Pethau bychain Dewi Sant
“Gwnewch y pethau bychain,” medd Dewi Sant.
Er mwyn bodloni’r Sant, dewiswch un o’r mân-weithredoedd isod i wneud HEDDIW:
1) Gosod rhwyfaint o sticeri melyn yn eich ardal chi (e-bostiwch ni yn y swyddfa er mwyn gofyn am sticeri melyn am ddim)
2) Gosod sticer car ar gefn eich car – mae rhai megis CaruCymru.com ar gael am bris isel at http://www.cafepress.com/cymuned/1638760 (yn cael eu hanfon o’r Unol Daleithiau, gan nad yw sustem felly, yn anffodus, ar gael eto yng Nghymru)
3) Gwisgo bathodyn Dewi Sant gydag un o gyfeiriadau We’r mudiad arno – mae nifer ar gael at http://www.cafepress.com/cymuned am brisiau isel – neu beth am brynu 100 a’u dosbarthu i’ch ffrindiau?
4) Gosod hysbyseb yn eich papur bro lleol, neu bapur lleol arall – gyda chyfeiriad We SAFWCH.com, neu CaruCymru.com neu (mewn papurau Saesneg) DeadWelsh.com, NotEnglish.com neu WelshNotBritish.com. Dim ond y cyfeiriad sydd angen – ac mae prisiau ar gyfer hysbyseb bach yn rhesymol iawn.
5) Defnyddio un o’n gwefannau fel eich cyfeiriad e-bost. Hynny yw, gofyn i ni osod eichenw@carucymru.com (neu unrhyw un o’r gwefannau) fel ei bod yn mynd at eich cyfeiriad We presennol. Mae hyn yn ffordd hynod effeithiol i ymledu’r gair am ein gwefannau.
6) Anfon cardiau post ‘English-in-Wales.com’ at newydd-ddyfodiaid yn eich ardal chi sydd heb ddysgu’r Gymraeg. Mae hyn yn osgoi unrhyw angen i gael trafodaeth anodd wyneb yn wyneb, ond yn rhoi neges clir a theg i bobl newydd yn ein cymunedau. Cewch 10 cerdyn post trwy anfon £1 at y swyddfa. Mwy o fanylion ar www.Dysgwch.com
7) Anfon atom enwau a chyfeiriadau pobl rydych yn eu nabod sydd yn gefnogol i’r achos ond heb fod yn aelodau Cymuned. Byddwn ni wedyn yn anfon llythyr atyn nhw i’w gwahodd i ddod yn aelodau. Nid oes angen bellach i chi awgrymu ymaelodi i’ch ffrindiau a’ch teulu, rhywbeth sy’n medru bod yn anghyfforddus braidd – allan o bob 5 o enwau a chyfeiriadau rydych yn anfon atom ni, bydd 1 neu 2 yn dod yn aelod. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth ANFERTH i ni.
Os oes modd i chi gael hyd o 5 munud yr wythnos, beth am anfon llythyr at eich papur lleol i dynnu sylw at un o’n gwefannau a/neu ymgyrchoedd? Bob tro bydd papur newdd yn argraffu llythyr gydag un o’n gwefannau ynddo, mae nifer o bobl newydd yn dod yn danysgrifwyr i’n cylchebost wythnosol, ac ymhen amser yn weithredwyr ac aelodau newydd y mudiad.
9) Prynu crys-T Cymuned a’i wisgo. Mae gynnon ni ystod o grysau-T gyda draig goch arnyn nhw, yn hyrwyddo’r gwefannau CARTREFI.com, Sing4Wales.com, WelshNotBritish.com a NotEnglish.com. Rydym yn eu gwerthu am £12 mewn Eisteddfodau, ond am £5 i’n haelodau (gyda £2 am bris postio). Anfonwch £7 atom ni gan ddweud pa gyfeiriad We, pa faint, a du neu wyn, a byddwn yn anfon y crys-T atoch o fewn pythefnos.
10) Anfonwch eich e-bost wythnosol ymlaen at unrhyw un sydd â diddordeb yn y math yma o waith (ac os ydych chi heb gael yr e-bost wythnosol, tanysgrifwch ar www.Safwch.com er mwyn ei dderbyn bob wythnos!).
YN OLAF – heb ymaelodi? Rydym ANGEN eich cymorth. Anfon eich enw a chyfeiriad atom ni a byddwn ni’n anfon llythyr atoch chi yn esbonio pam rydym yn credu y dylech chi ymaelodi…:-)
Dewiswch eich gweithred, a *gwnewch* o rwan! Nid oes modd adeiladu gwell dyfodol trwy fynychu un neu ddau o brotestiadau fesul blwyddyn – mae angen pum munud bob dydd… ac mae pum munud wirioneddol yn gwneud i bethau ddigwydd!
Cofion cynnes,
Aran Jones
Prif Weithredwr Cymuned
ar ran Pwyllgor Gwaith Cymuned
cymuned@cymuned.org
www.cymuned.org
O.N. Ni ddylid gosod sticeri ar eitemau cyhoeddus.
O.O.N. Cofiwch adael i ni wybod yn y swyddfa os byddwch yn gwneud unrhyw un o’r gweithredoedd uchod – byddwn ni wedyn yn anfon gwahoddiad atoch i ymuno â ni ar negesfwrdd breifat i weithredwyr ymarferol y mudiad.



