Beth ydy Cymuned?
Dyma gyflwyniad cryno i fudiad Cymuned – os bydd ganddoch gwestiynau pellach, croeso i chi bori trwy weddill y wefan neu gysylltu gyda ni yn y swyddfa ar cymuned[at]cymuned.org neu 01758-612712.
Mae Cymuned yn fudiad pwyso cymunedol sydd yn credu bod angen cryfhau cymunedau er mwyn creu dyfodol cynaliadwy i’n gwareiddiad. Rydym yn credu bod cryfhau cymunedau yn arwain at:
- wella safon byw pawb,
- creu dyfodol mwy sicr i’r iaith Gymraeg,
- llai o drosedd ac anhrefn a
- cymdeithas sy’n fwy iach ac yn fwy gwâr.
Yn ymarferol, rydym yn ymgyrchu dros:
- gyfyngu’r hawl i godi tai newydd i bobl leol yn unig (fel sydd yn digwydd yn Lloegr eisoes – gweler Cartrefi.com),
- codi treth llawer uwch ar dai haf (gweler TaiHaf.com),
- cyfyngu’r hawl i gychwyn siopau manwerthu a bwyd i bobl leol (gweler AsDrwg.com)
- a thros ddefnyddio’r iaith Gymraeg fel iaith fewnol sefydliadau yn y Fro Gymraeg (gweler Gweithio.com).
Rydym hefyd yn ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg ymysg newydd-ddyfodiaid i ardaloedd Cymraeg (gweler English-in-Wales.com), ymysg twristiaid (gweler Tourists-in-Wales.com) ac ymysg busnesau (gweler Business-in-Wales.com).
Rydym yn anfon e-bost wythnosol at bawb sydd yn tanysgrifio trwy un o’r gwefannau uchod (neu ar y brif wefan yn fan hyn – gweler isod) gyda newyddion am y digwyddiadau diweddaraf ym mhob ymgyrch, sydd hefyd yn tynnu sylw at achosion eraill sydd yn haeddu ein cefnogaeth. Mae’r e-bost bellach yn mynd at dros 1100 bob wythnos, ac yn magu momentwm cynyddol drwy’r amser.
Rydym yn credu ein bod wedi creu fframwaith sydd yn galluogi pobl leol i godi llais ar faterion sydd yn bwysig iddyn nhw mewn ffordd fwy effeithiol nag erioed o’r blaen. Mae pobl sydd yn derbyn yr e-bost wythnosol yn medru dod yn rhan o unrhyw ymgyrch trwy gysylltu gyda ni er mwyn cynnig gwneud un o ‘Bethau Bychain Dewi Sant’, ac wedyn maent yn cael cyfrannu at y broses o benderfynu sut i ddatblygu’r ymgyrch honno.
Mae’r patrwm hwn eisoes wedi arwain at grwpiau gweithredu newydd yng Ngwynedd, yn y Gogledd-Ddwyrain, yn y Cymoedd a hyd yn oed yng Nghernyw. Rydym yn hyderus mai dyma’r ffordd ymlaen i sicrhau bod llais pobl leol yn cael ei glywed yn gliriach gan ein gwleidyddion, boed yn rhai lleol neu rai cenedlaethol.
Cliciwch fan hyn i ddarllen pam y dylech chi ddod yn rhan o’n gwaith ni, neu fan hyn i ymaelodi.
Tanysgrifiwch i’n e-bost wythnosol am ddim
er mwyn clywed am bopeth sy’n digwydd.
Byddwn yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost er mwyn anfon ein e-bost wythnosol atoch – ni fyddwn BYTH yn ei ddefnyddio at UNRHYW ddiben arall.
Cliciwch yma am gyflwyniad i’r mudiad gan Dr Jerry Hunter.



