Ydych chi eisiau i’ch cymuned CHI oroesi?
Mae Cymuned yn gweithio o blaid cymunedau Cymru. Rydym yn credu bod angen llais cryfach i’n cymunedau – rydym yn credu y dylai pobl fel chi fod yn rhan o’r penderfyniadau sy’n effeithio ar eich cymuned CHI.
- Hoffech chi weld marchnad dai sydd yn galluogi pobl leol i aros yn eu cymunedau, ac i gynnal natur y cymunedau hynny?
- Hoffech chi weld economi leol sydd yn cryfhau busnesau bychain lleol, fel bod pobl yn medru cael gwaith o safon yn eu cymunedau eu hunain?
- Hoffech chi weld cymunedau cryfach lle mae pobl yn nabod ei gilydd a lle mae modd cynnal ysgolion bychain, meddygfeydd lleol a siopau lleol?
- Hoffech chi weld sefydliadau yn y Fro Gymraeg yn defnyddio’r Gymraeg fel iaith gwaith?
- Hoffech chi weld ysgolion yn y Fro Gymraeg yn cynnig addysg ddwyieithog lawn i’w disgyblion?
Eisiau gwybod mwy?
Cewch wybod beth sydd yn mynd ymlaen, a sut mae modd i CHI newid dyfodol eich cymuned, trwy danysgrifio i’n ebost wythnosol:
Cewch wybod beth sydd yn mynd ymlaen, a sut mae modd i CHI newid dyfodol eich cymuned, trwy danysgrifio i’n ebost wythnosol:
Beth am ddod yn rhan o’n gwaith ni?
Gyda’n gilydd, mae modd gwneud y gwahaniaeth sydd ei angen.
- Mae pris peint y mis yn medru newid y byd.
- Mae aelodau Cymuned yn derbyn cylchlythyr bob yn ail fis i’w hysbysu am weithgareddau’r mudiad.
- Mae aelodau gweithredol yn medru cadw ar flaen y gad trwy danysgrifio i e-bost wythnosol.
Cewch ei llenwi a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar y ffurflen.



