Ymgyrchoedd
Mae Cymuned yn canolbwyntio ar nifer o ymgyrchoedd ymarferol fyddai’n gwneud gwahaniaeth go iawn i safon byw pobl Cymru, yn y Fro Gymraeg a thu allan iddi.
Mae Cartrefi.com yn galw am i gynghorau sir Cymru ddilyn arweiniad Swydd Efrog trwy ganiatau tai newydd ar gyfer pobl leol yn unig. Cewch ddarllen y newyddion diweddaraf am yr ymgyrch trwy glicio yn fan hyn.
Bydd ffrydiau newyddion ar gyfer dwy ymgyrch arall, TaiHaf.com ac AsDrwg.com, ar gael yn fuan. Yn y cyfamser, cewch ddarllen mwy am y ddwy trwy glicio ar eu henwau uchod.
Ar wahân i ymgyrchoedd gwleidyddol, mae Cymuned yn gweithio mewn dau brif faes arall. Rydym yn datblygu rhwydweithiau busnes lleol, ac rydym yn hyrwyddo ymddiriedolaethau tir cymunedol. Mae’r ddau faes yn hynod bwysig i ddyfodol ein cymunedau Cymraeg, ac mae Cymuned yn ymrwymedig i wneud gwaith ymarferol dros ein cymunedau yr un pryd â lobïo’n wleidyddol.
Os hoffech gymryd rhan yn un o’r ymgyrchoedd uchod, dywedwch wrthym trwy lenwi’r ffurflen isod, a bydd rhywun yn cysylltu gyda chi yn fuan iawn.



