Wordpress Themes
 

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwaith 2006

18/04/06

[Dyma araith Richard Evans, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Cymuned, i'r Gynhadledd.]

Yn gyntaf, diolch yn fawr iawn i chi gyd am fod yma heddiw – mae eich presenoldeb yn hanfodol bwysig i’r mudiad – hebddoch chi yma heddiw, byddai’n amhosibl i ni hawlio sylw yn y Wasg o gwbl, hawlio sylw gyda gwleidyddion, neu hawlio bod ni’n mynegi pryderon go-iawn. Diolch am ddod – a blwyddyn nesaf, dewch â rhywun arall efo chi fesul un!

Roedd y flwyddyn sydd wedi mynd heibio yn un heriol, lliwgar a diddorol iawn. Nid oes modd datgan bod Cymuned, fel grym gwleidyddol, yn ôl lle roedd y mudiad yn 2001/2002, ond rydym yn credu’n gwbl diffuant ein bod ni ar y ffordd. Mae’r Pwyllgor Gwaith yn hyderus iawn bod y gweledigaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod bydd yn cael ei rhoi ger eich bron gan y Brif Weithredwr yn y man yn un cyffrous, ymarferol ac yn haeddu eich cefnogaeth llwyr.

Ond gadewch i mi fynylu ar waith y flwyddyn aeth heibio – neu, i fod yn fanwl, y 10 mis aeth heibio, oherwydd i ni symud y Gynhadledd ymlaen eleni wedi’r cais i ni wneud hynny ganddoch y llynedd. Mae wedi bod yn 10 mis prysur iawn!

Datganodd y mudiad yn y Gynhadledd y llynedd ein bod wedi ymrwymo i wrthsefyll y cynlluniau ar gyfer ehangu Marina Pwllheli, a gwir pob gair oedd hynny – o fewn ychydig o wythnosau, roedd y dadlau wedi mynd yn danbaid, a roedd aelodau’r Pwyllgor Gwaith wedi mynd ati i drefnu piced yn y Marina i ddangos ein gwrthwynebiad. Roedd nifer ohonoch chi yno – a rydym yn ddiolch o waelod calon i chi am hynny, am eich dewrder a’ch cwrteisi cadarn yn wyneb ymosodiadau geiriol a bygythiad tractorau rhai o bobl y Marina. Roedd yn brofiad digon ysgytwol, yn enwedig wrth ystyried bod pobl hŷn, gwragedd a babanod yn rhan o’r piced – ond fel rydym wedi dysgu unwaith eto yn ddiweddar iawn wrth i’n carafan gael ei losgi’n ulw, nid oes modd disgwyl i’r rhai sydd am weld tranc yr iaith ymddwyn yn wâr.

Trechwyd y Marina, fel y bydd nifer ohonoch chi yn ei gofio, a diwrnod llawen iawn oedd y diwrnod hwnnw yng Nghaernarfon pan ddaeth y newyddion allan i’r rhai ohonom oedd yn aros y tu allan i’r Siambr. Buddogoliaeth i synnwyr cyffredin a buddugoliaeth i’r rhai hynny sydd yn dal i weld yr iaith yn ystyriaeth bwysig – a buddugoliaeth pwysig iawn i Gymuned, hefyd.

Yn fuan wedi’r penderfyniad, cawsom Eisteddfod Genedlaeth mwyaf lewyrchus Cymuned ers yn hir iawn, gyda gwerthiant ein cryno disgiau yn mynd heibio mil o bunnoedd am yr wythnos, a nifer o bobl newydd yn ymaelodi. Dyna oedd cam olaf y gwaith o ail-osod y mudiad ar seiliau ariannol cadarn, ac yn cychwyn ar gyfnod o ddechrau ehangu ein gwaith unwaith eto.

Trwy hyn i gyd, a’r pethau eraill y byddwch yn clywed amdanyn nhw gan y Brif Weithredwr yn y man, mae’r Pwyllgor Gwaith wedi chwarae rôl o ddatblygu strategaeth, gefnogi’r Brif Weithredwr yn ei waith i ddenu mwy o aelodau, ac o reoli sefyllfa ariannol y mudiad. Hoffwn ddiolch i Geraint Hughes am gyflawni dyletswyddau’r Trysorydd am y flwyddyn aeth heibio, ac am ei adroddiad yma heddiw.

Bydd ffrwyth ein gwaith datblygu strategaeth yn cael ei gyflwyno i chi yn nes ymlaen gan y Brif Weithredwr, a rydym yn gobeithio’n fawr iawn y byddwch yn ei weld yn deilwng.

I orffen, hoffwn estyn llongyfarchiadau’r Pwyllgor Gwaith i’r Brif Weithredwr am gyrraedd rownd y tri olaf yn y cystadleuaeth Gwobrau Arwain Cymru. Rydym yn gweld ei lwyddiant fel un o nifer o arwyddion sydd yn dangos bod y flwyddyn nesaf yn mynd i fod yn llwyddiannus iawn i Gymuned.


Cymuned, 64 Stryd Fawr, Pwllheli, Gwynedd LL53 5RR - 01758-612712 - cymuned[at]cymuned.org