir erioed, ni fydd y mudiad yn plygu yn wyneb casineb. Bydd Cymuned yn parhau i hyrwyddo Pwllheli.org ar ran busnesau lleol ym Mhwllheli, yn parhau i hyrwyddo Catrefi.com ar ran pobl leol sydd yn methu fforddio cartrefi, ac yn parhau i hyrwyddo Cymuned.net ar gyfer pobl sydd yn awyddus i wneud cyfraniad positif i’w cymunedau.

Mae’r mudiad wedi diolch i Heddlu Gogledd Cymru am eu proffesiynoldeb wrth ymateb i’r sefyllfa, ac am y cymorth sydd wedi’i gynnig trwy’r sustem Cefnogaeth i Ddioddefwyr.


Cymuned, 64 Stryd Fawr, Pwllheli, Gwynedd LL53 5RR - 01758-612712 - cymuned[at]cymuned.org